Jump to content
8. Anableddau dysgu a dementia

Os oes gan y person rydych chi'n gweithio gydag anabledd dysgu a dementia, gall casglu gwybodaeth o'i asesiadau cynharach fod yn ddefnyddiol iawn.

Gall deall pa wasanaethau y mae wedi bod yn gysylltiedig â nhw eich helpu i weld sut mae ei gyflwr wedi newid dros amser. Gall ei ddementia symud ymlaen yn gyflymach, felly mae adolygiadau a chyfarfodydd rheolaidd yn bwysig er mwyn sicrhau bod ei anghenion yn cael eu diwallu.

Mae gennym ganllaw sy'n esbonio sut i gael sgwrs am 'yr hyn sy'n bwysig' gyda rhywun ag anabledd dysgu.