Gweithgareddau
Os bydd angen i chi roi portffolio at ei gilydd, gallwch gynnwys enghreifftiau o:
- astudio neu hyfforddiant ffurfiol trwy gyrsiau neu raglenni wedi’u hachredu
- astudio preifat, gan gynnwys ymchwil a gwaith darllen perthnasol
- seminarau
- addysgu
- gweithgareddau eraill, y gellid disgwyl yn rhesymol eu bod yn symud datblygiad proffesiynol gweithiwr cymdeithasol yn ei flaen
- ymarfer dan oruchwyliaeth neu gysgodi ymarfer, gan gynnwys gwaith prosiect, cysgodi gwaith cymdeithasol, gwaith gwirfoddol perthnasol, a myfyrio ar ymarfer gwaith cymdeithasol a’i ddadansoddi
Os penderfynwch chi gynnwys ymarfer dan oruchwyliaeth neu gysgodi ymarfer, bydd angen cytundeb arnoch gyda’ch cyflogwr. Cytundeb ffurfiol yw hwn, a ddylai:
- ddisgrifio pa weithgareddau y byddwch chi’n eu gwneud
- cynnwys y cyfnod y mae’r cytundeb a’r lleoliad yn ei gwmpasu
- gwneud yn siŵr bod goruchwyliwr i oruchwylio’ch lleoliad
- gwneud yn siŵr eich bod yn cael eich goruchwylio’n briodol ac yn cael cyfleoedd i fyfyrio ar eich dysgu
- gwneud yn siŵr na fyddai unrhyw gysylltiad heb oruchwyliaeth â phobl sy’n defnyddio gofal a chymorth, neu ofalwyr, yn cael ei ganiatáu
- cynnwys cadarnhad o’ch lleoliad a’r gweithgareddau gan eich cyflogwr.
Os ydych wedi gweithio fel gweithiwr cymdeithasol cymwysedig yn y gorffennol, gallwch ddefnyddio astudiaethau preifat ar gyfer hyd at 50 y cant o’ch portffolio.
Os nad ydych erioed wedi gweithio fel gweithiwr cymdeithasol cymwysedig, gallwch ddefnyddio astudiaethau preifat ar gyfer hyd at 25 y cant o’ch portffolio.
Dogfennau
Dylai eich portffolio gynnwys:
- tystysgrifau i ddangos eich bod wedi cwblhau neu fynychu cyrsiau
- tystiolaeth neu werthusiadau byr o gysgodi ymarfer neu ymarfer arall
- rhestr o’r llyfrau a ddarllenoch ar gyfer gwaith, i ddatblygu eich ymarfer.
Mae angen i’ch portffolio ddangos bod eich dysgu yn berthnasol i ymarfer gwaith cymdeithasol cyfredol. Hefyd, bydd angen i chi ddangos sut mae eich dysgu yn cyfrif am: