0:11
Fy enw i yw Tania Jones, ac rwy’n ddirprwy reolwr yn Nhŷ Gurnos Newydd.
0:16
Rydyn ni'n gartref preswyl i unigolion dros 65 oed,
0:20
pobl hŷn sy’n byw gyda neu heb ddementia.
0:23
Gan ein bod ni'n ran o gymuned Gurnos, mae’n bwysig iawn
0:26
ein bod yn cael ein cynnwys ac yn teimlo’n rhan o’r gymuned.
0:29
Mae enwau’r strydoedd o’n cwmpas yn enwau coed,
0:33
felly rydyn ni wedi cynnwys hynny fan hyn.
0:35
Rydyn ni eisiau’r teimlad o gymdogaeth, a theimlo’n rhan o’r gymuned.
0:43
Mi nes i gymhwyster rheoli Lefel 4 ddeng mlynedd yn ôl
0:47
pan oeddwn i'n weithiwr gofal uwch.
0:50
Ar y pryd, meddyliais “Rwy’n gwybod pob dim”, doedd gen i ddim awydd datblyg bryd hynny.
0:56
Roeddwn i'n hyderus ac yn gymwys yn fy rôl,
0:59
doedd dim llawer o uchelgais i wthio fy hun ymlaen.
1:03
Ond newidiodd hynny’n sylweddol pan nes i ddirprwyo fel rheolwr am dri mis.
1:08
Doeddwn i ddim yn gwerthfawrogi ei rôl hi,
1:11
maint ei chyfrifoldebau, a’r gofynion arni.
1:16
Roeddwn i ond wedi cefnogi pobl, eu teuluoedd a gweithwyr iechyd.
1:21
Pan oedd gen i rôl y rheolwr, roedd y llwyth gwaith yn ddwys iawn
1:26
ac roedd pethau nad oeddwn i'n gwybod am y gwasanaeth.
1:29
Felly, drwy wneud y cymhwyster, dysgais i lawer.
1:40
Cefais gyfle i gwrdd â’r tiwtoriaid.
1:43
Rhoddwyd canllaw i ni oedd yn nodi sawl wythnos
1:46
fyddai’r cymhwyster yn ei gymryd i'w gwblhau.
1:49
Roedd Lefel 4 yn flwyddyn,
1:51
a’r Lefel 5 yn flwyddyn a hanner.
1:52
Mi ddywedon nhw wrtha i y byddai’n rhaid i fi ymrwymo.
1:55
Rhoddwyd amserlen ar gyfer fy asesiadau.
2:00
Ac eto, roedden nhw'n pwysleisio'r ymrwymiad i’r cymhwyster.
2:11
Roedd gwneud Lefel 4 yn heriol iawn.
2:17
Cymerodd llawer o amser,
2:19
a roedd rhaid i mi reoli gwaith, bywyd adref a bywyd teuluol,
2:24
o gwmpas gwneud y cymhwyster.
2:26
Roedd rhaid cwrdd â therfynau amser llym.
2:28
Doedd dim modd bod yn hwyr.
2:31
Roedd gen i'r meini prawf asesu ymchwil iechyd a gofal ac un City & Guilds, felly roeddwn i'n cyfeirio at hynny
2:38
i edrych ar beth oedd yn allweddol,
2:41
a sut fyddan nhw'n fy marcio.
2:43
Roedd y gwaith o gyfeirio’n anodd iawn i mi.
2:46
Doedden i heb fod i brifysgol o'r blaen, a byth wedi gwneud cyfeirio arddull Harvard,
2:49
felly roedd yn gysyniad cwbl newydd i mi.
2:52
Ond fe wnes i oresgyn yr her, a dyfalbarhau.
2:55
Roedd Lefel 4 yn heriol iawn,
2:57
ond rhoddodd yr offer i mi ddatblygu ar gyfer Lefel 5.
3:06
Fel rhan o’r cymhwyster, roedd rhaid i mi fyfyrio.
3:10
Roedd angen edrych arna i fy hun.
3:12
Mae angen i mi gydnabod sut y mae pobl eraill yn fy ngweld i, a sut dwi'n meddwl mae nhw'n fy ngweld i.
3:18
Mae nhw'n gofyn cwestiynau fel sut ydych chi’n teimlo?
3:22
Beth fyddech chi’n ei wneud yn wahanol tro nesaf?
3:24
Ydych chi’n myfyrio ar weithred? Neu yn ystod gweithred?
3:28
Dwi'n gallu gorfeddwl weithiau,
3:31
ond fel rhan o fy cymhwyster, roedd rhaid i mi ysgrifennu fy myfyrdodau i lawr.
3:35
Sylweddolais wedyn bod pawb yn teimlo fel hyn.
3:45
Roedd rhaid i ni greu cynllun busnes ar gyfer newid yn y cartref.
3:49
Penderfynais hyrwyddo cyfleoedd cynhwysiant yn y gymuned.
3:54
Roeddwn yn deall pa mor bwysig oedd hi i rywun
3:57
oedd wedi gadael eu cartref lle roedd ganddyn nhw ryddid
4:01
i fynd a dod, ac i ymweld â’r gymuned leol,
4:04
wedyn i symud i ofal preswyl heb lawer o ysgogiad a diwrnod heb fawr o ystyr.
4:11
Felly, ein gweledigaeth yw gwella ansawdd bywyd pobl.
4:17
Roeddwn i eisiau pwysleisio ar hynny, gan alluogi pobl
4:21
i hyrwyddo eu annibyniaeth, eu hawliau, eu dewisiadau,
4:25
eu llais o reolaeth,
4:27
ac eto, gofal sy'n canolbwyntio ar y person, sy'n rhan o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant.
4:32
Rhoddwyd slot dwy awr i bawb dros bedair wythnos
4:36
iddyn nhw fynd allan i’r gymuned.
4:44
Roedd y staff yn ansicr ar y dechrau,
4:47
oherwydd ei fod yn rhywbeth tu allan i'r arfer.
4:49
Cymerodd amser ac roedd yn heriol. Roedd angen annog ac ysgogi'r staff ac roeddwn yn dweud
4:55
'edrychwch ar beth ry'n ni'n ei wneud a pham ry'n ni'n ei wneud?'.
4:59
Unwaith i mi egluro’r weledigaeth ac arwain y tîm mewn ffordd bositif,
5:04
roedden nhw'n gallu gweld yr effaith gadarnhaol ar yr unigolion.
5:08
Mae'r staff wedi bod yn anhygoel.
5:17
Fel rhan o’r prosiect, mae gan bob unigolyn lyfr sgrap.
5:22
Yn y llyfr hwn mae eu profiadau, eu hatgofion, pethau sy'n bwysig iddyn nhw.
5:28
Pan fydd y teulu’n ymweld, mae nhw wedyn yn gallu rhyngweithio â’r llyfr.
5:32
Mae pobl yn gallu mynd i le mae nhw eisiau.
5:34
Pan maen nhw yn y gymuned, maen nhw’n cael amser un i un o ansawdd da,
5:40
ac mae hyn wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i’w bywydau,
5:43
yn byw’n dda gyda dementia.
5:45
Mae nhw'n rhan o’r gymuned,
5:47
yn gwario ar bethau mae’n nhw eisiau.
5:51
Mae wedi bod yn llwyddiant mawr, yn gadarnhaol iawn.
5:55
Mae’r adborth wedi bod yn wych.
6:00
Mae gweld pobl yn dod i mewn ac allan o’r drws yn anhygoel.
6:05
Gweld eu gwên, eu bod yn rhan o’r gymuned,
6:10
yn gwneud pethau sy’n bwysig iddyn nhw.
6:18
Dwi 'di dysgu cymaint am arwain tîm,
6:22
pa gyfeiriad dylwn i fynd iddo, a sut i wneud y tîm ddilyn.
6:28
Mae’n anodd, ond mae'n bosib ei gyflawni
6:32
os ydych yn frwdfrydig, ymrwymedig,
6:36
angerddol, eisiau dysgu a datblygu ymhellach.
6:41
Ewch amdani! Os galla'i wneud hyn, gall unrhywun wneud.