Fel rhan o'ch cais i gofrestru gyda ni, mae angen i chi ddarparu llungopïau, sganiau neu ffotograffau o rai dogfennau. Weithiau bydd angen i chi sicrhau eu bod yn cael eu gwirio cyn i chi eu hanfon atom.
Y dogfennau sydd eu hangen arnoch i wneud cais i gofrestru
Gweithwyr gofal cymdeithasol
Os oes gennych gymhwyster, mae angen copïau o'ch tystysgrif cymhwyster arnom.
Os nad ydych wedi cael gwiriad DBS o fewn y tair blynedd diwethaf, bydd angen copi wedi'i wirio o'ch manylion adnabod â ffotograff, er enghraifft pasbort neu drwydded yrru.
Rheolwyr gofal cymdeithasol a gweithwyr cymdeithasol sydd wedi cymhwyso yn y DU
Os ydych chi'n gwneud cais fel:
- rheolwr gofal cymdeithasol
- gweithiwr cymdeithasol sydd wedi cymhwyso cyn 2007 (os gwnaethoch chi gymhwyso ar ôl y dyddiad hwn, nid oes angen copi o'ch tystysgrif cymhwyster arnom)
- gweithiwr cymdeithasol sydd wedi cymhwyso gyda gradd yn y DU, ond y tu allan i Gymru
a’ch:
- bod wedi cael gwiriad DBS o fewn y tair blynedd diwethaf, neu eich bod ar y gwasanaeth diweddaru DBS, a’ch
- bod chi'n gwneud cais gyda chymhwyster
mae angen copi o'ch tystysgrif cymhwyster arnom.
Os nad ydych wedi cael gwiriad DBS o fewn y tair blynedd diwethaf, bydd angen copi wedi'i wirio o'ch manylion adnabod â ffotograff, er enghraifft pasbort neu drwydded yrru.
Myfyrwyr gwaith cymdeithasol a gweithwyr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso o brifysgolion yng Nghymru
Bydd eich prifysgol yn cadarnhau eich manylion adnabod yn ystod y broses gofrestru, felly nid oes angen i chi anfon unrhyw ddogfennau atom.
Gweithwyr cymdeithasol sydd wedi cymhwyso y tu allan i'r DU
Mae angen copïau wedi'u gwirio o'r canlynol:
- eich tystysgrif cymhwyster
- eich tystysgrif geni
- manylion adnabod â ffotograff
- trawsgrifiadau o gwrs cymhwyster.
Efallai y bydd angen dogfennau eraill wedi'u gwirio arnom. Os felly, byddwn yn dweud wrthych beth sydd ei angen arnom pan fyddwn yn prosesu eich cais.
Sut i gael eich dogfennau wedi'u gwyrio
Mae gwirio yn golygu bod person cymeradwy wedi gwirio a chadarnhau bod eich dogfennau llungopïo yn ddilys.
Gall gwiriwr fod yn llofnodwr a gymeradwywyd gan Ofal Cymdeithasol Cymru. Mae'r rhain yn bobl a ddewiswyd gan gyflogwyr neu brifysgolion i helpu gyda'r broses gofrestru.
Os nad yw'r unigolyn sy'n gwirio'ch dogfennau yn llofnodwr cymeradwy, mae angen i'r person sy'n cymeradwyo'ch cais gadarnhau bod y gwiriwr yn addas.
Os ydych chi'n Unigolyn Cyfrifol nad yw wedi'i gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru eto neu os nad ydych chi'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol ar hyn o bryd, gallwch ofyn i rywun arall wirio'ch dogfennau.
Rhaid i'r unigolyn hwn fod yn:
- berson proffesiynol (er enghraifft, person cofrestredig)
- rhywun sydd wedi’ch adnabod chi am o leiaf ddwy flynedd
- rhywun sydd ddim yn berthynas
- rhywun sydd ddim mewn perthynas bersonol â chi.
Os ydych chi'n hunangyflogedig, ni ddylai'r gwiriwr weithio i'r un sefydliad â chi oni bai eu bod mewn swydd uwch.
Beth mae angen i wiriwr ei wneud
Dangoswch y dogfennau gwreiddiol i'r gwiriwr, fel y gall gadarnhau bod unrhyw lungopïau yn ddilys.
Ar bob llungopi, mae angen iddynt:
- ysgrifennu eu henw llawn, teitl y swydd, cyfeiriad e-bost a'r dyddiad
- llofnodi eu henw
- ysgrifennu "Rwyf wedi gweld y gwreiddiol ac mae hwn yn gopi dilys".