Jump to content
Defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle

Darganfyddwch pam ei bod hi'n bwysig defnyddio'r Gymraeg yn y gwaith a beth rydyn ni'n ei wneud i hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar a gofal plant.

Pam ei bod hi’n bwysig defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle?

Manteision

Drwy wella sgiliau iaith Gymraeg, gwybodaeth a dealltwriaeth y gweithlu o ddwyieithrwydd, rydyn ni’n gallu cynnig gwasanaethau gofal gwell i bawb.

Mae manteision defnyddio'r Gymraeg yn y gweithle’n cynnwys:

  • osgoi’r perygl o ynysu unigolion drwy fethu â darparu gwasanaethau yn yr iaith maen nhw’n ei ffafrio
  • osgoi cwynion posibl i Gomisiynydd y Gymraeg am wasanaethau Cymraeg gwael neu ddiffygiol
  • sicrhau safonau cydraddoldeb drwy ddarparu gwasanaethau yn y Gymraeg
  • asesu anghenion unigol drwy gyfathrebu â defnyddwyr y gwasanaeth yn eu iaith dewisol neu iaith frodorol
  • hyrwyddo enw da eich sefydliad trwy ddarparu gwasanaeth dwyieithog
  • cynnig gofal o safon da, sy’n cefnogi canlyniadau positif i’r unigolion rydych chi’n gweithio gyda nhw, sy’n dod o wahanol gefndiroedd.

Polisi a deddfwriaeth iaith Gymraeg

Yn dilyn deddfwriaeth a datblygiadau mewn polisi iaith, mae angen i ddarparwyr gwasanaethau gymryd camau rhesymol i sicrhau bod ganddyn nhw drefniadau staffio cymesur, priodol a digonol ar waith i ddarparu gwasanaeth gofal dwyieithog.

Mae deddfwriaeth bellach wedi sefydlu Safonau Iaith ar gyfer cyrff cyhoeddus yng Nghymru. Bydd y Safonau Iaith hyn yr un mor berthnasol i gyrff, asiantaethau, cwmnïau a sefydliadau trydydd parti sy’n darparu gwasanaethau gofal ar ran cyrff cyhoeddus fel awdurdodau lleol.

Mae deddfwriaeth a pholisi yng Nghymru yn ei gwneud hi’n ofynnol i wasanaethau Cymraeg mewn gofal cymdeithasol:

  • fod o'r un safon ac ar gael mor rhwydd a phrydlon â gwasanaethau Saesneg
  • beidio tybio mai Saesneg yw'r iaith ddiofyn wrth ddarparu eu gwasanaethau
  • sicrhau nad ydy siaradwyr Cymraeg yn gorfod gofyn am wasanaeth yn Gymraeg.

Dyma rai dolenni defnyddiol am safonau, cynllunio ac ymwybyddiaeth Cymraeg. Mae gwybodaeth hefyd am hawliau, cynlluniau iaith Gymraeg ac arweiniad i gefnogi darparu gwasanaeth dwyieithog.

Beth yw 'Mwy na geiriau'?

‘Mwy na geiriau’ yw Fframwaith Strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer yr Iaith Gymraeg mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Ei nod yw

  • sicrhau bod anghenion ieithyddol siaradwyr Cymraeg yn cael eu diwallu
  • darparu gwasanaeth Cymraeg i'r rhai sydd ei angen
  • dangos bod iaith yn chwarae rhan bwysig o ran ansawdd gofal ac nad yw'n cael ei ystyried yn “ychwanegiad”.

Dyma ddull rhagweithiol o ran dewis ac angen iaith yng Nghymru, sy’n rhoi'r cyfrifoldeb dros sicrhau gwasanaethau Cymraeg ar ddarparwyr gwasanaethau, yn hytrach na’r unigolyn sy'n defnyddio’r gwasanaethau.

Mae gan y rhai sy’n siarad Cymraeg a’r rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg ran i'w chwarae wrth ddarparu gwasanaethau Cymraeg.

Beth yw’r ‘cynnig rhagweithiol’?

Ystyr ‘cynnig rhagweithiol’ yw darparu gwasanaeth yn Gymraeg heb i rywun orfod gofyn amdano. Dylai yr un gwasanaethau Cymraeg fod ar gael i ddefnyddwyr ag sydd ar gael yn Saesneg.

Mae cynnig gwasanaethau Cymraeg yn rhagweithiol yn sicrhau bod anghenion pobl yn cael eu deall a'u diwallu, a bod y rhai sy'n defnyddio’r gwasanaethau gofal yn gallu dibynnu ar gael eu trin â’r parch ac urddas maen nhw’n ei haeddu.

Gall peidio â chynnig gwasanaethau Cymraeg yn rhagweithiol arwain at beryglu urddas a pharch pobl.

Sut ydw i’n gallu gwneud cynnig rhagweithiol?

Gadewch i ni glywed gan weithwyr ac unigolion sy’n defnyddio gwasanaethau

Mae iaith yn llawer mwy na dull ar gyfer cyfathrebu. Pan fydd rhywun yn siarad yn ei iaith ei hun, mae'n haws iddyn nhw fynegi eu teimladau a disgrifio eu hemosiynau. Yn yr adran hon rydym yn clywed gan ymarferwyr sy'n gweithio yn y sector gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar a gofal plant, a phobl sy'n defnyddio gwasanaethau.

Yn y clip hwn rydym yn clywed gan weithwyr allweddol a phobl sy'n defnyddio gwasanaethau yn Antur Waunfawr, sy'n sôn am pam mae siarad Cymraeg yn bwysig iddyn nhw, a pha wahaniaeth mae hyn yn ei wneud.

Stori Keneuoe

Dyma Keneuoe yn siarad am bwysigrwydd y Gymraeg yn ei swydd hi.

Straeon Morfydd a Will

Mae Morfydd a Will yn siarad am pa mor bwysig ydy hi iddyn nhw gallu siarad Cymraeg yn eu cartref gofal.

Stori Mari: Mwy na geiriau - More than just words

Ar ôl colli ei thad, Mari Emlyn sy'n siarad yn onest am eu profiad gofal. Mae'r ffilm wedi ei gynhyrchu gan Theatr Bara Caws i Llywodraeth Cymru.

I wylio’r fideo gydag isdeitlau Cymraeg, cliciwch ar yr opsiwn ‘Settings’ ar waelod y fideo a dewisiwch ideitlau Cymraeg.

Stori Wyn

Mae Wyn yn esbonio pa mor bwysig ydy hi i ddeall bod rhai pobl yn ei chael hi’n haws i esbonio pethau yn eu mamiaith.

Sut i asesu sgiliau iaith Gymraeg

Asesu a chofnodi sgiliau iaith Cymraeg eich staff

Mae’r adnodd yma yn ffordd syml o asesu sgiliau iaith yn seiliedig ar y mathau o dasgau cyfathrebu (darllen, ysgrifennu, siarad â dealltwriaeth) y mae eich staff yn gallu ei wneud drwy’r Gymraeg.

O fewn yr adran yma fe welwch Fframwaith Sgiliau Iaith sydd yn fodd i chi fod yn glir ynglŷn â’r union lefel o sgiliau y cyfeiriwch atynt wrth asesu, recriwtio a chynllunio i ddefnyddio sgiliau cyfarthrebu eich staff.

Mae'r adnodd 'Sgiliau Iaith Gymraeg yn eich gweithlu - eu defnyddio'n effeithiol' wedi ei gynllunio i gefnogi 'Mwy na Geiriau' trwy helpu cyflogwyr a rheolwyr nodi pa lefel sgiliau Cymraeg sydd gan eu gweithwyr.

Mae'r adnodd hwn yn cynnwys hunanasesiad sy'n gweithio allan sgiliau pobl wrth siarad, ysgrifennu a darllen Cymraeg o'r sylfaenol i'r rhugl. Mae pob lefel yn bwysig ac mae mawr ei angen yn y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Rydyn ni hefyd wedi creu pecyn ar gyfer y sector blynyddoedd cynnar a gofal plant sy'n seiliedig ar egwyddorion 'Mwy na geiriau'.

Mae'r pecynnau hyn yn eich helpu chi i wneud defnydd effeithiol o sgiliau iaith, fel y byddech ag unrhyw sgil arall yn y gweithle, er budd a lles pobl sy'n defnyddio'ch gwasanaethau.

Modiwl e-ddysgu Ymwybyddiaeth o'r Gymraeg

Mae’r modiwl hwn ar gyfer gweithwyr a myfyrwyr gofal cymdeithasol neu blynyddoedd cynnar a gofal plant sy’n dymuno dysgu mwy am yr iaith Gymraeg, diwylliant a gweithio’n ddwyieithog.

Mae'r modiwl yn cynnwys gwybodaeth am yr iaith Gymraeg a dwyieithrwydd a beth mae'r gyfraith yn ei ddweud. Mae'n edrych ar yr hyn y mae'n rhaid i ni ei wneud a pham.

Mae'r modiwl hefyd yn edrych ar ymarferoldeb gweithio'n ddwyieithog a beth mae hyn yn ei olygu i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau, a'r hyn y gallwch ei wneud i wella profiadau unigolion neu blant sy'n derbyn gofal a chymorth.

