Jump to content
Cysylltu â ni

Sut i gysylltu â ni

Os oes gennych chi ymholiad, cysylltwch â ni drwy e-bost, drwy eich cyfrif GCCarlein neu dros y ffôn. Peidiwch â dod i’n swyddfeydd.

Rydyn ni'n gweithio mewn ffordd hybrid, sy'n golygu bod ein staff yn aml yn gweithio gartref ac efallai na fyddant yn ein swyddfeydd. Os oes gennych chi ymholiad, cysylltwch â ni drwy e-bost neu ffôn, a pheidiwch â dod i'n swyddfeydd. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod y person mwyaf priodol yn delio â'ch ymholiad cyn gynted â phosibl.

Cofrestru

ymholiadau@gofalcymdeithasol.cymru

0300 303 3444

Ar hyn o bryd mae ein llinellau ffôn ar agor rhwng 10am a 3pm, dydd Llun I ddydd Gwener. Ar adegau rydyn ni’n cael nifer uchel o alwadau ac efallai bydd rhaid i chi aros cyn i chi allu siarad ag aelod o staff.

Os ydych chi’n cysylltu â ni ynglŷn a chais i ymuno â’n Cofrestr, byddwch yn ymwybodol na allwn ni roi unrhyw ddiweddariadau i chi dros y ffôn a byddwn ni’n eich ebostio gydag unrhyw ddiweddariadau am eich cais.

Dydyn ni ddim yn derbyn taliadau cerdyn ar gyfer ffioedd dros y ffôn ar hyn o bryd. Gallwch chi dalu eich ffioedd yn hawdd trwy GCCarlein gan ddefnyddio cerdyn credit neu ddebyd, neu drwy sefydlu Debyd Uniongyrchol.

Addasrwydd i ymarfer

aiy@gofalcymdeithasol.cymru

Os oes gennych bryder am weithiwr gofal cymdeithasol, gallwch godi pryder ar-lein yma.

Gwrandawiadau

gwrandawiadau@gofalcymdeithasol.cymru

Cymwysterau

Os oes gennych chi ymholiad am gymhwyster, e-bostiwch ni gyda:
  • theitl y cymhwyster
  • ble cawsoch chi'r cymhwyster
  • y swydd
  • y math o leoliad y mae’r rôl ar ei gyfer.

Cyllid ar gyfer myfyrwyr

ariannumyfyrwyragrantiau@gofalcymdeithasol.cymru

Ymholiadau gan y wasg a'r cyfryngau

cyfathrebu@gofalcymdeithasol.cymru

Unrhyw ymholiadau eraill

0300 303 3444

gwybodaeth@gofalcymdeithasol.cymru

Cysylltu â gwasanaethau cymdeithasol

Dydyn ni ddim yn gallu ateb cwestiynau sydd ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol. Os ydych chi angen siarad â Gwasanaethau cymdeithasol neu rydych chi’n pryderu am lesiant rhywun, dylech chi gysylltu ag adran Gwasanaethau cymdeithasol eich cyngor lleol neu eich ymddiriedolaeth neu fwrdd iechyd GIG lleol.

Gallwch ddod o hyd i’r gwefan ar gyfer eich cyngor lleol yma.

Gallwch ddod o hyd i wasanaethau’r GIG sy’n agos atoch chi yma.

Os ydych chi’n pryderu am les rhywun ac mae’n argyfwng, cysylltwch â’r heddlu.

Ymddygiad annerbyniol

Rydyn ni’n derbyn weithiau bod pobl yn ymddwyn yn groes i’w gymeriad a bod adegau pan fyddan nhw’n cael trafferth cyfathrebu. Mae ein staff wedi’u hyfforddi i wneud consesiynau ar gyfer hyn.

Ond os bydd unrhyw un yn ymddwyn yn annerbyniol tuag at ein staff, byddwn ni’n mynd i’r afael ag ef. Mae gennym ni ddyletswydd i amddiffyn ein staff rhag aflonyddu a chamdriniaeth.

Rydyn ni’n disgwyl i’n staff ymddwyn yn barchus a gofynnwn i chi ddangos yr un parch iddyn nhw.

Ein swyddfeydd

Swyddfa Caerdydd

Gofal Cymdeithasol Cymru, South Gate House, Wood Street, Caerdydd CF10 1EW

Gweld map

Swyddfa Llanelwy

Gofal Cymdeithasol Cymru, Uned 19, Parc Busnes Llanelwy, Parc Glascoed, Llanelwy LL17 0LJ

Gweld map