Mae angen i bob gweithiwr gofal cymdeithasol sicrhau eu bod yn cymryd rhan mewn hyfforddiant neu ddysgu fel rhan o'u datblygiad proffesiynol parhaus (DPP).
Sut mae'n gweithio
Pan fyddwch yn cofrestru gyda ni, rydych yn cytuno i gydymffurfio â’r Codau Ymarfer Proffesiynol, sy’n cynnwys cynnal a datblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau.
Dylech gadw cofnod o’ch DPP a’i drafod yn rheolaidd gyda’ch rheolwr i sicrhau ei fod yn helpu i wella’ch gofal a chymorth. Nid oes angen i chi ei anfon atom ni oni bai eich bod yn cael eich dewis fel rhan o sampl i'w wirio. Byddwn yn rhoi digon o amser i chi anfon yr hyn sydd ei angen.
Beth yw DPP
Dylai eich DPP:
- wella eich gallu i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel
- bod o fudd i'ch anghenion personol neu ddatblygiad gyrfa
- fod yn berthnasol i'ch swydd bresennol
- eich helpu i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am newidiadau mewn deddfwriaeth, polisi, ymchwil ac ymarfer
- cynnwys unrhyw hyfforddiant gorfodol neu addysg a dysgu proffesiynol parhaus
- gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd dysgu sydd ar gael i chi er mwyn ffurfio rhan o'ch datblygiad proffesiynol ehangach.
Dyma rai enghreifftiau:
- cwblhau cymhwyster perthnasol neu gwrs achrededig
- gall gweithwyr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso ddefnyddio'r oriau ar ôl cwblhau eu rhaglen gydgrynhoi
- mynychu hyfforddiant mewnol, gweithdai, seminarau neu gynadleddau, a chrynhoi sut mae hyn wedi cyfrannu at eich datblygiad proffesiynol
- cwblhau modiwl e-ddysgu sy'n berthnasol i'ch ymarfer
- mynychu fforwm proffesiynol neu grŵp rhwydweithio a chrynhoi sut mae hyn wedi cyfrannu at eich datblygiad proffesiynol
- cysgodi cydweithiwr mewn tîm, gwasanaeth neu broffesiwn cysylltiedig
- cyflawni ymchwil neu ddarllen strwythuredig sy'n gysylltiedig â'ch practis a chrynhoi sut mae hyn wedi cyfrannu at eich datblygiad proffesiynol
- rhoi cyflwyniad neu arwain trafodaeth ar bwnc newydd yr ydych wedi ymchwilio iddo a chrynhoi sut mae hyn wedi cyfrannu at eich datblygiad proffesiynol
- cwblhau secondiad mewn maes perthnasol o waith newydd neu waith cysylltiedig
- gwirfoddoli i weithio mewn gwasanaeth newydd
- cymryd cyfrifoldebau newydd neu wahanol a chrynhoi sut mae hyn wedi cyfrannu at eich datblygiad proffesiynol.
Dylech anelu at ystod a chydbwysedd o wahanol weithgareddau dysgu.
Tystiolaeth o'ch DPP
Mae’n bosib byddwn ni'n gofyn am sampl o’ch cofnodion CPD.
Os byddwn yn gofyn am y wybodaeth hon, byddwn yn rhoi digon o amser i chi anfon yr hyn sydd ei angen arnom ni.
Cyfrifoldeb eich cyflogwr
Chi sy’n gyfrifol am gynnal eich CPD, ac mae’n rhaid i’ch cyflogwr sicrhau eich bod chi'n cael cymorth i wneud hynny.
Mae hyn yr un peth p'un a ydych yn gweithio'n llawn-amser neu'n rhan amser, neu os ydych yn gweithio i asiantaeth.
Mae’n rhaid i’ch cyflogwr:
- rhoi cyfleoedd i chi gael mynediad at, i drafod, myfyrio ar a rhannu arfer da yn y gweithle
- sicrhau bod gennych chi gyfleoedd sefydlu, hyfforddi a dysgu sy'n eich cefnogi
- rhoi amser i’ch goruchwylio a'ch gwerthuso
- rhoi adborth defnyddiol i chi am eich perfformiad a'ch datblygiad.
Dylai eich DPP fod yn unol â'r Codau Ymarfer Proffesiynol, yn berthnasol i'ch rôl gofrestredig, a nodau ac amcanion eich cyflogwr a'ch gwasanaeth.
Mae’n bwysig eich bod chi'n trafod ac yn cynllunio gyda’ch cyflogwr sut byddwch chi'n sicrhau bod eich DPP yn helpu i wella eich darpariaeth gofal a chymorth.
Os ydych yn hunangyflogedig
Mae angen i chi gwblhau a chadw cofnod o’ch CPD os ydych yn hunangyflogedig.
Os nad ydych yn siŵr pwy all ddilysu eich DPP, edrychwch ar y canllawiau dilysu.
Cwestiynau cyffredin
A oes angen i mi gwblhau Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) o hyd?
Oes. Os ydych chi ar ein Cofrestr, mae angen i chi barhau i gadw eich hyfforddiant a dysgu yn gyfredol. Rhaid i bobl gofrestredig (ac eithrio myfyrwyr gwaith cymdeithasol) gadw cofnodion o'ch DPP a'i drafod yn rheolaidd gyda'ch rheolwr i sicrhau ei fod yn helpu i wella eich gofal a'r cymorth rydych chi’n darparu. Efallai byddwn ni’n gwirio sampl o gofnodion.
Sut mae Gofal Cymdeithasol Cymru’n gwybod os ydw i wedi gwneud fy DPP?
Wrth adnewyddu, mae rhaid i chi gadarnhau eich bod chi wedi cwblhau DPP a bod eich hyfforddiant a'ch dysgu yn gyfredol ac yn unol â'r safonau sydd yn y Codau Ymarfer Proffesiynol. Os caiff eich cais adnewyddu ei gymeradwyo, byddwn yn gofyn i’ch cyflogwr hefyd gadarnhau bod eich hyfforddiant a’ch dysgu’n gyfredol, ac yn bodloni’r safonau sydd yn y Cod Ymarfer Proffesiynol. Efallai byddwn ni’n gwirio sampl o gofnodion.
Pam rydych chi wedi cael gwared ar y targed oriau o DPP?
Roedd y broses DPP flaenorol wedi bod ar waith ac wedi aros fwy neu lai'r un fath ers i’r Gofrestr agor yn 2001. Yn 2019, gwnaethom ni ymgynghoriad cynhwysfawr a oedd yn cynnwys cynigion i symud i ‘ddull canlyniadau’ at DPP. Cefnogwyd y cynigion yn gryf yn yr ymatebion. Cafodd y gwaith i roi’r newidiadau hyn ar waith ei oedi yn ystod Covid, ond mae bellach yn cael ei symud ymlaen yn dilyn adolygiad allanol. Mae'r dull hwn hefyd yn gyson â rheoleiddwyr iechyd a gofal cymdeithasol eraill yn y DU.
Beth yw sampl?
Er na fydd angen i'r rhan fwyaf o bobl anfon unrhyw dystiolaeth o'u hyfforddiant a'u dysgu atom ni, efallai byddwn ni’n gofyn i rai pobl gofrestredig anfon eu cofnod hyfforddi DPP atom. Os byddwn yn gofyn i chi am y wybodaeth hon, byddwn yn rhoi digon o amser i chi i anfon yr hyn sydd ei angen.
Beth mae hyn yn ei olygu i gyflogwyr?
Mae disgwyl o hyd i gyflogwyr gefnogi eu gweithwyr i gynnal eu hyfforddiant a’u dysgu yn unol â’r Codau Ymarfer Proffesiynol. Bydd angen i gyflogwyr gadarnhau bod hyn wedi'i wneud adeg cymeradwyo.
Ydw i'n gallu barhau i ddefnyddio GCCarlein i gadw cofnod o fy DPP?
Gallwch barhau i ddefnyddio’ch cyfrif GCCarlein i gofnodi’ch hyfforddiant a’ch dysgu, ni fydd angen i chi ei wneud fel rhan o’ch cais adnewyddu.
Ni fyddwn ni’n gwirio nac yn gofyn am unrhyw wybodaeth bellach am eich hyfforddiant a dysgu, oni bai eich bod yn cael eich dewis fel rhan o sampl.