Jump to content
Cefnogi cyflogwyr

Mae’r ‘cynnig i gyflogwyr’ yn cynnig amrywiaeth eang o wasanaethau, cefnogaeth ac adnoddau rydyn ni wedi’u creu a’u cyfuno ar gyfer cyflogwyr i’ch helpu yn eich rôl.

Cynnig i gyflogwr

Yma fe welwch ddolenni i adnoddau a all helpu i'ch cefnogi yn eich rôl.

Byddwn yn diweddaru'r rhestr hon wrth i bethau newydd ddod ar gael.

Rheoleiddio - Eich helpu i ddarparu gofal a chymorth proffesiynol a diogel

Cefnogi eich gweithlu – Eich helpu i recriwtio pobl newydd, eu cadw a’u cefnogi

Gwella gwasanaethau – Mynediad at adnoddau, data a gwybodaeth i wella ymarfer

  • Cyfleoedd i ymgysylltu â ni a helpu i siapio ein gwaith
  • Adnoddau i gefnogi dysgu a dealltwriaeth o bynciau fel dementia, y blynyddoedd cynnar a gofal plant, canlyniadau personol a diogelu
  • Cyfleoedd i fynychu digwyddiadau, hyfforddiant a chynadleddau
  • Mynediad at wybodaeth am ein dull gweithredu a’n cynlluniau ar gyfer ymchwil, data ac arloesi ar draws gofal cymdeithasol
  • Adnoddau i'ch helpu i ddefnyddio'r Gymraeg yn y gwaith
  • Porth Data Gofal Cymdeithasol Cymru i helpu i greu darlun o ofal cymdeithasol a chymorth ledled Cymru
  • Mynediad at e-Lyfrgell GIG Cymru i weithwyr cymdeithasol a rheolwyr gofal cymdeithasol
  • Amrywiaeth o fodiwlau dysgu ar-lein.

Ffyrdd eraill rydyn ni’n cefnogi cyflogwyr

Tîm cymorth i gyflogwyr

Fel y tîm cymorth i gyflogwyr, ein nod yw:

  • gweithio gyda chyflogwyr i glywed beth sy’n digwydd yn y sector. Rydyn ni’n rhannu’r wybodaeth hon â gweddill ein sefydliad er mwyn helpu i siapio ein gwaith
  • rhannu’r hyn sydd ar gael i’ch cefnogi chi a’r gweithlu
  • helpu cyflogwyr i ddeall eich cyfrifoldebau rheoleiddio a gwneud hyn mor syml ac effeithlon â phosibl.

Mae’r gwaith hwn mewn cyfnod peilot tan 2025 ar hyn o bryd, gan ganolbwyntio ar gyflogwyr cartrefi gofal i oedolion a chyflogwyr gofal cartref oherwydd y cynnydd yn nifer y staff cofrestredig yn yr ardaloedd hyn ers 2020. Fodd bynnag, bydd unrhyw adnoddau a gynhyrchir ar ein gwefan ac ar gael i bob cyflogwr.

Sesiynau gwybodaeth ar-lein

Mae gennym sesiynau gwybodaeth ar-lein ar gael i gyflogwyr a thimau rheoli.

Byddwn yn rhoi mwy o wybodaeth i chi ac yn siarad â chi drwy bethau fel:

  • y gwasanaeth cymorth i gyflogwyr
  • y broses addasrwydd i ymarfer
  • y cynnig i gyflogwyr

Gallwch ddarganfod mwy a chofrestru am ein digwyddiadau yma.

Os hoffech chi gael sesiwn bwrpasol, wedi’i theilwra i’ch tîm neu’ch digwyddiad, anfonwch e-bost at cymorthcyflogwyr@gofalcymdeithasol.cymru

Cyhoeddwyd gyntaf: 4 Mai 2023
Diweddariad olaf: 4 Awst 2023
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (42.3 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch