Jump to content
Gofal cymdeithasol i blant a theuluoedd

Mae’r dudalen hon yn egluro sut rydyn ni’n cefnogi datblygiad gofal cymdeithasol i blant a theuluoedd.

Rydyn ni’n cefnogi rhaglen trawsnewid gwasanaethau plant Llywodraeth Cymru.

Rydyn ni’n gwneud hyn mewn pedair ffordd:

  1. helpu datblygu gwasanaethau gan ddefnyddio tystiolaeth ac ymchwil
  2. nodi arferion da i’w rhannu, a chysylltu gweithwyr proffesiynol ledled Cymru
  3. cefnogi pobl sy’n darparu gofal cymdeithasol i blant i fynd i’r afael â heriau ac ystyried syniadau
  4. datblygu gweithlu sy’n ddigonol, yn dda ac yn fedrus.

Mae’r rhain yn ein helpu ni i wneud y canlynol:

  • canfod yr hyn sy’n bwysig i bobl pan fyddwn yn cynllunio gwasanaethau, a’u cynnwys nhw yn y broses honno
  • gweld tueddiadau, sy’n gallu ein helpu i gynllunio gwasanaethau sy’n diwallu anghenion pobl
  • canfod beth allai ein helpu i wneud gwasanaethau’n fwy cynaliadwy neu effeithiol.

1. Helpu datblygu gwasanaethau gan ddefnyddio tystiolaeth ac ymchwil

Dysgu mwy

Adnodd gweithwyr gofal preswyl i blant

Adnodd ar gyfer gweithwyr proffesiynol gofal preswyl i blant sy’n cefnogi arferion da drwy roi mynediad at wybodaeth hanfodol, astudiaethau achos, data ac ymchwil.

Profiadau a chanlyniadau plant a phobl ifanc o Gymru sy’n derbyn Gorchmynion Llety Diogel

Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys lleisiau plant a phobl ifanc sy’n rhannu eu profiadau. Mae’n cynnwys argymhellion ar sut i wella’r system llety diogel.

Y Grŵp Gwybodaeth – Gofal Cymdeithasol Cymru
Ein gwefan bwrpasol ar gyfer ymchwil, data ac arloesi. Yno cewch grynodebau o dystiolaeth, adroddiadau a phorth data i’ch helpu i wneud gwahaniaeth i ofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae hefyd yn egluro ein blaenoriaethau ymchwil ar gyfer eleni.

Cefnogi canlyniadau cadarnhaol mewn gofal preswyl i blant: crynodeb o’r dystiolaeth – Y Grŵp Gwybodaeth
Yn cynnwys ymchwil berthnasol a chyfredol ar sut y gellir darparu gofal preswyl mewn ffordd sy’n cefnogi canlyniadau cadarnhaol i blant a phobl ifanc.

2. Nodi arferion da i’w rhannu, a chysylltu gweithwyr proffesiynol ledled Cymru

Dysgu mwy

Y Gwobrau
Mae’r gwobrau hyn yn gyfle i ni gydnabod, dathlu, a rhannu’r gwaith nodedig sy’n cael ei wneud ym meysydd gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar yng Nghymru.

Cymunedau ymarfer – Y Grŵp Gwybodaeth
Mannau i chi gysylltu â phobl eraill, rhannu gwybodaeth a syniadau, a chreu cysylltiadau ar draws gwahanol sectorau a ledled Cymru.

3. Cefnogi pobl sy’n darparu gofal cymdeithasol i blant i fynd i’r afael â heriau ac ystyried syniadau

Dysgu mwy

Gwella gofal a chymorth yng Nghymru
Gwybodaeth, cyngor ac adnoddau i’ch helpu i gyflawni’r hyn sy’n bwysig i’r bobl rydych chi’n eu cefnogi.

Dileu elw o ofal cymdeithasol – Llywodraeth Cymru
Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r broses o drosglwyddo i fodelau gofal nid-er-elw ar gyfer plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru.

4. Datblygu gweithlu sy’n ddigonol, yn dda ac yn fedrus

Dysgu mwy

Strategaeth gweithlu
Egluro sut y byddwn yn cefnogi’r gweithlu gofal cymdeithasol o 2022 i 2025.

Eich iechyd a’ch llesiant
Gwybodaeth, cyngor ac adnoddau am reoli eich llesiant eich hun neu lesiant y bobl yr ydych yn gyfrifol amdanynt. Yn cynnwys Mae eich llesiant yn bwysig: fframwaith iechyd a llesiant y gweithlu ar gyfer gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofal plant.

Cymwysterau a chyllid
Gwybodaeth am y cymwysterau a’r cyllid sydd ar gael i gefnogi pobl sydd am weithio ym maes gofal preswyl i blant.

Cynnig Natur Chwareus, Derbyn, Chwilfrydedd ac Empathi (PACE)
Mae gennym becyn hyfforddi ar gyfer awdurdodau lleol i uwchsgilio staff gofal preswyl i blant i ddefnyddio’r dull PACE gyda’r bobl maen nhw’n eu cefnogi. Bydd yr hyfforddiant ar gael yn ddibynnol ar gyllid. Anfonwch e-bost i Gofalpreswylplant@gofalcymdeithasol.cymru i gael rhagor o wybodaeth.

Canllaw: cofrestru cartref gofal i blant – Llywodraeth Cymru
Sut gall darparwyr gwasanaeth ddilyn yr arferion gorau i sefydlu gwasanaeth cartref gofal i blant.

Gweithio ym maes gofal preswyl i blant – Gofalwn Cymru
Egluro gwahanol rolau ym maes gofal preswyl i blant, a’r sgiliau, y cymwysterau a’r profiad sydd eu hangen arnoch.

Dolenni allanol defnyddiol

Efallai na fydd yr adnoddau hyn yn ddwyieithog nac yn hygyrch. Dydyn ni ddim yn gyfrifol am gynnwys sefydliadau eraill.

Cynllun peilot incwm sylfaenol ar gyfer pobl ifanc sy’n gadael gofal – Llywodraeth Cymru
Cynllun i helpu pobl ifanc sy’n gadael gofal i gael swm penodol o arian gan y llywodraeth i dalu am anghenion sylfaenol.

Straen Trawmatig Cymru – GIG Cymru
Menter genedlaethol i wella iechyd a llesiant pobl yng Nghymru sydd mewn perygl o ddatblygu, neu sydd wedi datblygu, anhwylder straen wedi trawma (PTSD) neu anhwylder straen wedi trawma cymhleth (CPTSD).

Fframwaith Cymru sy'n Ystyriol o Drawma Hyb ACE Cymru
Mae’n egluro sut mae unigolion, teuluoedd neu rwydweithiau cymorth eraill, cymunedau, sefydliadau a systemau yn ystyried trallod a thrawma, gan gydnabod a chefnogi cryfderau unigolyn i oresgyn y profiad hwn yn ei fywyd.

Cyhoeddwyd gyntaf: 1 Ebrill 2019
Diweddariad olaf: 14 Chwefror 2025
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (50.5 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch