Rydyn ni wedi creu dau fideo byr a syml sy'n esbonio ac yn helpu ni i ddeall gofal cymdeithasol yng Nghymru. Gallwch chi eu rhannu am ddim i helpu pobl ddysgu mwy am ofal cymdeithasol yng Nghymru.
-
Trawsgrifiad fideo 'Beth yw gofal cymdeithasol?'
00:00:02
Mae gofal cymdeithasol yn darparu cymorth i bobl o bob oed,
00:00:06
sy’n byw mewn cymunedau ledled Cymru, ddydd a nos, bob diwrnod o’r flwyddyn.
00:00:11
Mae pobl yn defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth am wahanol resymau.
00:00:15
Gallai fod i gael cymorth i sefydlu amgylcheddau diogel a sefydlog,
00:00:19
i reoli eu hiechyd corfforol a meddyliol, neu i fyw'n annibynnol.
00:00:24
Gall gofalwyr di-dâl, sy'n darparu gofal a chymorth i aelodau'r teulu neu ffrindiau,
00:00:29
hefyd gael mynediad at ofal cymdeithasol.
00:00:31
Mae’r term ‘gofal cymdeithasol’ yn cwmpasu amrywiaeth o weithgareddau,
00:00:36
fel cymorth ymarferol ac emosiynol,
00:00:38
darparu gwybodaeth, cyngor ac offer, diogelu, a gofal personol.
00:00:43
Gall gofal cymdeithasol ddigwydd mewn amrywiaeth o leoliadau,
00:00:46
gan gynnwys cartrefi pobl, cartrefi gofal, canolfannau dydd, ysbytai neu leoliadau cymunedol eraill.
00:00:54
Mae’n cael ei ddarparu gan sefydliadau gan gynnwys awdurdodau lleol,
00:00:58
cwmnïau preifat, elusennau, a sefydliadau nid er elw.
00:01:02
Caiff cryn dipyn o ofal ei ddarparu gan ofalwyr di-dâl hefyd.
00:01:06
Mae degau o filoedd o weithwyr proffesiynol medrus
00:01:09
a chymwys iawn yn gweithio ym maes gofal cymdeithasol,
00:01:13
mewn mwy na 75 o wahanol swyddi.
00:01:15
Rhaid i’r rhan fwyaf o weithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru gofrestru
00:01:19
gyda Gofal Cymdeithasol Cymru a dilyn codau ymarfer proffesiynol.
00:01:24
Mae’r Codau’n pennu safonau ymddygiad i gefnogi llesiant a diogelwch pobl.
00:01:29
Mae gweithwyr gofal cymdeithasol yn cefnogi pobl i fynegi’r hyn sy’n bwysig iddyn nhw
00:01:34
ac yn gosod amcanion drwy feithrin perthynas ystyrlon sy’n rhoi gwerth ar brofiadau, iaith a diwylliant pobl.
00:01:42
Maen nhw’n cefnogi pobl i nodi a gwneud y gorau o'u cryfderau personol,
00:01:46
eu sgiliau a’u rhwydweithiau cymorth gan gynnwys teulu,
00:01:50
ffrindiau ac adnoddau yn eu cymuned leol.
00:01:53
Maen nhw’n gweithio gyda phobl mewn sefyllfaoedd o argyfwng ac yn y tymor hir.
00:01:58
Mae sefydliadau gofal cymdeithasol yn gweithio gyda meysydd proffesiynol eraill,
00:02:03
fel iechyd, addysg a'r heddlu, i ddarparu gwasanaethau gydag uniondeb, empathi ac arbenigedd.
00:02:11
Byddai gweithiwr gofal cymdeithasol i mi yn
00:02:14
anhygoel, yn ffantastig, ac yn ofalgar,
00:02:18
ac yn fy helpu i fyw bywyd normal.
00:02:22
I gael rhagor o wybodaeth am ofal cymdeithasol,
00:02:25
ewch i gofalcymdeithasol.cymru
00:02:28
Hoffech chi ddilyn gyrfa ym maes gofal?
00:02:31
Ewch i gofalwn.cymru
-
Trawsgrifiad fideo ‘Sut mae gofal cymdeithasol yn gweithio yng Nghymru?’
00:00:00
Sut mae gofal cymdeithasol yn gweithio yng Nghymru?
00:00:04
Mae gofal cymdeithasol yn hanfodol i lawer o bobl Cymru,
00:00:08
ond mae’n cael ei gamddeall yn aml.
00:00:10
Beth yw ystyr gofal cymdeithasol?
00:00:13
Mae’n derm eang sy’n disgrifio gofal a chymorth,
00:00:16
sy’n galluogi pobl o bob oed i ymdopi â’u bywydau bob dydd,
00:00:20
yn aml pan fyddan nhw’n wynebu heriau anodd a chymhleth.
00:00:24
Gall cymorth gofal cymdeithasol gynnwys cyngor,
00:00:27
cysylltu pobl â chymunedau lleol,
00:00:29
sefydlu amgylcheddau byw diogel a sefydlog,
00:00:32
a darparu gofal personol.
00:00:34
Mae hefyd yn darparu cymorth emosiynol i bobl reoli eu hiechyd corfforol a/neu feddyliol.
00:00:40
Gall gofalwyr di-dâl gael cymorth hefyd.
00:00:44
Cael mynediad at ofal cymdeithasol.
00:00:47
Mae 22 awdurdod lleol Cymru yn chwarae rhan allweddol
00:00:51
wrth drefnu a chysylltu pobl â’r gofal a’r cymorth cywir.
00:00:55
Mae awdurdodau lleol yn defnyddio proses asesu
00:00:58
i ddeall cryfderau ac anghenion gofal a chymorth pobl.
00:01:02
Maen nhw’n asesu a yw anghenion pobl yn gymwys i gael cymorth a chyllid gan yr awdurdod lleol,
00:01:08
ac mae gofyn i rai unigolion dalu tuag at eu gwasanaethau gofal cymdeithasol.
00:01:13
Ledled Cymru, mae gan fwy nag un o bob 50 o bobl gynllun gofal a chymorth,
00:01:18
sy’n nodi’r hyn sy’n bwysig iddyn nhw
00:01:20
a sut byddan nhw’n cael eu cefnogi i gyflawni eu canlyniadau llesiant personol.
00:01:26
Pwy sy’n darparu gofal cymdeithasol?
00:01:30
Mae dros 300,000 o ofalwyr di-dâl yn darparu gofal a chymorth ledled Cymru.
00:01:36
Gallan nhw fod o unrhyw oedran, yn aml maen nhw’n aelodau o'r teulu neu'n ffrindiau,
00:01:41
a gallan nhw hefyd gael mynediad at gymorth gofal cymdeithasol iddyn nhw’u hunain.
00:01:46
Mae dros 1200 o sefydliadau yng Nghymru yn darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol.
00:01:52
Busnesau preifat neu sefydliadau trydydd sector,
00:01:55
fel elusennau, yw’r rhan fwyaf ohonyn nhw.
00:01:57
Mae’r sefydliadau yma’n cyflogi dros 84,000 o weithwyr gofal a chymorth.
00:02:03
Gall awdurdodau lleol roi taliadau i bobl tuag at gostau eu gofal a chymorth.
00:02:08
Taliadau uniongyrchol yw enw’r rhain,
00:02:11
ac mae pobl yn eu defnyddio i gyflogi eu gweithwyr gofal cymdeithasol eu hunain.
00:02:16
Sut mae safonau uchel yn cael eu cynnal
00:02:19
ar draws gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru.
00:02:23
Rheoliadau.
00:02:24
Yng Nghymru, caiff gwasanaethau gofal cymdeithasol
00:02:28
eu rheoleiddio gan Arolygiaeth Gofal Cymru.
00:02:31
Maen nhw’n cofrestru, yn arolygu ac yn cymryd camau
00:02:34
i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau.
00:02:37
Caiff y rhan fwyaf o weithwyr gofal cymdeithasol
00:02:40
eu rheoleiddio gan Gofal Cymdeithasol Cymru.
00:02:43
Mae hyn yn golygu bod rhaid iddyn nhw gofrestru,
00:02:46
cyflawni cymwysterau penodol, a dilyn Codau Ymarfer Proffesiynol.
00:02:50
Deddfwriaeth.
00:02:52
Rhaid i'r gwasanaethau gofal cymdeithasol
00:02:55
gydymffurfio â deddfwriaeth genedlaethol,
00:02:57
fel Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
00:03:02
Mae’r Ddeddf yn gwneud yn siŵr bod gwasanaethau’n
00:03:05
gweithio gyda phobl sy’n cael mynediad at ofal a chymorth
00:03:08
i nodi’r hyn sy’n bwysig iddyn nhw.
00:03:11
Mae sefydliadau gofal cymdeithasol hefyd yn gweithio gyda phartneriaid
00:03:15
fel gwasanaethau iechyd, addysg, tai,
00:03:18
yr heddlu ac elusennau i wneud y defnydd gorau o adnoddau.
00:03:22
Rhaid i’r unigolyn sy’n cael mynediad at ofal a chymorth
00:03:26
fod yn ganolog i’r broses.
00:03:29
I gael rhagor o wybodaeth am ofal cymdeithasol,
00:03:32
ewch i gofalcymdeithasol.cymru
00:03:34
Hoffech chi ddilyn gyrfa ym maes gofal?
00:03:37
Ewch i gofalwn.cymru