Mae’r adnodd dysgu yma a’r bwriad o ddarparu dealltwriaeth o sut i ddefnyddio dulliau positif a rhagweithiol i leihau’r defnydd o ymarferion cyfyngol mewn gofal cymdeithasol.
Er ei fod wedi'i fwriadu ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol, mae hefyd yn ddefnyddiol ar gyfer:
- pobl sy'n defnyddio gwasanaethau a'u teuluoedd
- rheolwyr
- cyflogwyr
- llunwyr polisïau
- comisiynwyr
- y rhai sydd mewn addysg
- eraill sy'n gweithio yn y gymuned, gan gynnwys gofal sylfaenol a’r gwasanaethau brys.
Mae'r adnodd yn cefnogi arfer gorau gan ddefnyddio enghreifftiau a senarios. Gellir ei ddefnyddio:
- wrth oruchwylio ac arfarnu
- fel rhan o raglenni sefydlu
- fel sesiynau hyfforddi
- i oleuo polisi a phrotocolau
- fel rhan o archwilio a sicrhau ansawdd
- fel sail i gomisiynu.
Mae'r adnodd wedi cael ei ddatblygu mewn partneriaeth gyda'r sector gofal cymdeithasol. Mae wedi’i adolygu gyda’r sector gofal cymdeithasol yn unol â Fframwaith ar gyfer Lleihau Arferion Cyfyngol Llywodraeth Cymru.
Mae wedi'i strwythuro ar sail gwerthoedd ac egwyddorion y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).
Dylid ei ddarllen ochr yn ochr â'r Côd Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gofal Cymdeithasol.
Cyhoeddwyd gyntaf: 23 Ionawr 2017
Diweddariad olaf: 25 Gorffennaf 2024
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch