Jump to content
Sut gallwn ni eich cefnogi chi

Mae’n rhaid i’r rhan fwyaf o weithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru gofrestru gyda ni oherwydd ei fod yn ofyniad cyfreithiol.

Mae rheoleiddio’n amddiffyn y cyhoedd, gan ei fod yn gwneud yn siŵr mai dim ond pobl gymwys a chymwysedig sy’n gallu darparu gofal a chymorth mewn rolau lle mae angen cofrestru.

Mae bod ar y Gofrestr yn golygu eich bod chi’n rhan o weithlu proffesiynol a gallwch chi ddangos bod gennych chi’r sgiliau a’r wybodaeth i ddarparu gofal a chymorth da i bobl Cymru.

Mae gennym ni lawer o wybodaeth ac adnoddau i gefnogi pobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Cefnogi chi i gofrestru

Cefnogi chi i ddatblygu eich gyrfa a darparu gofal a chymorth proffesiynol a diogel

  • Mae’r cod ymarfer proffesiynol a’r canllawiau ymarfer yn amlinellu’r safonau mae’n rhaid i weithwyr gofal proffesiynol ddilyn yn eu gwaith.
  • Gwybodaeth i’ch helpu chi i gynllunio eich Datblygiad proffesiynol parhaus (DPP).
  • Canllawiau i weithwyr ar gwblhau Fframwaith Sefydlu Cymru gyfan a chymwysterau eraill.
  • Adnoddau i’ch helpu chi i ddefnyddio Cymraeg yn y gwaith, gan gynnwys cyrsiau Cymraeg Camau, sydd am ddim i weithwyr gofal cymdeithasol.
  • Amrywiaeth o fodiwlau dysgu ar-lein.

Cefnogi eich iechyd a’ch llesiant

    • Gallwch lawrlwytho’r cerdyn gweithiwr gofal ar GCCarlein. Mae’r cerdyn yn cydnabod pobl sy’n gweithio yn y sector ac yn eu galluogi i fanteisio ar fuddion amrywiol.
    • Mae ein tudalennau llesiant yn cynnwys llawer o wybodaeth i’ch cynorthwyo â’ch llesiant corfforol, meddyliol ac ariannol. Hefyd, mae gwybodaeth am linell gymorth o’r enw Canopi.

Sut gallwch chi gefnogi pobl eraill sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol

  • Dod yn llysgennad ar gyfer gofal cymdeithasol trwy gynllun Llysgenhadon Gofalwn.
Cyhoeddwyd gyntaf: 15 Chwefror 2024
Diweddariad olaf: 18 Tachwedd 2024
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (35.4 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch