Jump to content
Wythnos Gwaith Cymdeithasol 2025

Cynhelir Wythnos Gwaith Cymdeithasol o ddydd Llun 17 Mawrth i ddydd Gwener 21 Mawrth. Mae'n dod â phobl at ei gilydd i ddathlu gwaith cymdeithasol.

Social work week 2025

Beth sy'n digwydd yn ystod Wythnos Gwaith Cymdeithasol?

Yn ystod yr wythnos, byddwn ni'n cynnal cyfres o ddigwyddiadau ar-lein am ddim, ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwaith cymdeithasol.

Bydd y rhaglen yn canolbwyntio ar dair thema allweddol:

  • cryfhau ein perthynas
  • cynnal ein hunaniaeth gwaith cymdeithasol
  • cefnogi ein llesiant yn y gwaith.

Ac ar ddydd Mawrth 18 Mawrth byddwn ni'n dathlu Diwrnod Gwaith Cymdeithasol y Byd.

Bydd mynychu'r digwyddiadau yn cyfrif tuag at eich oriau datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) os ydych chi wedi cofrestru â ni.

I bwy mae Wythnos Gwaith Cymdeithasol?

Mae Wythnos Gwaith Cymdeithasol ar gyfer pawb sydd â diddordeb mewn gwaith cymdeithasol yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys:

  • gweithwyr cymdeithasol, gan gynnwys y rhai sy'n gweithio a'r rhai sy'n dymuno dychwelyd i'r proffesiwn
  • gweithwyr cymdeithasol, gan gynnwys y rhai sy’n gweithio a’r rhai sydd am ddychwelyd i'r proffesiwn
  • myfyrwyr gwaith cymdeithasol ac addysgwyr
  • pobl sydd â phrofiad o waith cymdeithasol
  • cyflogwyr gweithwyr cymdeithasol
  • gweithlu gofal cymdeithasol ehangach
  • swyddogion llywodraeth a pholisi
  • gweithwyr Gofal Cymdeithasol Cymru a sefydliadau partner.

Cymerwch ran!

Rydyn ni'n chwilio am unigolion, grwpiau a thimau a hoffai gyflwyno sesiwn ar-lein yn ystod Wythnos Gwaith Cymdeithasol.

Mae hwn yn gyfle i arddangos eich gwybodaeth a'ch profiad chi i helpu eraill ar eu taith gwaith cymdeithasol!

Os hoffech chi gymryd rhan yn y gynhadledd fel siaradwr, noddwr neu ddeiliad stondin, llenwch y ffurflen mynegi diddordeb a byddwn ni mewn cysylltiad.

Rhaid i ddatganiadau o ddiddordeb gyd-fynd ag un o'r dair thema allweddol ar gyfer yr wythnos:

  • cryfhau ein perthynas
  • cynnal ein hunaniaeth gwaith cymdeithasol
  • cefnogi ein llesiant yn y gwaith.

Lle bo'n bosibl, anogir cyfranwyr i gyd-gynhyrchu eu sesiynau gyda'r bobl hynny sydd â phrofiad byw neu ddysgedig o waith cymdeithasol.

Y dyddiad cau ar gyfer datganiadau o ddiddordeb yw dydd Gwener 15 Tachwedd 2024.

Cysylltu â ni

Am fwy o wybodaeth am y cynadleddau dathlu gwaith cymdeithasol, anfonwch e-bost at Ymholiadaugg@GofalCymdeithasol.Cymru

Digwyddiadau

Byddwn ni'n rhoi manylion ein digwyddiadau ar y dudalen we yma yn gynnar yn 2025.

Cyhoeddwyd gyntaf: 11 Mehefin 2024
Diweddariad olaf: 8 Hydref 2024
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (39.3 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch