Jump to content
Bod yn dyst i Ofal Cymdeithasol Cymru mewn gwrandawiad

Pan fydd rhywun yn mynegi pryder am berson cofrestredig, efallai y bydd ein tîm addasrwydd i ymarfer yn ymchwilio i’r gwyn. Gall ymchwiliad arwain at gyfeirio person cofrestredig i wrandawiad panel addasrwydd i ymarfer i benderfynu a allant aros ar y gofrestr gofal cymdeithasol a pharhau i weithio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Efallai y byddwn ni, neu berson cofrestredig, yn gofyn i rywun ddod i wrandawiad fel ‘tyst’.

Mae tyst yn rhywun a fydd yn ateb cwestiynau’r panel am yr honiad neu’r pryder i gefnogi ein tystiolaeth ni, neu dystiolaeth y person cofrestredig.

Bod yn dyst mewn gwrandawiad

Mae eich rôl fel tyst mewn gwrandawiad yn bwysig, a dim ond os ydym yn credu bod angen i chi gymryd rhan y byddwn yn gofyn i chi gyfrannu.

Weithiau, ni fydd angen i dystion fod yn bresennol mewn gwrandawiad, er enghraifft, os bydd y person cofrestredig yn cyfaddef yr honiadau yn eu herbyn. Yn yr achosion hyn, efallai y rhoddir eich datganiad tyst i banel i’w ddarllen yn lle.

Mae’n bwysig bod y panel yn clywed tystiolaeth tystion gan ei fod yn rhoi cyfle iddynt ofyn cwestiynau i’w helpu i gael gwell dealltwriaeth o’r dystiolaeth a dod i benderfyniad.

Os byddwn yn gofyn i chi ddod i wrandawiad fel tyst, a siarad â phanel, gelwir hyn yn ‘rhoi tystiolaeth’.

Mynd i wrandawiad ar Zoom (gwrandawiad rhithwir)

Mae gwrandawiadau’n cael eu cynnal ar-lein ar Zoom, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu cymryd rhan mewn gwrandawiad ar Zoom.

Os nad oes gennych chi fynediad at ddyfais fel iPad, cyfrifiadur neu ffôn clyfar i gymryd rhan ar Zoom neu os nad ydych chi’n gwybod sut mae defnyddio Zoom, rhowch wybod i’r swyddog addasrwydd i ymarfer a gallan nhw helpu i wneud trefniadau i’ch helpu.

Gallech ddefnyddio ein hoffer yn ein swyddfeydd yng Nghaerdydd neu yn Llanelwy, felly rhowch wybod i ni os oes angen i chi ddefnyddio ein swyddfa.

I ddefnyddio Zoom, bydd angen y canlynol arnoch:

  • cyfrifiadur/gliniadur/arwyneb/ iPad/ffôn clyfar gyda microffon a chamera, sydd wedi’i gysylltu â rhyngrwyd dibynadwy a chryf
  • ystafell dawel gyda golau da. Dylai’r golau ddod o’ch blaen chi neu uwch eich pen. Os yw’r golau’n dod o’r tu ôl i chi, bydd yn anodd i bobl eich gweld
  • yr ap Zoom am ddim neu ymunwch drwy eich porwr gwe (fel Safari, Internet Explorer neu Google Chrome). Os hoffech chi gael help gyda hyn, rhowch wybod i ni cyn y gwrandawiad

Gwyliwch y fideo yma ar sut mae gwrandawiadau’n gweithio ar Zoom

Cyn y gwrandawiad

  • bydd y swyddog addasrwydd i ymarfer yn anfon gwahoddiad drwy e-bost atoch gyda dolen i ymuno â’r gwrandawiad drwy Zoom
  • bydd cyflwynydd achos o gyfreithwyr Blake Morgan, sy’n ein cynrychioli ni mewn gwrandawiad, yn anfon eich datganiad tyst atoch cyn y gwrandawiad. Sicrhewch eich bod yn dod ag ef gyda chi yn ystod y gwrandawiad a gwnewch yn siŵr eich bod wedi’i ddarllen.

