Os nad oes gan eich sefydliad unrhyw lofnodwyr, gweler: Sut i ddod yn lofnodwr
Os yw'ch sefydliad wedi sefydlu llofnodwyr ac nad ydynt yn ymddangos pan fo’r gweithiwr yn llenwi eu ffurflen, mae'n debygol eu bod wedi dewis y sefydliad anghywir yn yr adran gyflogaeth o'u ffurflen; er enghraifft, nid yw'r gwasanaeth cymdeithasol yn gyflogwr, 'Cyngor XXX' fyddai’n cyflogi.
Mae'n bwysig i bobl gwblhau eu hadran gyflogaeth yn gywir - y dewis hwn sy'n rhoi gwybod i'r system ba enwau i'w cynnig i bobl ddewis ohonynt fel cymeradwywyr.
Os nad yw eu ffurflen wedi ei chyflwyno, gellir newid yr adran gyflogaeth, a bydd y sgrîn cymeradwyo yn diweddaru i ddangos y rhestr o lofnodwyr.
Os yw’r cais neu'r adnewyddiad wedi ei gyflwyno, ni ellir ei newid a bydd angen i'ch gweithiwr anfon e-bost atom fel y gallwn gywiro'r wybodaeth ar eu cyfer. Wedi inni gyflawni hyn, bydd eu cais am gymeradwyaeth yn dangos yng nghyfrif eu llofnodwr dewisiol.