Jump to content
Strategaeth gweithlu

Mae ein gwaith wedi cael ei gynllunio i ddarparu gweithlu medrus o ansawdd uchel i Gymru, sydd yn ddigonol i gwrdd â’i ofynion.

Datblygu’r gweithlu

Mae'r Cynllun cyflawni gweithlu gofal cymdeithasol 2024 i 2027 bellach wedi’i lansio.

Mae'r Cynllun cyflawni’r gweithlu yn nodi’r camau gofal cymdeithasol ar gyfer ‘Cymru Iachach: Ein Strategaeth Gweithlu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol’ hyd at 2027, y buom yn gweithio gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru (HEIW) i’w datblygu ac a lansiwyd yn 2020 gan nodi’r nodau ar gyfer y gweithlu dros 10 mlynedd

Mae’r cynllun cyflawni yn adeiladu ar gynnydd y strategaeth gweithlu ers 2020. Mae’n cynnwys camau gweithredu sy'n seiliedig ar yr adborth a glywsom yn ystod ein gwaith ymgysylltu, ymgynghoriad ac arolwg y gweithlu a hoffem ddiolch i bawb am eu cefnogaeth a’u cyfraniadau.

Os hoffech chi gael mwy o fanylion am strategaeth y gweithlu, cysylltwch â strategaethgweithlu@gofalcymdeithasol.cymru.

Adroddiad blynyddol

Mae ein hadroddiad blynyddol yn crynhoi'r prif feysydd cynnydd a gyflawnwyd yn yr ail flwyddyn lawn o’r strategaeth.

Darllenwch ein hadroddiad blynyddol

Cynlluniau gweithlu

Fel rhan o uchelgais y strategaeth gweithlu, rydyn ni wedi datblygu a chyhoeddi tri chynllun gweithlu i gefnogi Cymru Iachach: Ein Strategaeth Gweithlu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Y cynlluniau yw:

Ein cynllun gweithlu iechyd meddwl strategol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol

Y Cynllun gweithlu iechyd meddwl strategol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, a ddatblygwyd gydag AaGIC, yw ein ffordd o sicrhau newid a gwelliannau yn y modd rydyn ni'n datblygu, yn gwerthfawrogi ac yn cefnogi ein gweithlu iechyd meddwl arbenigol, ac yn cydnabod y rôl bwysig y maent yn ei chwarae.

Darllenwch y cynllun

Cynllun gweithlu ar gyfer gwaith cymdeithasol: 2022 i 2025

Rydyn ni wedi creu cynllun gweithlu ar gyfer gwaith cymdeithasol i gefnogi Cymru Iachach: Ein Strategaeth Gweithlu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae’n nodi’r camau gweithredu i gefnogi’r proffesiwn gwaith cymdeithasol i fynd i’r afael â’r heriau y mae’n eu hwynebu ar hyn o bryd, er mwyn iddo allu darparu’r gofal a’r cymorth gorau posib i bobl.

Darllenwch y cynllun

Cynllun gweithlu gofal uniongyrchol: 2022 i 2025

Rydyn ni wedi ysgrifennu cynllun gweithlu gofal uniongyrchol i gefnogi Cymru Iachach: Ein Strategaeth Gweithlu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Dyma ein cynllun i gefnogi gweithwyr gofal uniongyrchol i deimlo eu bod yn cael gofal, yn gweithio mewn diwylliant tosturiol a chynhwysol, a theimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi am eu gwaith.

Darllenwch y cynllun

Cyhoeddwyd gyntaf: 10 Mai 2022
Diweddariad olaf: 21 Mehefin 2024
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (38.0 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch