Mae gan gyflogwyr a sefydliadau addysg uwch (SAU) gyfrifoldebau cofrestru. Mae’r cyfrifoldebau hyn yn cynnwys bod yn llofnodwyr cymeradwy, gwirio a chymeradwyo ceisiadau cyntaf a cheisiadau adnewyddu, a hyrwyddo’r Côd Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gofal Cymdeithasol.
Beth yw llofnodwyr
Mae’n rhaid i gyflogwyr a sefydliadau addysg uwch enwebu pobl briodol i weithredu fel llofnodwyr. Mae llofnodwyr yn cymeradwyo ceisiadau ac yn helpu i gynnal cofrestr gyfredol.
Mae dau fath o lofnodwr:
- prif lofnodwyr – rhywun mewn rôl uwch sydd â mynediad at gofnodion Adnoddau Dynol
- llofnodwyr ychwanegol – sy’n cael eu henwebu gan y prif lofnodwr ac sy’n gallu bod yn unigolyn sy’n gallu gwirio gwybodaeth, er enghraifft rheolwyr tîm.
Cyfrifoldebau llofnodwyr
Mae cyfrifoldebau llofnodwyr cyflogwyr neu sefydliadau addysg uwch yn cynnwys:
- gwirio dogfennau adnabod
- cymeradwyo ceisiadau
- cyfnewid gwybodaeth gyda ni
- ein hysbysu am unrhyw faterion yn ymwneud ag addasrwydd i ymarfer
- ein hysbysu os yw myfyriwr yn gohirio ei astudiaethau neu’n gadael y cwrs
- diweddaru gwybodaeth am ymrestru myfyrwyr a gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd trwy ddefnyddio’ch cyfrif SCWar-lein
- cadarnhau datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) (a elwid gynt yn PRTL).
Darllenwch ein canllawiau am datblygiad proffesiynol parhaus (DPP).
Gweler ein fideos am gyfrifoldebau cyflogwyr.
Sut i fod yn llofnodwr
I ddod yn brif lofnodwr, bydd angen i chi gysylltu â llofnodwyr@gofalcymdeithasol.cymru Gofynnir cwestiynau i chi i sicrhau eich bod yn addas i gyflawni'r rôl hon.
I ddod yn llofnodwr ychwanegol, ewch i ‘Gwneud cais i Gymeradwyo’ yn eich cyfrif GCCarlein.
- Ar ôl eu cyflwyno, bydd y ceisiadau hyn yn ymddangos yn adran Llofnodwyr ‘Fy Sefydliad’ er mwyn i brif lofnodwr gymeradwyo neu wrthod.
- Rhaid i sefydliad gael prif lofnodwr cymeradwy cyn y gallwn ychwanegu unrhyw lofnodwyr ychwanegol.
Mae cyfrifon ar CGGarlein yn unigol. Os ydych wedi cofrestru neu os oes gennych gyfrif eisoes, dylech ddefnyddio'r un cyfrif a mewngofnodi ar gyfer pob rôl a rhyngweithiad â ni.
Ar ôl dod yn llofnodwr
Ar ôl dod yn llofnodwr, byddwch yn derbyn e-bost sy’n cynnwys gwybodaeth am sut i greu’ch cyfrif GCCarlein.
Mae GCCarlein yn helpu llofnodwyr i:
- weld y rhestr o ymgeiswyr ac unigolion cofrestredig ar gyfer eu sefydliad
- anfon dogfennau atom
- cysylltu â ni’n uniongyrchol
- gofyn am lofnodwyr newydd (prif lofnodwr yn unig)
- bod yn brif gyswllt ar gyfer materion cofrestru
- rhoi gwybod i ni os oes rhywun yn gadael ei swydd
- cadarnhau bod enw person cofrestredig sydd wedi’i gyflogi gan eich sefydliad yn ystod y 12 mis diwethaf wedi’i dynnu oddi ar y Gofrestr
- gweld gwybodaeth fanylach yn ymwneud â chofrestru, fel sancsiynau addasrwydd i ymarfer.
Gwirio a chymeradwyo ceisiadau
Gall prif lofnodwyr a llofnodwyr ychwanegol gymeradwyo a gwirio ffurflenni cais a ffurflenni adnewyddu.
Wrth gymeradwyo, mae’n rhaid i lofnodwyr sicrhau bod yr holl wybodaeth ar y ffurflen gais yn gywir, yn benodol:
- datganiadau disgyblu neu droseddol
- dyddiad y gwiriad diweddaraf gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
- nad ydynt yn gwybod am unrhyw reswm pam na ddylai person fod wedi’i gofrestru.
Mae’n rhaid i bob cais newydd gael ei gymeradwyo gan gyflogwr yr ymgeisydd.
Mae’n rhaid cymeradwyo ceisiadau adnewyddu rheolwyr a gweithwyr gofal cymdeithasol, gan gynnwys gweithwyr gofal cartref.
Nid oes angen cymeradwyo ceisiadau adnewyddu gweithwyr cymdeithasol cymwysedig.
Gellir cymeradwyo ffurflenni cais a ffurflenni adnewyddu trwy ddefnyddio GCCarlein.
Os yw person yn eich dewis i’w gymeradwyo:
- byddwch yn derbyn cais mewn e-bost
- bydd angen gwirio’r ffurflen o fewn saith diwrnod
- byddwch yn cwblhau ac yn cyflwyno’ch cymeradwyaeth.
Os nad ydych yn gallu neu os nad ydych yn fodlon cymeradwyo cais, dylech e-bostio cofrestru@gofalcymdeithasol.cymru
Os oes gennych bryder am ymgeisydd neu berson cofrestredig, gwelwch sut rydym yn delio â phryderon am wybodaeth ar sut i godi eich pryder.
Darllenwch ein tudalennau canllau am wirio a chymeradwyo.
Asesiad gan gyflogwr
Gelwir un o'r llwybrau i gofrestru yn asesiad gan gyflogwr. Gofynnwn i gyflogwyr gadarnhau addasrwydd ymgeisyddwrth eu hasesu yn erbyn rhestr o gymwyseddau.
Dyma fideo canllaw cyflym i helpu cyflogwyr i ddeall sut i reoli ceisiadau asesu gan cyflogwyr yn eu cyfrif GCCarlein.
Dysgwch fwy am y broses asesiad gan gyflogwr.
Cysylltu â ni
Os oes gennych gwestiwn neu os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn edrych amdano, cysylltwch â ni.