Mae dysgu gydol oes yn cwmpasu'r holl ystod o weithgareddau dysgu - dysgu ffurfiol, dysgu anffurfiol a dysgu yn y gweithle. Mae hefyd yn cynnwys y sgiliau, yr wybodaeth a'r ymddygiadau y mae pobl yn eu hennill yn eu profiadau o ddydd i ddydd. Ystyr Dysgu Gydol Oes gyda Sicrwydd Ansawdd (QALL) yw dysgu sy'n cael ei asesu, ei fesur, ei gofnodi a'i ardystio.
Sut ydw i'n achredu dysgu?
Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi datblygu canllaw o'r enw Cydnabod Dysgu Gydol Oes gyda Sicrwydd Ansawdd. Mae ei ffocws ar achredu Dysgu Gydol Oes gyda Sicrwydd Ansawdd.
-
Achredu dysgu - cwestiynau cyffredinDOCX 41KB
Beth ydw i'n ei wneud nesaf os oes diddordeb gen i?
Lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen achos busnes.
Os hoffech gael copi o'r ffurflen, neu os hoffech gael gwybodaeth am y broses, cysylltwch â dyfan.jones@socialcare.wales neu 02920 780654.
Cyhoeddwyd gyntaf: 20 Ionawr 2017
Diweddariad olaf: 25 Medi 2022
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch