Gwybodaeth am ffioedd cofrestru. Manylion am sut i dalu a faint fydd ffioedd yn codi nesaf a phryd y bydd hynny’n digwydd.
Beth yw ffioedd
Mae’n rhaid i chi dalu ffi i wneud cais i gofrestru, a bydd angen i chi dalu ffi flynyddol bob blwyddyn a ffi adnewyddu bob tair blynedd wrth adnewyddu eich cofrestriad.
Byddwn yn rhoi gwybod i chi pan fydd eich ffioedd yn ddyledus, faint sydd angen i chi ei dalu a phryd y bydd angen i chi dalu yn eich cyfrif GCCarlein.
Nid ydym yn ad-dalu ffioedd:
- os yw ceisiadau’n anghyflawn
- os yw’r cais i gofrestru wedi’i wrthod
- os ydych yn penderfynu gadael y Gofrestr.
Ffioedd presennol
- Gweithiwr cymdeithasol (cymwys yn y DU) - ffi cais, ffi flynyddol ac ffi adnewyddu - £ 80
- Gweithwyr cymdeithasol (cymwysedig y tu allan i'r DU) - nad oes ganddynt lythyr dilysu bydd angen iddynt dalu £350 i ddilysu eu cymhwyster (a ffi ychwanegol o £200 am brawf tueddfryd os bydd yr ymgeisydd yn gofyn amdano)
- Gweithwyr cymdeithasol sy'n dychwelyd i ymarfer - bydd angen iddynt dalu £200 ychwanegol a'r ffi ymgeisio o £80
- Rheolwr gofal cymdeithasol - ffi cais, ffi flynyddol ac ffi adnewyddu - £80
- Gweithwyr gofal cymdeithasol - ffi cais, ffi flynyddol ac ffi adnewyddu - £30
- Myfyriwr gwaith cymdeithasol - ffi cais a ffi flynyddol - £15.
Sut i dalu
Debyd Uniongyrchol
Debyd Uniongyrchol yw’r ffordd hawsaf a mwyaf diogel o dalu’ch ffioedd, a gallwch ei drefnu trwy eich cyfrif GCCarlein.
Os ydych yn newid eich cyfrif banc, bydd angen i chi sefydlu cyfarwyddyd trosglwyddo gyda’ch banc neu drefnu Debyd Uniongyrchol newydd gyda ni.
Mae Debydau Uniongyrchol yn cael eu diogelu gan y Warant Debyd Uniongyrchol. Unwaith y mae’r Debyd Uniongyrchol wedi’i sefydlu yn eich cyfrif, gallwn ofyn am ffioedd blynyddol a ffioedd adnewyddu yn uniongyrchol gan eich banc. Os ydych yn gadael y Gofrestr bydd y Debyd Uniongyrchol yn cael ei gau’n awtomatig.
Cerdyn credyd neu ddebyd
Gallwch dalu â cherdyn credyd neu gerdyn debyd trwy eich cyfrif GCCarlein.
Hawlio treth yn ôl
Os ydych yn talu treth yn y DU, gallwch hawlio rhyddhad treth os oes rhaid i chi dalu am ffioedd cofrestru neu bethau eraill y mae angen i chi eu prynu ar gyfer eich gwaith, fel gwisgoedd a chostau teithio ar gyfer y pedair blynedd diwethaf.
Talu heb gyfrif banc yn y DU
Gallwch drosglwyddo arian yn uniongyrchol o’ch cyfrif y tu allan i’r DU trwy ddefnyddio system SWIFT.
Bydd angen y manylion canlynol ar eich banc:
- Cod didoli: 201876
- Rhif IBAN: GB83BARC20187640923893
- Cod SWIFT: BARCGB22
Dylech sicrhau bod eich banc yn defnyddio’ch enw llawn a’ch dyddiad geni fel y cyfeirnod ar gyfer y taliad. Bydd hyn yn ein helpu i weld pwy sydd wedi gwneud y taliad.
Mae’n rhaid i chi dalu unrhyw ffioedd a godir gan y banc am wneud taliad SWIFT.
Gall eich banc godi tâl arnoch am gostau SWIFT. Dylech sicrhau bod y tâl hwn wedi’i dalu ac nad yw’n cael ei ddidynnu o’ch ffi gofrestru.
Cysylltu â ni
Os oes gennych gwestiwn neu os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn edrych amdano, cysylltwch â ni.