Gwybodaeth a chanllawiau i gyflenwyr
Ein dull o gaffael
Rydyn ni’n prynu ystod eang o nwyddau a gwasanaethau. Mae’r gwariant yn amrywio o symiau mawr i brosiectau bach iawn. Rydyn ni’n ceisio cael gwerth am arian. Mae hyn yn golygu cydbwyso ansawdd, costau a gwerth cymdeithasol dros oes y gwariant.
Rydyn ni’n hoffi gweithio gyda’n cyflenwyr:
- mewn ffordd agored ag onest
- gyda disgwyliadau ac amcanion clir
- gyda safonau clir i bawb.
Ein proses gaffael
Mae’r math, gwerth a chymhlethdod cytundeb yn ein helpu i benderfynu ar y broses dendr. Rydyn ni’n rhoi’r wybodaeth angenrheidiol i gyd ar gyfer y broses gaffael. Wedyn rydyn ni’n rhoi digon o amser i gyflenwyr baratoi eu cais.
Ar gyfer cytundebau o werth mawr neu rai cymhleth, rydyn ni’n annog cyflenwyr i weithio mewn partneriaeth. Mae ceisiadau ar y cyd yn helpu cyflenwyr i fod yn fwy llwyddiannus wrth ennill gwaith.
Lle’n bosibl, rydyn ni eisiau gweithio gyda busnesau bach a chanolig lleol a chyflenwyr o Gymru. Rydyn ni’n gobeithio y bydd hyn yn hybu busnes lleol, datblygu sgiliau, a dod â buddion cymunedol eraill.
Sut rydyn ni’n prynu
Wrth gaffael cytundebau, bydd y broses yn dibynnu ar y gwerth.
Gwerth cytundeb amcangyfrifed (gan gynnwys TAW) ac ein dull:
- hyd at £3,000 – angen un dyfynbris
- £3,001 i £5,000 – angen dau ddyfynbris
- £5,001 i £29,000 – angen tri dyfynbris
- £30,000 i £139,688 – tendr ffurfiol drwy GwerthwchiGymru/y Fframwaith
- £139,688 ac uwch – tendr ffurfiol drwy’r Central Digital Platform (CDP) ar GwerthwchiGymru.
Gweithio gyda ni
Rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan bob darparwr, gan gynnwys busnesau bach a chanolig, mentrau gwirfoddol, cymunedol a chymdeithasol, a busnesau lleol.
Rydyn ni’n gweithredu o dan arweiniad Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024 ac yn cadw at Ddatganiad Polisi Caffael Cymru (DPCC). Hefyd, rydyn ni’n cydymffurfio â Deddf Caffael y DU-gyfan 2023, a ddaeth i rym ar 24 Chwefror 2025.
Yn unol â'r rheoliadau hyn, mae pob cyfle cytundeb gwerth £30,000 neu fwy (gan gynnwys TAW) yn cael eu hysbysebu ar blatfform GwerthwchiGymru.
Cofrestr o gytundebau
Dilynwch y ddolen hon i weld ein cofrestr o gytundebau, sy’n dangos crynodeb o’n holl gytundebau byw.
-
Cofrestr o gytundebauDolen