Bydd y modiwl yn cymryd tua 30 munud i'w gwblhau ac mae'n cyfri tuag at eich ddatblygiad proffesiynol parhaus os ydych chi wedi cofrestru gyda ni (un awr).

Bydd pawb sy'n ei gwblhau yn derbyn tystysgrif.

Adnodd hyfforddi i gefnogi gweithio dwyieithog

Mae ein adnodd ‘hyfforddi’r hyfforddwr’ yn cefnogi hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith i bobl sy’n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant ac ar gyfer pobl sydd mewn addysg bellach neu addysg uwch.

Nod yr adnoddau ydy:

  • helpu'r hyfforddwr i ddysgu ymwybyddiaeth iaith wrth annog trafodaethau ar y ffordd orau i weithio'n ddwyieithog
  • addysgu a grymuso dysgwyr a gweithwyr ar sut i gynnig gwasanaeth gwerthfawr i ddefnyddwyr gwasanaeth, gan sicrhau bod iaith bob amser yn ystyriaeth ganolog
  • eu ddefnyddio fel rhan o hyfforddiant ‘mewn swydd’ neu sefydlu ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Mae'r adnodd hwn ar ffurf PowerPoint gyda nodiadau hyfforddwr i gefnogi pôb sleid. Cysylltwch â ni os na allwch chi lawrlwytho'r cyflwyniad hwn.

Mwy o adnoddau i’ch helpu

Gwiriwr lefel iaith Cymraeg

Gall gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru bellach ddefnyddio rhaglen ar-lein am ddim i asesu eu sgiliau Cymraeg.

Rydyn ni wedi cydweithio gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i ddatblygu ‘Gwiriwr Lefel’ ar gyfer y sector gofal cymdeithasol.

Mae’r Gwiriwr Lefel yn asesiad ar-lein i’ch helpu i ddarganfod lefel eich Cymraeg o ran sgiliau gwrando, siarad, darllen ac ysgrifennu. Rydych chi'n cwblhau cyfres o asesiadau ar-lein, ac mae eich canlyniadau yn nodi lefel eich Cymraeg - o lefel mynediad hyd at hyfedredd.

Gall unrhyw un sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol ddefnyddio’r Gwiriwr Lefel i asesu eu gallu yn y Gymraeg. Mae am ddim i’w ddefnyddio ac ar gael ar ffonau symudol, tabledi a chyfrifiaduron.

Ar ôl cwblhau’r asesiad, y cam nesaf i rywun sydd â diddordeb mewn gloywi eu Cymraeg yw cofrestru ar un o’n cyrsiau Camau. Mae’r rhain wedi eu creu yn arbennig ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol, maent yn rhad ac am ddim ac yn cynnig dysgu hyblyg ar-lein.

Gallwch ddarganfod mwy am ein cyrsiau Camau ar wefan Dysgu Cymraeg. Mae dau gwrs gwahanol ar gael, ar gyfer gogledd a de Cymru.

Apiau ar gyfer hyfforddiant

Mae Cymraeg Gwaith yn darparu cwrs ar-lein am ddim ar gyfer dechreuwyr sydd wedi’i deilwra ar gyfer y rhai sy’n gweithio ym maes gofal. Mae’n ymdrin â phynciau fel sut i gael sgwrs wyneb yn wyneb cychwynnol yn Gymraeg â’r bobl rydych chi’n gofalu amdanyn nhw.

Mae’r cwrs Camau | Dysgu Cymraeg yn gwrs hunan-astudiaeth, sy’n addas i ddechreuwyr ac sydd wedi’i hariannu’n llawn gan y Ganolfan Dysgu Gymraeg Cenedlaethol.

Mae Sgiliaith (Grwp Llandrillo Menai) yn cynnig cyngor ymarferol ar arfer da, hyfforddiant staff ac adnoddau, i wella sgiliau a phrofiadau dwyieithog dysgwyr.

Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn rhoi ysgoloriaethau i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig astudio cyrsiau addysg uwch trwy gyfrwng Cymraeg. Mae ganddyn nhw adnoddau i gefnogi dysgwyr sydd â'r cymwysterau CCPLD a HSC newydd ac maen nhw'n cynnig cyrsiau 'Prentis-iaith' i brentisiaid sydd ag ychydig neu ddim sgiliau Cymraeg ar hyn o bryd. Maen nhw'n galluogi prentisiaid i gwblhau rhan o'u cymhwyster HSC / CCPLD yn Gymraeg.

Mae cynllun Iaith Gwaith a’r bathodyn swigen oren yn dangos eich bod yn siarad Cymraeg.

Clwb Cwtsh

Mae Clwb Cwtsh yn adnodd sy’n cyflwyno geirfa Cymraeg i rieni a gofalwyr allu defnyddio gyda phlant.

Apiau ar gyfer dysgu

Dyma rai Apiau Cymraeg atyniadol ar gyfer dysgu, sydd ar gael ar IOS ac Android.

Cyfieithu, prawfddarllen a therminoleg

Os ydych chi'n chwilio am wasanaeth cyfieithydd neu gyfieithydd ar y pryd, ewch i wefan Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru i gael rhestr a'u manylion.

Dyma rai geiriaduron ar-lein Cymraeg i'ch helpu chi i ddysgu gwella'ch geirfa:

Mae Termau yn borth terminoleg Saesneg i Gymraeg a Chymraeg i Saesneg.

Pecyn meddalwedd gyda dwy raglen yw Cysgliad. Mae’n cynnwys Cysill, sy'n nodi ac yn cywiro gwallau iaith yn eich dogfennau Cymraeg, a Cysgair sy’n eiriadur elecronig.

Mae Helo Blod yn wasanaeth cyfieithu a gwirio testun.

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi casglu llawer o dermau sydd wedi cael eu defnyddio'n gyffredin yn ystod y pandemig ac wedi cynhyrchu geiriadur bach o dermau coronafeirws a ddefnyddir amlaf yn Gymraeg. Nod yr adnodd yw helpu siaradwyr i siarad ac ysgrifennu am y clefyd yn eu mamiaith.

Mentrau Iaith

Mentrau Iaith Cymru (MIC) yw'r sefydliad cenedlaethol sy'n cefnogi gwaith 22 o Mentrau Iaith lleol ledled Cymru.

Eu rôl yw codi ymwybyddiaeth o'r iaith a diwylliant Cymraeg, trwy annog pobl i ddatblygu eu gwybodaeth a'u defnydd o'r iaith a gallu ymarfer eu sgiliau iaith mewn amgylchedd cyfeillgar a chymdeithasol yn y gymuned.

Yr iaith Gymraeg - ymchwil, technoleg, dysgu a chefnogaeth

Canolfan Bedwyr yw canolfan gwasanaethau, ymchwil a thechnoleg Cymraeg Prifysgol Bangor.

Mae datblygu sgiliau iaith Cymraeg yn helpu i ddatblygu hyder myfyrwyr, staff a chyflogwyr i ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

Crëwyd adnoddau enwau lleoedd i gynorthwyo i ddarganfod a gwirio bodolaeth enwau Cymraeg ar gyfer lleoedd Saesneg ac i'r gwrthwyneb.

Mae Technoleg lleferydd yn dechnoleg iaith lleferydd sydd â'r gallu i greu lleferydd dynol ac ymateb iddo (testun i leferydd a'i hadnabod)

Hyfforddiant

Sefydlwyd Canolfan Genedlaethol Dysgu Cymraeg i ddarparu hyfforddiant Cymraeg gyda chyfoeth o hyfforddiant ar gael ar-lein, cyrsiau byr, apiau a llawer mwy.

Sefydliadau arall

Mudiad Meithrin

Mae Mudiad Meithrin yn darparu profiadau chwarae a dysgu i blant o’u genedigaeth hyd at oedran ysgol.

Tudalen YouTube Mudiad Meithrin

Mae tudalen YouTube Mudiad Meithrin yn cynnwys amryw o adnoddau Cymraeg.

Bwletin rhithwir ar gyfer adnoddau Cymraeg

Mae hysbysfwrdd rhithwir adnoddau Cymraeg ar gael ar Padlet.com sy'n cynnwys adnoddau hyfforddi, adnoddau i ddysgwyr, gweithgareddau, apiau, cerddoriaeth, swyddi a llawer iawn mwy i'ch cefnogi chi i ddysgu a datblygu eich sgiliau Cymraeg.

Adnoddau addysgol

OpenLearn Cymru: Cartref dysgu dwyieithog, am ddim yng Nghymru − adnodd i unrhyw un sy'n dymuno gwybod mwy am gymdeithas a diwylliant Cymru ac mae'n dwyn ynghyd gasgliad o adnoddau addysgol am ddim sy'n berthnasol i Gymru.

Cysylltu â ni

Os oes gennych chi gwestiwn neu os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn edrych amdano, cysylltwch â ni.

Cyhoeddwyd gyntaf: 16 Ionawr 2019
Diweddariad olaf: 13 Medi 2024
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (100.3 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch