Rydyn ni'n cynhyrchu adroddiad blynyddol sy'n darparu cipolwg ar y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru. Rydyn ni hefyd yn cyhoeddi data cofrestru am y bobl sydd ar ein Cofrestr.
Adroddiad y gweithlu gofal cymdeithasol
Mae’r adroddiad hwn yn rhoi cipolwg o’r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru.
O 2026 ymlaen, rydyn ni'n casglu’r data ar gyfer yr adroddiad hwn drwy broses datganiad blynyddol Arolygiaeth Gofal Cymru. Bydd cyfuno ein dwy gasgliad yn un proses ar y cyd yn gwneud hi’n haws i ddarparwyr gofal cymdeithasol gyflwyno eu data.
Gallwch ddarganfod mwy am yr adroddiad a sut i ddarparu data eich sefydliad ar ein tudalen adroddiad blynyddol y gweithlu.
Data cofrestru
Gallwch gael mynediad at y data diweddaraf am y gweithlu gofal cymdeithasol cofrestredig drwy ddefnyddio ein dangosfwrdd ar Borth Data Gofal Cymdeithasol Cenedlaethol Cymru.
Mae’r dangosfwrdd yn rhoi trosolwg i chi o rai o’r data sydd gennym fel rhan o’r Gofrestr, ac fe allwch ei deilwra i ddangos yr wybodaeth sydd o’r mwyaf diddordeb i chi.
Gallwch hefyd ddod o hyd i’r wybodaeth ddiweddaraf am y gweithlu cofrestredig yn adran gweithlu'r porth.
Ewch i’r Grŵp Gwybodaeth i ddarganfod mwy am sut rydyn ni'n gwneud data cofrestru’n haws i gael mynediad iddo.
Adroddiadau Partneriaeth Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol
Mae'r Bartneriaeth Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol yn darparu gwybodaeth am weithlu darparwyr gofal allanol a gomisiynwyd gan awdurdodau lleol yng Nghymru.
Cysylltu â ni
Os oes gennych gwestiwn neu os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn edrych amdano, cysylltwch â ni.