Darganfyddwch fwy am gofrestru o’r fideos a’r dolenni isod.
Beth yw cofrestru a sut allwch chi gofrestru?
Mae cofrestru gyda ni yn golygu eich bod yn rhan o weithlu proffesiynol a gallwch ddangos bod gennych sgiliau a gwybodaeth sy’n hanfodol i ddarparu gofal a chymorth da i bobl Cymru.
Dyma fideo canllaw cyflym gyda gwybodaeth hanfodol am gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
Darganfyddwch fwy am pam rydym yn cofrestru.
Gwneud cais i gofrestru
I gofrestru mae angen i chi wneud cais ar ein system GCCar-lein.
Dyma fideo canllaw cyflym i ddangos i chi sut i wneud cais i gofrestru, gydag awgrymiadau i’ch helpu drwy bob cam o’r broses ar-lein.
Mae GCCarlein wedi newid lliw ond mae'r ffordd rydych chi'n ei ddefnyddio'r un fath â'r hyn a ddisgrifir yn y fideo hwn.
Darganfyddwch fwy am sut i wneud cais.
I ddod o hyd i fwy o fideos cam wrth gam am sut i gwblhau eich cais i gofrestru ewch i’n rhestr chware cofrestru ar ein sianel YouTube.
Nawr eich bod wedi cofrestru, beth sydd angen i chi ei wybod?
Nawr eich bod wedi cofrestru
Drwy gael eich cofrestru rydych wedi dangos bod gennych y gwerthoedd, y sgiliau a’r hyfforddiant cywir. Bydd angen i chi ddiweddaru eich cofrestriad a gallwch gymryd rhan y buddion o fod yn weithiwr proffesiynol cofrestredig.
Dyma fideo canllaw cyflym am eich cyfrifoldebau fel person cofrestredig.
Cynnal eich cofrestriad
Mae’n bwysig eich bod yn diweddaru eich manylion cofrestru, talu’ch ffioedd a chofnodi eich datblygiad proffesiynol parhaus (DPP).
Dyma fideo canllaw cyflym am sut i ddiweddaru eich cofrestriad gan ddefnyddion eich cyfrif GCCar-lein.
Mae GCCarlein wedi newid lliw ond mae'r ffordd rydych chi'n ei ddefnyddio'r un fath â'r hyn a ddisgrifir yn y fideo hwn.
Darganfyddwch fwy am eich cyfrifoldebau fel person cofrestredig, eich ffiodd, adnewyddu ar ofynion DDP.
Gwybodaeth i gyflogwyr a chymeradwywyr
Cyfrifoldebau cyflogwyr
Er mwyn gallu cofrestru pobl mae angen i ni weithio gyda chyflogwyr i wirio a chasglu gwybodaeth i sicrhau mai dim ond y rhai sy’n addas i ymarfer sydd ar y Gofrestr.
Dyma fideo canllaw cyflym i gyflogwyr i ddeall sut i reoli unrhyw geisiadau a wnawn a’r camau y mae angen i chi eu cymryd.
Mae GCCarlein wedi newid lliw ond mae'r ffordd rydych chi'n ei ddefnyddio'r un fath â'r hyn a ddisgrifir yn y fideo hwn.
Darganfyddwch fwy am gyfrifoldebau cyflogwyr a SAU.
Gelwir un o'r llwybrau i gofrestru yn asesiad gan gyflogwr. Gofynnwn i gyflogwyr gadarnhau addasrwydd ymgeisyddwrth eu hasesu yn erbyn rhestr o gymwyseddau.
Dyma fideo canllaw cyflym i helpu cyflogwyr i ddeall sut i reoli ceisiadau asesu gan cyflogwyr yn eu cyfrif GCCarlein.
Mae GCCarlein wedi newid lliw ond mae'r ffordd rydych chi'n ei ddefnyddio'r un fath â'r hyn a ddisgrifir yn y fideo hwn.
Dysgwch fwy am y broses asesiad gan gyflogwr.
Astudiaethau achos
Mae’n amser i gofrestru ar gyfer llawer o bobl, i helpu rydym wedi creu fideos astudiaethau achos sy’n dangos beth sydd gan bobl go iawn sy’n gweithio yn y sector gofal cymdeithasol i’w ddweud am gofrestru efo ni.
Dyma fideo canllaw cyflym am brofiad Cartref Gofal Highfield o gofrestru.
Dyma fideo canllaw cyflym am brofiad Hengoed Care o gofrestru.
Adnoddau ychwanegol
I ddod o hyd i fwy o fideos cam wrth gam am sut i gwblhau eich cais i gofrestru ewch i’n rhestr chware cofrestru ar ein sianel YouTube.