Os oes angen i chi gofrestru a’ch bod wedi bodloni ein gofynion (er enghraifft, darparu tystiolaeth eich bod yn bwriadu ymarfer yng Nghymru), bydd angen dau gymeradwr arnoch chi.
Mae angen i’r unigolyn cyntaf fod yn un o’r canlynol:
- eich cyflogwr gofal cymdeithasol mwyaf diweddar, os cawsoch eich cyflogi yn y tair blynedd diwethaf
- y llofnodydd ar gyfer eich cwrs gofal cymdeithasol neu waith cymdeithasol, os ydych chi wedi cwblhau’r cwrs yn y tair blynedd diwethaf
- perchennog neu reolwr busnes gofal cymdeithasol sydd wedi cofrestru gyda ni ac sy’n gwybod am eich gwaith
- rhywun ar lefel uwch o gyflogwr gofal cymdeithasol
- cadeirydd y bwrdd neu gorff llywodraethwyr ar gyfer y sefydliad rydych chi’n ei reoli
- perchennog neu reolwr busnes gofal cymdeithasol sydd wedi’i gofrestru gyda ni ac sy’n gwybod am eich gwaith.
Mae’n rhaid i’r ail unigolyn fod yn gweithio i’ch cyflogwr presennol y tu allan i faes gofal cymdeithasol, eich asiantaeth gyflogaeth neu unigolyn proffesiynol sydd wedi’ch adnabod am ddwy flynedd o leiaf.
Mae angen i’r unigolyn hwn allu tystio i’ch cymeriad da a’ch addasrwydd i gofrestru.
Gallai fod yn:
- weithiwr gofal cymdeithasol cofrestredig
- ynad
- meddyg
- cyfreithiwr
- pennaeth ysgol.
Os nad yw’r unigolyn proffesiynol hwn yn llofnodydd, ni all eich ardystio ar ein system GCCarlein.
Ond gall roi geirda i fynd law yn llaw â’r cymeradwyad a ddarparwyd gan yr unigolyn cyntaf a ddewiswyd gennych i’ch cymeradwyo.
Yn y geirda, bydd angen iddo gynnwys:
- ei gyfeiriad cartref
- cyfeiriad e-bost
- rhif ffôn
esboniad sut mae’n eich adnabod chi.