Dechreuodd Sarah ei gyrfa fel gweithiwr ieuenctid yng Nghymru ac roedd hi’n un o aelodau sefydlu’r Cynulliad Plant a Phobl Ifanc Cymru gynt. Bu'n gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau statudol a gwirfoddol, yn arbennig gyda phobl ifanc agored i niwed, ac wrth gefnogi cyfranogiad pobl ifanc.
Aeth Sarah ymlaen i ddal swyddi mewn awdurdodau lleol ym maes gwaith ieuenctid a chynllunio busnes ehangach a gwella gwasanaethau, a hithau'n meddu ar Radd Meistr mewn Rheoli Strategol.
Bu Sarah yn gweithio i Sgiliau Gofal a Datblygu rhwng 2005 i 2015, yn y pen draw yn dod yn Gyfarwyddwr Gweithredol ar gyfer y bartneriaeth DU gyfan, gan ehangu gwaith y Cyngor Sgiliau Sector i fynd i'r afael ag amrywiaeth o heriau gweithlu ar draws gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant. Yn ystod y cyfnod hwn, bu hefyd yn gwirfoddoli fel cadeirydd elusen sy'n cefnogi pobl ifanc ac fel ymwelydd annibynnol.
Ym mis Ebrill 2016, ymunodd Sarah â Gofal Cymdeithasol Cymru fel Cyfarwyddwr Gwella a Datblygu lle bu’n goruchwylio datblygu’r gweithlu, gwella gwasanaethau, ymchwil, data ac arloesi, a daeth yn Brif Weithredwr ym mis Gorffennaf 2024. Mae Sarah wedi ymrwymo i arweinyddiaeth dosturiol a systemau i gefnogi gwasanaethau gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar yng Nghymru. Mae gan Sarah ddau o blant ac mae hi'n dysgu Cymraeg.