Gwefan i'ch helpu i ddod o hyd i gartref gofal i oedolion yng Nghymru
Gwefan yw CartrefiGofal.Cymru lle byddwch yn dod o hyd i wybodaeth am bob cartref gofal i oedolion yng Nghymru. Mae'r wefan yn defnyddio gwybodaeth gan Arolygiaeth Gofal Cymru, rheoleiddiwr y sector gofal, ynghyd â gwybodaeth a ddarperir yn uniongyrchol gan y darparwyr cartrefi gofal. Gallwch chwilio’r wefan am:
- Ardal
- Math o ofal a ddarperir (nyrsio, anabledd dysgu, iechyd meddwl, gofal seibiant neu wasanaethau dydd)
- darpariaeth Gymraeg ac ieithoedd eraill
- Cyfleusterau a gwasanaethau
a darllen yr adroddiad arolygu diweddaraf.
Gall y wefan eich helpu:
- os ydych yn chwilio am gartref gofal.
- os ydych yn ddarparwr cartref gofal. Gallwch hyrwyddo eich gwasanaeth i'r cyhoedd a swyddogion gofal – yn rhad ac am ddim ac ychwanegu ffotograffau, fideos a manylion eich cyfleusterau.
- os ydych yn gweithio yn y sector gofal cymdeithasol. Gallwch gefnogi eich cleientiaid i ddod o hyd i'r cartref gofal sy'n diwallu eu hanghenion.
Cyhoeddwyd gyntaf: 18 Gorffennaf 2023
Diweddariad olaf: 12 Awst 2024
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch