Gwybodaeth i gefnogi gweithwyr.
Beth yw’r ‘Cynnig Rhagweithiol’?
Ystyr ‘Cynnig Rhagweithiol’ yw darparu gwasanaeth yn Gymraeg heb i rywun orfod gofyn amdano. Dylai yr un gwasanaethau Cymraeg fod ar gael i ddefnyddwyr ag sydd ar gael yn Saesneg.
Mae cynnig gwasanaethau Cymraeg yn rhagweithiol yn sicrhau bod anghenion pobl yn cael eu deall a'u diwallu, a bod y rhai sy'n defnyddio’r gwasanaethau gofal yn gallu dibynnu ar gael eu trin â’r parch ac urddas maen nhw’n ei haeddu.
Gall peidio â chynnig gwasanaethau Cymraeg yn rhagweithiol arwain at beryglu urddas a pharch pobl.
Gallwch weld mwy yn y pecyn gwybodaeth 'Cynnig Rhagweithiol.'

Modiwl e-ddysgu Ymwybyddiaeth o'r Gymraeg
Mae’r modiwl hwn ar gyfer gweithwyr a myfyrwyr gofal cymdeithasol neu blynyddoedd cynnar a gofal plant sy’n dymuno dysgu mwy am yr iaith Gymraeg, diwylliant a gweithio’n ddwyieithog.
Mae'r modiwl yn cynnwys gwybodaeth am yr iaith Gymraeg a dwyieithrwydd a beth mae'r gyfraith yn ei ddweud. Mae'n edrych ar yr hyn y mae'n rhaid i ni ei wneud a pham.
Mae'r modiwl hefyd yn edrych ar ymarferoldeb gweithio'n ddwyieithog a beth mae hyn yn ei olygu i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau, a'r hyn y gallwch ei wneud i wella profiadau unigolion neu blant sy'n derbyn gofal a chymorth.
Bydd y modiwl yn cymryd tua 30 munud i'w gwblhau ac mae'n cyfri tuag at eich ddatblygiad proffesiynol parhaus os ydych chi wedi cofrestru gyda ni (un awr).
Bydd pawb sy'n ei gwblhau yn derbyn tystysgrif.
Stori Keneuoe
Dyma Keneuoe yn siarad am bwysigrwydd y Gymraeg yn ei swydd hi.
Gwiriwr lefel iaith Cymraeg
Gall gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru bellach ddefnyddio rhaglen ar-lein am ddim i asesu eu sgiliau Cymraeg.
Rydyn ni wedi cydweithio gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i ddatblygu ‘Gwiriwr Lefel’ ar gyfer y sector gofal cymdeithasol.
Mae’r Gwiriwr Lefel yn asesiad ar-lein i’ch helpu i ddarganfod lefel eich Cymraeg o ran sgiliau gwrando, siarad, darllen ac ysgrifennu. Rydych chi'n cwblhau cyfres o asesiadau ar-lein, ac mae eich canlyniadau yn nodi lefel eich Cymraeg - o lefel mynediad hyd at hyfedredd.
Gall unrhyw un sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol ddefnyddio’r Gwiriwr Lefel i asesu eu gallu yn y Gymraeg. Mae am ddim i’w ddefnyddio ac ar gael ar ffonau symudol, tabledi a chyfrifiaduron.
Cyrsiau Cymraeg Camau
Ar ôl cwblhau’r asesiad, y cam nesaf i rywun sydd â diddordeb i ddysgu Cymraeg yw cofrestru ar un o’n cyrsiau Camau. Mae’r cyrsiau yn rhad ac am ddim ac wedi eu creu yn arbennig ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol.
Mae’n cynnig dysgu hyblyg drwy gyrsiau byr sy’n canolbwyntio ar y geiriau a thermau y mae gweithwyr eu hangen fwyaf wrth gyfathrebu gyda’r bobl maen nhw’n eu cefnogi.
Mae’n cyfrif tuag at ddatblygiad proffesiynol parhaus gweithwyr gofal cymdeithasol a bydd pawb sy’n cwblhau’r cwrs yn cael tystysgrif.
Adnodd ar gyfer gweithwyr sy’n newydd i weithio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru
Rydyn ni wedi creu canllaw i weithwyr sy'n newydd i weithio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Mae gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru yn darparu gofal a chymorth hanfodol i'r bobl sy'n byw yma, ac rydyn ni'n croesawu ac yn gwerthfawrogi eich cyfraniad.
Rydyn ni wedi casglu rhai o'n hadnoddau mewn un lle cyfleus ar ein gwefan i chi eu defnyddio i'ch helpu i ymgartrefu. Rydyn ni wedi creu'r canllaw hwn i'ch helpu chi i deimlo'n gartrefol ac yn rhan o'r gymuned yng Nghymru.
Fe welwch chi wybodaeth am yr iaith a'r diwylliant Cymraeg, adnoddau i gefnogi eich lles, ac ychydig mwy am ein rôl ni.
Ein cynnig Cymraeg
Dyma adnoddau i gefnogi gweithwyr, cyfogwyr a myfyrwyr gofal cymdeithasol neu blynyddoedd cynnar a gofal plant, ar eu taith iaith
Darganfyddwch pam ei bod hi’n bwysig defnyddio’r Gymraeg yn y gwaith a beth rydyn ni’n ei wneud i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg.
Mae’r adnoddau yma i’ch helpu chi ddysgu mwy am y Gymraeg, diwylliant Cymru a gweithio’n ddwyieithog.
Lawrlwythwch yma.
Cysylltu â ni
Os oes gennych chi gwestiwn neu os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn edrych amdano, cysylltwch â ni.