Mae'n bosib y bydd angen i chi newid eich cofrestriad os ydych chi'n gweithio mewn mwy nag un rôl gofrestredig neu'n newid eich rôl.
Os ydych chi'n gweithio mewn mwy nag un rôl sy'n gofyn i chi fod wedi'i gofrestru gyda ni, neu os ydych chi'n newid o un rôl gofrestredig i'r llall, bydd angen i chi naill ai wneud cais am gofrestriad ychwanegol neu newid eich cofrestriad.
Ni fydd pob newid mewn cyflogaeth yn gofyn i chi newid eich cofrestriad, ond os ydych chi’n gweithio mewn lleoliad gwahanol neu mewn gwahanol fath o rôl, gall fod angen i chi newid eich rôl gofrestredig.
Er enghraifft, os ydych chi wedi newid o
- weithio mewn gofal cartref, i weithio mewn cartref gofal (neu i’r gwrthwyneb)
- gweithio gyda phlant, i weithio gydag oedolion mewn cartref gofal (neu i’r gwrthwyneb)
- bod yn weithiwr i fod yn rheolwr (neu i’r gwrthwyneb).
(Nid oes angen bob amser i ddirprwy reolwyr newid eu cofrestriad, felly holwch eich rheolwr llinell os nad ydych chi’n siŵr).
Hefyd, bydd angen i chi newid eich cofrestriad os ydych chi’n gweithio mewn mwy nag un math o rôl ofalu. Er enghraifft, os ydych chi’n weithiwr gofal cartref ac yn weithiwr cartref gofal.
Sut i newid eich rôl gofrestredig
Os bydd angen i chi newid eich rôl gofrestredig, gall fod angen i chi gwblhau cymhwyster sy’n wahanol i’r cymhwyster ddefnyddioch chi i gofrestru’n flaenorol. Bydd eich rheolwr llinell yn gallu’ch helpu i gadarnhau. Gallwch ddysgu rhagor am y cymwysterau sydd eu hangen arnoch chi i gofrestru ar ein Fframwaith cymwysterau.
Gallwch fewngofnodi i’ch cyfrif GCCarlein yma ac eir â chi i’r dudalen berthnasol lle y gallwch wneud cais am newid eich cofrestriad neu wneud cais am gofrestriad arall.