Jump to content
Deall eich potensial digidol

Rydyn ni'n datblygu dyfais botensial ddigidol i helpu sefydliadau ac unigolion i ddysgu mwy am eu parodrwydd a'u hyder digidol.

Rydyn ni'n cefnogi sefydliadau gofal cymdeithasol a'u staff i ddeall eu potensial digidol yn well.

I wneud hyn, rydyn ni wedi creu'r ddyfais botensial ddigidol, a fydd yn eich helpu i gael darlun mwy cyflawn o'ch sgiliau a'ch gallu digidol cyfredol eich hun a'ch sefydliad.

Bydd y ddyfais hefyd yn darparu trosolwg o'r sefyllfa ar draws Cymru. Byddwn yn rhannu'r canfyddiadau mewn adroddiad cenedlaethol yn 2025.

Pam ydyn ni'n gwneud y gwaith hwn?

Gall gwybod mwy am hyder digidol eich gweithlu eich helpu i wneud yn siŵr eich bod yn barod i wneud y gorau o dechnolegau presennol a newydd, datblygu dulliau newydd ac arloesol o weithio, a sicrhau canlyniadau gwell i bobl sy'n defnyddio gofal a chymorth.

Rydyn ni wedi gweithio gyda Basis i ddatblygu'r ddyfais botensial ddigidol er mwyn deall parodrwydd digidol y gweithlu a sefydliadau ar draws gofal cymdeithasol yng Nghymru yn well.

Ein nod yw helpu pobl a sefydliadau i wneud penderfyniadau gwybodus a chymryd camau i ddatblygu eu hyder digidol, gan wella canlyniadau i bobl sy'n defnyddio gofal a chymorth.

Rydyn ni eisiau deall lle mae’r bylchau, fel y gallwn ni a'n partneriaid gynnig y cymorth a'r hyfforddiant cywir i ddatblygu gweithlu sy’n hyderus yn ddigidol. Rydyn ni hefyd eisiau hybu'r arloesedd digidol sydd eisoes yn digwydd ym maes gofal cymdeithasol.

Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod sefydliadau'n gallu defnyddio technoleg yn effeithiol i ddarparu gwell gwasanaethau.

Person yn gweithio ar gyfrifiadur

Mae'r ddyfais botensial ddigidol wedi'i ddatblygu i helpu sefydliadau ac unigolion i ddysgu mwy am eu parodrwydd a'u hyder digidol, gan roi'r pŵer iddyn nhw i wneud penderfyniadau gwybodus am sut i wella eu galluoedd digidol a'u canlyniadau.

Pam ddylech chi ddefnyddio ein dyfais botensial ddigidol?

Fel unigolyn

Trwy ddefnyddio'r ddyfais botensial ddigidol, byddwch yn dod i ddeall eich sgiliau a'ch galluoedd digidol presennol yn well.

Bydd y ddyfais hefyd yn eich cyfeirio at adnoddau a hyfforddiant defnyddiol i gefnogi eich taith ddysgu ddigidol.

Bydd gwybod mwy am eich galluoedd digidol presennol a sut i gael mynediad at yr adnoddau a’r hyfforddiant perthnasol yn eich cefnogi i wneud y gorau o dechnolegau digidol yn eich rôl.

Fel sefydliad

Bydd y ddyfais botensial ddigidol a'r adnoddau mae'n amlygu yn galluogi eich sefydliad i:

  • ddarganfod lle mae angen cefnogaeth a hyfforddiant i fynd i'r afael â bylchau sgiliau digidol
  • ddeall galluoedd digidol staff gofal cymdeithasol ar draws y sefydliad
  • wneud penderfyniadau mwy gwybodus am ddefnyddio technoleg gynorthwyol i gefnogi canlyniadau gwell i bobl sy'n defnyddio gofal a chymorth
  • asesu a yw eich seilwaith digidol yn addas.

Trwy ddefnyddio'r ddyfais, byddwch yn ein helpu i gael dealltwriaeth gliriach o barodrwydd digidol y gweithlu a sefydliadau ar draws gofal cymdeithasol yng Nghymru. Byddwn yn defnyddio hyn i lywio ein gwaith gyda phartneriaid ynghylch penderfyniadau ariannu, adnoddau a hyfforddiant, gan helpu pobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol i wella eu hyder a'u sgiliau digidol.

Byddwch ymhlith y cyntaf i ddefnyddio'r ddyfais

Dros y misoedd nesaf byddwn yn datblygu’r ddyfais i’w lansio ym mis Ionawr 2025.

Cofrestrwch ar gyfer ein rhestr aros fel y gallwch gael gwybod pan fydd y ddyfais ar gael. Peidiwch â cholli'r cyfle i wella eich dealltwriaeth o'ch potensial digidol eich hun a'ch sefydliad.

Ymunwch â'r rhestr aros trwy lenwi'r ffurflen hon. Byddwn ni'n cysylltu i roi gwybod i chi pryd fydd y ddyfais yn cael ei lansio.

Byddwn ni hefyd yn rhannu rhywfaint o wybodaeth ddefnyddiol am sut y gallwch chi a'ch sefydliad gael y gwerth mwyaf o'r ddyfais.

Gallwch chi optio allan o'r cyfathrebu hwn ar unrhyw adeg trwy anfon e-bost atom at digital@socialcare.wales.

Dywedwch wrth eraill am y ddyfais

Dywedwch wrth ddarparwyr eraill am y ddyfais fel y gallwn helpu pobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol i wneud penderfyniadau mwy gwybodus a gwella canlyniadau i bobl yng Nghymru.

Y fwyaf o bobl sy'n defnyddio'r ddyfais, y mwyaf gwybodus fyddwn ni fel cenedl am ba gefnogaeth sydd ei hangen i wella parodrwydd a hyder digidol y gweithlu a sefydliadau gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Gyda'ch help chi, bydd hyn yn gwella:

  • gallu arweinwyr i wneud penderfyniadau strategol a dyrannu adnoddau yn fwy effeithiol
  • ein dealltwriaeth o anghenion datblygu a bylchau sgiliau yn y gweithlu
  • gallu sefydliadau i brofi datrysiadau digidol arloesol
  • cydweithio a chefnogaeth gyffredinol
  • mynediad cyfartal at gyfleoedd a chefnogaeth gan ddefnyddio adnoddau digidol
  • gallu'r gweithlu i roi gofal mwy personol o dan bwysau a disgwyliadau cynyddol.
Cysylltwch

Os hoffech chi wybod mwy am y prosiect hwn, neu gymryd rhan yn y gwaith, cysylltwch â ni trwy anfon e-bost at digital@socialcare.wales.

Yr enw blaenorol ar y gwaith hwn oedd yr 'asesiad aeddfedrwydd a llythrennedd digidol'.

Cyhoeddwyd gyntaf: 29 Hydref 2024
Diweddariad olaf: 28 Tachwedd 2024
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (30.7 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch