Mae’r dudalen hon i weithwyr cymdeithasol a gymhwysodd y tu allan i’r DU, sydd am gofrestru i weithio yng Nghymru.
Anfonwch e-bost atom yn internationallyqualified@socialcare.wales cyn i chi wneud cais, i roi gwybod i ni eich bod am wneud cais gyda ni. Ni fydd angen asesu eich cymhwyster am yr eildro.
Beth sydd angen i chi wneud cais
Rhaid i chi ddarparu tystiolaeth o'r canlynol.
1. Gallu ieithyddol
- o leiaf 1,200 awr o addysgu yn y coleg
- o leiaf 1,400 awr o ymarfer gwaith cymdeithasol dan oruchwyliaeth ac wedi eu hasesu. Rhaid i o leiaf 560 awr gynnwys ymarfer gwaith cymdeithasol statudol.
Mae angen i chi ddangos eich bod chi'n gallu siarad, darllen ac ysgrifennu'n rhugl yn Saesneg neu Gymraeg. Mae pedair ffordd y gallwch chi wneud hyn, sydd wedi'u hegluro yn ein Ffurflen Gais Cywerthedd Cymhwyster.
2. Cymhwyster gwaith cymdeithasol
Rhaid i'ch cymhwyster gwaith cymdeithasol gynnwys:
Cymwysterau rhyngwladol cymeradwy
Mae gennym restr o gymwysterau gwaith cymdeithasol rhyngwladol yr ydym wedi'u hasesu ac yn ystyried eu bod yr un safon â chymwysterau cymeradwy yn y DU. Canllaw yw’r wybodaeth yn y rhestr hon a gall newid.
Os ydych chi'n meddwl bod eich cymhwyster yn ymddangos ar y rhestr:
- mae angen i chi ddarparu'r holl ddogfennau a restrir yn yr adran dogfennau isod. Byddwn ni’n asesu eich cymhwyster yn erbyn y rhai yn y rhestr ac yn cymharu â'n cofnodion presennol i wneud yn siŵr eu bod yn cyfateb
- mae rhai cymwysterau ar y rhestr hon yn gofyn i ni hefyd asesu hyfforddiant a phrofiad gwaith cymdeithasol ychwanegol cyn y gallwn ni eu derbyn
- dylech chi roi manylion am unrhyw gymwysterau neu brofiad ychwanegol sydd gennych chi yn eich cais i gofrestru
- bydd angen i rai ymgeiswyr hefyd gwblhau prawf gallu neu gwblhau cyfnod o addasu lle maen nhw’n ymarfer o dan oruchwyliaeth neu’n derbyn hyfforddiant i asesu a ydyn nhw’n bodloni'r safonau gofynnol ar gyfer cofrestru.
- Efallai y bydd angen i ni ofyn i'ch darparwr addysg am ragor o wybodaeth i sicrhau bod y wybodaeth rydych chi wedi'i darparu’n gywir ac yn bodloni'r safonau gofynnol.
- Os nad yw'ch cymhwyster ar y rhestr hon, bydd angen i ni wneud asesiad llawn.
Sut rydyn ni’n asesu eich cymhwyster
Byddwn ni’n asesu a yw eich cymhwyster yn bodloni:
- Fframwaith Cymru ar gyfer y Radd gwaith cymdeithasol a
- Datganiadau Meincnod Pwnc y DU ar gyfer gwaith cymdeithasol.
Os byddwn ni’n dod o hyd i unrhyw fylchau, efallai y byddwn ni’n gofyn am fwy o wybodaeth a thystiolaeth o’ch profiad neu gymwysterau ôl-gymhwyso.
Mewn rhai achosion, efallai y byddwn ni’n gofyn i chi gwblhau camau eraill i fynd i'r afael â'r bylchau hyn.
Rhannu gwybodaeth
Fel rhan o'n proses asesu, efallai y byddwn ni’n rhannu gwybodaeth berthnasol gyda thrydydd partïon, fel UK ENIC, i wirio cymwysterau neu fanylion eraill. Efallai y byddwn ni hefyd yn defnyddio meddalwedd i'n helpu i ganfod llên-ladrad neu ddefnyddio deallusrwydd artiffisial yn y dystiolaeth rydych chi'n ei darparu yn ystod eich cais.
I gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut mae eich data yn cael ei drin, gweler ein Polisi Preifatrwydd.
Dychwelyd i ymarfer gwaith cymdeithasol
Os nad ydych chi wedi ymarfer fel gweithiwr cymdeithasol ers dros dair blynedd, efallai y bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth ychwanegol eich bod yn addas i ymarfer.
Byddwn ni’n cynnal yr asesiad o'ch cymhwyster yn gyntaf ac yna byddwn ni’n rhoi gwybod i chi am y camau nesaf ar gyfer eich asesiad dychwelyd i ymarfer.
Gallwch chi ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y broses hon ar ein tudalen dychwelyd i ymarfer gwaith cymdeithasol.
Cyrff rheoleiddio eraill y DU
Os byddwch chi’n penderfynu gweithio y tu allan i Gymru, cysylltwch â'r rheoleiddiwr perthnasol.
Yn y DU dyma'r rhai perthnasol:
Cwblhau'r cais ar gyfer rhai â chymwysterau rhyngwladol
- Anfonwch e-bost atom yn internationallyqualified@socialcare.wales i roi gwybod i ni yr hoffech wneud cais fel y gallwn anfon y ffurflenni perthnasol atoch.
- Os mai dyma'r tro cyntaf i chi gofrestru yn y DU, bydd angen i chi lenwi'r ffurflen asesu cywerthedd cymhwyster a'r ffurflen wybodaeth am y cwrs.
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn cwblhau pob rhan o'r ffurflenni. Os byddwn ni’n derbyn cais anghyflawn, byddwn yn ei anfon yn ôl atoch.
- Ar ôl i chi gwblhau'r ffurflen asesu cywerthedd cymhwyster a'r ffurflen wybodaeth am y cwrs, bydd angen i chi greu cyfrif GCCarlein.
- Yn eich cyfrif GCCarlein bydd angen i chi gwblhau cais ar-lein i gofrestru.
- Uwchlwythwch eich ffurflen asesu cywerthedd cymhwyster a gwblhawyd a'ch ffurflen wybodaeth am y cwrs i'ch cais ar-lein ar GCCarlein.
Dogfennau
Yn ogystal â'r ffurflen asesu cywerthedd cymwysterau a'r ffurflen wybodaeth am y cwrs, mae angen i chi ddarparu:
- tystiolaeth o newid enw os ydych chi erioed wedi newid eich enw llawn neu ran ohono
- copi lliw wedi'i wirio o ffurf adnabod ffotograffig
- cadarnhad eich bod yn bwriadu ymarfer yng Nghymru (efallai y byddwn ni’n gofyn am ragor o dystiolaeth pan fyddwn ni’n prosesu eich cais)
- tystiolaeth o'ch gallu i siarad, darllen ac ysgrifennu'n rhugl yn Saesneg neu Gymraeg
- copïau lliw wedi'u gwirio o'ch tystysgrif cymhwyster a thrawsgrifiad o’r cwrs
- cadarnhau cyfieithiad ffurfiol os yw'n berthnasol.
Cymeradwyo eich cais
Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ein canllawiau cymeradwyo.
Os ydych chi eisoes yn gweithio yng Nghymru, mae'r ffurflen gais ar-lein yn gofyn i chi ddewis person – a elwir yn llofnodwr – o restr gymeradwy i wirio eich dogfennau adnabod a chymeradwyo'ch cais.
Os nad ydych eisoes yn gweithio yng Nghymru, bydd angen i chi nodi manylion eich llofnodwr â llaw. Bydd angen i chi argraffu'r ffurflen gais a mynd â hi at eich llofnodwr i’r gwirio, ei llofnodi a’i dyddio. Yna sganiwch ac uwchlwythwch y fersiwn hon wedi'i llofnodi i'ch cyfrif GCCarlein.
Ffioedd
Rhaid i chi dalu ffi i gofrestru.
Bydd angen i chi dalu unrhyw ffioedd trydydd parti am wirio eich tystiolaeth. Er enghraifft, os yw darparwr cwrs neu gorff dyfarnu yn codi tâl arnoch i gadarnhau tystysgrifau neu drawsgrifiadau.