Rydyn ni wedi partneru gydag Ymchwil Data Gweinyddol (YDG) Cymru i arwain ar y thema gofal cymdeithasol yn rhaglen waith YDG Cymru. Ar y dudalen hon mae mwy o wybodaeth am ymchwil data cysylltiedig a sut mae'n helpu gyda'n gwaith gofal cymdeithasol.
Beth yw data gweinyddol?
Data gweinyddol yw gwybodaeth sy’n cael ei chasglu gan y llywodraeth a gwasanaethau cyhoeddus er mwyn iddyn nhw gyflawni eu gwaith yn effeithiol. Pan fydd pobl yn rhyngweithio â chyrff cyhoeddus fel ysgolion, y GIG neu'r system farnwrol, mae'r wybodaeth sy’n cael ei chreu yn helpu i fonitro a gwella'r gwasanaethau hyn. Ewch i Amdanom ni ADR UK - ADR UK i ddarganfod mwy am ymchwil data gweinyddol.
Beth yw ymchwil data cysylltiedig?
Mae’n bosib cysylltu data gweinyddol sy’n cael eu casglu mewn gwahanol leoedd i gymharu gwybodaeth o wahanol feysydd o’n bywydau. Rydyn ni’n galw hyn yn ymchwil data cysylltiedig neu cysylltu data.
Mae hyn yn helpu i:
- werthuso polisïau a gwasanaethau, a thargedu meysydd sydd angen eu gwella neu eu newid
- gasglu data am grwpiau nad ydyn nhw fel arfer yn cael eu cynrychioli mor eang mewn data ymchwil
- arbed amser ac adnoddau oherwydd nid oes angen casglu’r wybodaeth ar wahân.
Sut bydd Gofal Cymdeithasol Cymru yn arwain gweithgareddau gofal cymdeithasol YDG Cymru?
Rydyn ni wedi cymryd rôl llysgennad ar gyfer ymchwil data cysylltiedig o fewn gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Ein prif amcanion yw:
- cyfathrebu a hyrwyddo manteision ymchwil data cysylltiedig
- ymgysylltu â pherchnogion data a chasglwyr data megis awdurdodau lleol a darparwyr gofal yn y sector annibynnol, gan ganolbwyntio ar gaffael data gofal cymdeithasol oedolion at ddibenion ymchwil
- darparu cymorth a chyngor i helpu perchnogion data a chasglwyr data i ddeall manteision rhannu data a sut mae modd gwneud hyn yn gyfreithlon, yn foesegol ac yn ddiogel.
Sut byddwn ni’n sicrhau bod data’n cael ei gadw’n breifat ac yn ddiogel?
Ni fydd Gofal Cymdeithasol Cymru yn casglu unrhyw ddata fel rhan o’r gwaith hwn. Ond byddwn ni’n annog rhanddeiliaid i rannu eu data’n ddiogel i’w ddefnyddio ar gyfer ymchwil. Mewn ymchwil data cysylltiedig, mae’r data sy’n cael ei ddefnyddio a’i gysylltu yn cael ei gadw mewn cronfa ddata ddienw a diogel.
Yng Nghymru, rydyn ni’n ffodus i gael mynediad i’r Banc Data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL). Mae hon yn hafan ddiogel data cenedlaethol o setiau data heb eu nodi. Dim ond ymchwilwyr sydd wedi’u cymeradwyo gan brosesau rheoli gwybodaeth (IGRP) annibynnol SAIL all gael mynediad at ddata dienw drwy’r amgylchedd ymchwil diogel hwn. Rhaid i’w prosiect fodloni meini prawf llym a dangos ei fod er budd y cyhoedd.
Mae’n bwysig rhoi sicrwydd i’n rhanddeiliaid bod eu data mewn dwylo da. Mae hyn yn golygu y byddwn ni’n mynd i’r afael ag unrhyw bryderon sydd ganddyn nhw am rannu data. O fewn ein partneriaeth ag YDG Cymru, byddwn ni’n dod ag arbenigwyr gwyddor data, academyddion blaenllaw a thimau arbenigol ynghyd. Maen nhw i gyd yn brofiadol mewn rhannu a defnyddio data gweinyddol cysylltiedig sydd heb eu nodi mewn ffordd ddiogel a moesegol. A dim ond ar gyfer prosiectau er budd y cyhoedd y byddwn ni’n defnyddio’r data.
Eisiau gwybod mwy?
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y gwaith hwn neu os hoffech gymryd rhan, cysylltwch â Tara Hughes a Lynsey Cross, ein harweinwyr gwaith YDG, ar tara.hughes@GofalCymdeithasol.Cymru a lynsey.cross@GofalCymdeithasol.Cymru