Gwybodaeth am bwy sydd angen cymeradwyo ceisiadau cofrestru, pam fod angen cymeradwyo, a pha gamau mae rhaid i gymeradwywyr eu dilyn wrth adolygu a chadarnhau addasrwydd ymgeisydd
Gall prif lofnodwyr a llofnodwyr ychwanegol:
✅ gymeradwyo a gwirio ceisiadau i ymuno â'r Gofrestr neu adnewyddu cofrestriad
✅ cefnogi'r rhai sydd angen newid yn eu cofrestriad.
Pam fod angen cymeradwyo ceisiadau?
Pan fyddwch chi'n cymeradwyo cais, rydych chi'n cadarnhau nad oes gennych chi unrhyw broblemau gyda chymeriad, cymhwysedd neu addasrwydd yr ymgeisydd i ymarfer a'u bod nhw’n addas i gofrestru gyda ni.
Pwy sydd angen ei gymeradwyo?
Mae angen cymeradwyaeth ar bob cais, ac eithrio myfyrwyr gwaith cymdeithasol, cyn ymuno â'r Gofrestr.
Bydd manylion cofrestru myfyrwyr gwaith cymdeithasol yn cael eu cadarnhau gan eu prifysgol.
Pryd mae angen i chi gymeradwyo cais?
Bydd angen i chi gymeradwyo:
- ceisiadau newydd i ymuno â'r Gofrestr
- ceisiadau i adnewyddu cofrestriad
- newidiadau cofrestriad.
Ni fydd angen i geisiadau adnewyddu gan weithwyr cymdeithasol a rheolwyr gael eu cymeradwyo, oni bai ein bod ni wedi gofyn.
Byddwn ni’n anfon e-bost i'ch atgoffa chi bod cais yn aros i gael ei gymeradwyo. Ni allwn ni brosesu'r cais nes ein bod ni wedi derbyn y gymeradwyaeth. Os na fyddwch chi’n cyflwyno'ch cymeradwyaeth, byddwn ni’n cau’r cais heb eu cofrestru nac adnewyddu.
Sut i gymeradwyo cais
Gallwch chi gymeradwyo ceisiadau trwy eich cyfrif GCCarlein. Nid oes angen i chi weithio'n uniongyrchol gyda'r ymgeisydd. Os gallwch chi gadarnhau'r wybodaeth isod, rydych chi'n addas i gymeradwyo ceisiadau:
- Pan fydd ymgeisydd yn eich dewis chi fel eu cymeradwywr, byddwch chi’n cael e-bost yn rhoi gwybod i chi.
- Mae gennych chi saith diwrnod i adolygu a chymeradwyo eu cais.
- Os ydych chi'n hapus i gymeradwyo, gallwch chi gwblhau a chyflwyno'ch cymeradwyaeth.
Cyn i chi gyflwyno'ch cymeradwyaeth, mae angen i chi:
- ddarllen y cais a gwirio bod y wybodaeth a ddarparwyd gan yr ymgeisydd yn cyfateb i'r wybodaeth sydd gennych chi, gan gynnwys eu manylion disgyblu ac addasrwydd i ymarfer
- gwirio'r cais yn erbyn cofnod cyflogaeth yr ymgeisydd a chadarnhau eu bod nhw wedi gwneud cais i'r rhan gywir o'r Gofrestr
- cadarnhau gwybodaeth DBS ddiweddaraf yr ymgeisydd
- cadarnhau bod yr ymgeisydd yn addas i fod yn rhan o weithlu proffesiynol a bod ganddyn nhw'r sgiliau, y wybodaeth a'r hyfforddiant perthnasol i ddarparu gofal a chefnogaeth dda i bobl Cymru
- cadarnhau nad ydych chi’n perthyn i’r ymgeisydd nac mewn perthynas bersonol gyda nhw
- Efallai byddwn ni’n cysylltu â chi i wirio eich bod chi wedi cymeradwyo'r cais ac i gadarnhau eich manylion adnabod.
Os na allwch chi gymeradwyo cais
Os nad ydych chi’n gallu neu'n fodlon cymeradwyo cais, cysylltwch â ni yn llofnodwyr@gofalcymdeithasol.cymru.
Os oes gennych chi unrhyw bryderon am ymgeisydd neu berson cofrestredig, gweler sut rydyn ni’n delio â phryderon i gael gwybodaeth am sut i leisio eich pryder.