Dywedwch wrthym am eich profiad o weithio ym maes y blynyddoedd cynnar a gofal plant.
Mae ein harolwg o weithlu'r blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru bellach ar agor.
Dyma'ch cyfle i ddweud wrthym am eich profiad o weithio ym maes y blynyddoedd cynnar a gofal plant.Byddwch yn gallu ateb cwestiynau am bynciau fel cyflog, amodau gwaith a'r hyn rydych chi'n ei fwynhau am weithio yn y sector.
Bydd yr hyn a ddywedwch wrthym yn rhoi cipolwg gwych i ni ar sut beth yw gweithio ym maes y blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru. Bydd yn helpu i arwain ein gwaith fel y gallwn roi'r gefnogaeth a'r adnoddau sydd eu hangen arnoch.
Mae'r arolwg ar-lein ac mae'n cymryd tua 15 munud i'w gwblhau. Bydd eich ymatebion yn gwbl ddienw - ni fydd neb yn gwybod pwy sydd wedi cymryd rhan yn yr arolwg.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at arolwgbcgp@gofalcymdeithasol.cymru
Bydd yr arolwg yn cau ddydd Gwener, 21 Tachwedd 2025.
Byddwn yn rhannu'r canlyniadau ar ein gwefan yng ngwanwyn 2026.