Ar ddiwrnod y gwrandawiad

  • ymunwch â’r gwrandawiad drwy’r ddolen a anfonwyd atoch. Bydd y swyddog addasrwydd i ymarfer wedi rhoi amcangyfrif o’r amser i chi ymuno a byddant yn eich ffonio neu’n anfon e-bost atoch i roi gwybod i chi pan fyddwn yn barod i chi ymuno
  • gan nad oes modd rhagweld amseroedd gwrandawiadau, efallai y bydd rhywfaint o oedi a allai effeithio ar eich tro chi i siarad â’r panel. Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i chi aros nes bydd y panel yn barod ar eich cyfer chi. Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi ar y diwrnod os bydd unrhyw oedi
  • cadwch y diwrnod yn rhydd gan na allwn sicrhau’n union faint o’r gloch y cewch eich galw a phryd y byddwch wedi gorffen.

Gwyliwch y fideo hwn ar bwy fydd mewn gwrandawiad

Yn ystod y gwrandawiad

  • y clerc fydd y person cyntaf y byddwch yn ei weld, a byddan nhw’n gwneud yn siŵr ein bod ni’n gallu eich gweld a’ch clywed chi’n iawn. Gan y byddwch yn siarad â’r panel am faterion pwysig, bydd angen iddynt fod yn siŵr eich bod yn dweud y gwir. Felly bydd y clerc yn gofyn i chi a hoffech chi wneud cadarnhad (sef addewid i ddweud y gwir) neu dyngu llw ar lyfr cysegredig o’ch dewis chi (sicrhewch ei fod wrth law)
  • os oes gennych unrhyw gwestiynau am y gwrandawiad neu am eich rôl yn y gwrandawiad fel tyst, gofynnwch i’r clerc
  • bydd y clerc wedyn yn eich symud i ystafell ymneilltuo (ystafell rithiol) lle byddwch yn ymuno â’r cyflwynydd achos a’r swyddog addasrwydd i ymarfer a gymerodd eich datganiad
  • Byddant yn trafod eich datganiad ac yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych
  • pan fyddwch chi’n barod i siarad â’r panel, bydd y clerc yn cau’r ystafell ymneilltuo a byddwch yn ymuno â’r panel yn ystafell y gwrandawiad. Gwnewch yn siŵr bod eich fideo ymlaen o hyd a bod eich microffon wedi’i ddiffodd ar y pwynt hwn

Rhoi eich tystiolaeth - cam wrth gam

  • pan fyddwch yn ystafell y gwrandawiad, byddwch yn gweld y Cadeirydd, 3 aelod o’r panel, y clerc, y person cofrestredig (os ydynt yn bresennol), y cyflwynydd achos (y byddwch eisoes wedi cwrdd â nhw), y swyddog addasrwydd i ymarfer (y byddwch eisoes wedi cwrdd â nhw), cynghorydd cyfreithiol ac unrhyw arsylwyr (gallai hyn gynnwys aelodau o’r wasg). Gwyliwch y fideo yma i gael rhagor o wybodaeth am bwy sydd mewn gwrandawiad
  • bydd y Cadeirydd yn eich croesawu ac yn diolch i chi am fod yn bresennol. Yna byddan nhw’n cyflwyno aelodau’r panel ac eraill i chi, er mwyn i chi wybod pwy yw’r wynebau a gyda phwy rydych chi’n siarad
  • bydd y Cadeirydd yn esbonio’r broses ac yn eich atgoffa y gallwch ofyn am seibiant os oes angen un arnoch
  • bydd y cynghorydd cyfreithiol yn gofyn i chi sut hoffech roi eich tystiolaeth, drwy dyngu llw neu gadarnhad. Os ydych chi wedi penderfynu tyngu’r llw, bydd yn gwneud yn siŵr bod eich llyfr sanctaidd o ddewis gyda chi. Yna byddant yn gofyn i chi ailadrodd ar ôl y geiriad ar gyfer y cadarnhad neu’r llw
  • bydd y cyflwynydd yn gofyn cwestiynau i chi am eich datganiad. Cymerwch eich amser wrth ateb. Efallai fod y cwestiynau’n ymwneud â digwyddiad a ddigwyddodd amser maith yn ôl, felly peidiwch â phoeni os na allwch gofio popeth, esboniwch hyn yn eich ateb
  • os oes unrhyw beth nad ydych chi’n ei ddeall, gofynnwch i’r cyflwynydd egluro beth mae’n ei olygu
  • gall y Cadeirydd awgrymu egwyl ar y pwynt hwn, cyn i’r person cofrestredig ddechrau ei gwestiynau os yw’n bresennol a bod ganddo gwestiynau
  • Os nad yw’r person cofrestredig yno, efallai y bydd y cynghorydd cyfreithiol yn gofyn cwestiynau i chi y mae’n credu y byddai’r person cofrestredig wedi’u gofyn
  • efallai y bydd y person cofrestredig yn gofyn rhai cwestiynau i chi nad ydynt yn eich datganiad. Bydd y cynghorydd cyfreithiol yn eu hatal os ydynt yn credu bod cwestiwn yn annheg neu'n amhriodol
  • efallai y bydd y panel a'r cynghorydd cyfreithiol yn cymryd seibiant i feddwl pa gwestiynau y maent am eu gofyn i chi
  • os cymerir egwyl ar y pwynt hwn, byddwch yn cael eich symud i'ch ystafell breifat eich hun ar gyfer yr egwyl. Gallwch ddefnyddio’r amser hwn i gerdded i ffwrdd o’r sgrin. Mae’n bwysig cofio eich bod yn dal i fod ar lw felly ni ddylech drafod unrhyw un o’r cwestiynau a ofynnwyd i chi gydag unrhyw un
  • bydd y clerc yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ba mor hir y mae’r panel yn debygol o fod. Gallwch ddefnyddio’r botwm ‘ask for help’ yn Zoom os ydych chi eisiau siarad â’r clerc
  • Byddwch yn cael eich symud yn ôl i brif ystafell y gwrandawiad pan fydd y panel yn barod i ddechrau eto, ac efallai y bydd y panel a’r cynghorydd cyfreithiol yn gofyn cwestiynau i chi. Efallai na fydd y cwestiynau’n ymwneud â’ch datganiad yn unig, ond bydd y cynghorydd cyfreithiol yn gwneud yn siŵr mai dim ond cwestiynau a fydd yn helpu’r panel i ddeall y dystiolaeth a dod i benderfyniad y byddant yn eu gofyn
  • bydd y cyflwynydd wedyn yn cael cyfle i ofyn unrhyw beth arall i chi. Pan fydd y cyflwynydd wedi gorffen, bydd y Cadeirydd yn rhoi gwybod i chi bod eich tystiolaeth wedi dod i ben a’ch bod yn gallu gadael. Gallwch naill ai aros a gwylio gweddill y gwrandawiad (bydd yn rhaid i chi ddiffodd eich microffon a’ch fideo) neu gallwch allgofnodi a gadael Zoom.

Rhoi tystiolaeth mewn ffordd sy’n gyfforddus i chi – trefniadau rhesymol

Rydym eisiau i’n proses addasrwydd i ymarfer fod mor hygyrch â phosibl. Os oes gennych chi unrhyw anghenion ychwanegol, rhowch wybod i’ch swyddog addasrwydd i ymarfer cyn gynted â phosibl.

Os ydych chi’n meddwl y bydd angen rhywfaint o drefniadau arnoch mewn gwrandawiad i’ch helpu i roi tystiolaeth, siaradwch â’r swyddog addasrwydd i ymarfer cyn y gwrandawiad.

Er enghraifft, efallai y bydd angen cyfieithwyr arnoch i’ch helpu i roi tystiolaeth yn eich dewis iaith, efallai y bydd angen seibiannau rheolaidd arnoch, neu os hoffech dderbyn llythyrau yn hytrach na negeseuon e-bost.

Hawlio enillion a gollwyd

Os na fydd eich cyflogwr yn rhoi amser o'r gwaith gyda thâl i chi fynychu'r gwrandawiad, gallwch wneud cais am 'golli enillion'. Rhowch wybod i’r swyddog addasrwydd i ymarfer cyn y gwrandawiad a gallant eich helpu gyda hawliad.

Cymorth ychwanegol

Cyhoeddwyd gyntaf: 18 Gorffennaf 2023
Diweddariad olaf: 26 Gorffennaf 2023
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (47.7 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch