Jump to content
Gorchmynion dros dro

Pobl cofrestredig sydd wedi eu hatal dros dro

Gallwn atal person cofrestredig dros dro o’r  Gofrestr, wrth i ni ymchwilio i honiadau neu bryderon. Mae’r rhain yn cael eu galw’n orchmynion atal dros dro. Ni all person cofrestredig weithio mewn rôl gofal cymdeithasol a reoleiddir yng Nghymru o dan orchymyn atal dros dro.

Rhaid i orchmynion dros dro gael eu hadolygu bob chwe mis ac ni allant fod yn hirach na 18 mis oni bai bod y Tribiwnlys Safonau Gofal yn eu hymestyn.

Pobl cofrestredig ag amodau dros dro

Gall person cofrestredig gael amod dros dro ar eu cofrestriad os oes angen i ddiogelu’r cyhoedd, os yw er budd y cyhoedd neu er budd y person cofrestredig.

Gelwir yr amodau dros dro hyn yn orchmynion cofrestru amodol dros dro.

Gall person cofrestredig barhau i weithio yn eu rôl gofrestredig tra bod amod yn ei le. Ni all gorchmynion cofrestru amodol dros dro fod yn hirach na 18 mis, a byddan nhw’n cael eu hadolygu bob chwe mis tra bod yr ymchwiliad yn cael ei gynnal.

Chwilio'r Gofrestr

Gallwch chi chwilio’r Gofrestr o Weithwyr Gofal Cymdeithasol yng Nghymru i weld a oes gan berson cofrestredig orchymyn atal dros dro neu amod dros dro ar ei gofrestriad.

Cyhoeddwyd gyntaf: 13 Chwefror 2024
Diweddariad olaf: 13 Chwefror 2024
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (31.5 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch