Ein gweledigaeth: rydym eisiau gwneud gwahaniaeth positif i ofal a chymorth yng Nghymru ar gyfer plant, oedolion a’u teuluoedd a’u gofalwyr.
Cyflwyniad
Rydym wedi datblygu’r cynllun gweithlu gofal uniongyrchol hwn mewn ymateb i gam gweithredu penodol yn Cymru Iachach – Ein Strategaeth Gweithlu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Dylai gofal cymdeithasol ddarparu gofal wedi’i bersonoli yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Ein nod yw “meithrin hyder yn y gweithlu, ac mae arwain a chefnogi gwelliannau mewn gofal cymdeithasol” wrth wraidd ein cynllun gweithlu gofal uniongyrchol.
Mae gofal cymdeithasol yn newid oherwydd bod gan bobl anghenion iechyd a gofal mwy dybryd. Mae angen i ni ymateb i’r angen hwn nawr ac yn y dyfodol.
Mae angen i ni gael pobl ofalgar sydd â’r gwerthoedd iawn, sy’n aros yn y sector am amser maith. Mae angen iddyn nhw fod yn ymroddedig i gefnogi bywydau bob dydd y bobl maen nhw’n gofalu amdanyn nhw. Mae angen i ni gael pobl sy'n gallu addasu a bod yn hyblyg gyda nifer o sgiliau gwahanol.
Mae angen i ni ddatblygu ffyrdd o gynnal ein gwasanaethau sy’n bodloni ein heriau. Mae angen i'r rhain ddefnyddio cyfleoedd ar gyfer dull integredig ar draws sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol.
Y cynllun gweithlu hwn yw’r cam nesaf yn ein gwaith gyda’r sector, er mwyn newid sut rydym yn:
- rheoleiddio
- canolbwyntio’n fwy ar lesiant ac iechyd meddwl positif y gweithlu
- datblygu sgiliau a gwybodaeth i ateb y galw yn y dyfodol
- defnyddio technoleg yn well
- adeiladu a gwella cyfiawnder cymdeithasol
- edrych ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn y gweithlu
- rhoi cymorth strategol ac ymarferol ar gyfer y gweithlu gofal uniongyrchol.
Rydym eisiau i’r cynllun hwn gefnogi gweithwyr gofal uniongyrchol i deimlo eu bod yn cael gofal, yn gweithio mewn diwylliant tosturiol a chynhwysol, a theimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi am eu gwaith.
Mae gofal uniongyrchol yn cynnwys:
- gofal preswyl
- gofal cartref
- byw â chymorth
- gwasanaethau dydd
- gofal maeth
- gwasanaethau lleoli oedolion
- gofal a ddarperir gan gynorthwywyr personol.
Mae hyn ar draws y gweithlu gofal cymdeithasol plant ac oedolion yng Nghymru.
Mae hwn wedi bod, ac yn dal i fod, yn gyfnod heriol iawn i bawb wrth i ni gyd newid i ffyrdd newydd o weithio. Hoffem ddiolch i bawb a roddodd o'u hamser i weithio gyda ni i'n helpu i ddatblygu'r cynllun gweithlu hwn. Mae eich mewnbwn, eich adborth a’ch cefnogaeth wedi bod yn werthfawr iawn.
Edrychwn ymlaen at weithio gyda chydweithwyr ar draws Cymru a’n partneriaid i roi’r cynllun gweithlu hwn ar waith.
Datblygu’r cynllun gweithlu gofal uniongyrchol
I ddechrau datblygu’r cynllun gweithlu gofal uniongyrchol, fe wnaethom gyfweld â rhanddeiliaid a phartneriaid allweddol.
Fe wnaeth eu mewnbwn a’u hadborth ein helpu i lunio’r drafft cyntaf a ysgrifennwyd yng ngwanwyn 2021. Dyna ddechrau cyfnod hir o weithio gyda:
- y gweithlu gofal uniongyrchol ar draws darparwyr statudol, preifat a gwirfoddol
- asiantaethau partner
- cyrff proffesiynol
- undebau llafur
- cyflogwyr
- arweinwyr a chomisiynwyr y gweithlu.
Rydym yn falch o ddweud bod y mwyafrif llethol o’r bobl y buom yn siarad â nhw yn ffafrio’r uchelgais, y themâu a’r camau gweithredu rydym yn eu hargymell.
I gasglu eu barn, fe wnaethom:
- gasglu 345 o ymatebion i arolwg a gwblhawyd ar-lein
- cynnal gweithdai gyda 180 o bobl
- cynnal 30 o gyfweliadau gyda rhanddeiliaid gofal uniongyrchol.
Canfod a defnyddio heriau a chyfleoedd
Fel rheoleiddiwr y gweithlu ar gyfer gofal cymdeithasol, rydym yn gyfrifol am ddatblygu’r gweithlu gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar. Rydym hefyd yn cefnogi ymchwil gofal cymdeithasol a helpu i wneud ein gwasanaethau yn well yng Nghymru.
Rydym eisiau datblygu a defnyddio sgiliau’r gweithlu gofal, i gefnogi pawb sy’n defnyddio gofal a chymorth i ofalu am eu hiechyd a'u lles ac i gyflawni'r hyn sy'n bwysig iddyn nhw.
Yn y cyd-destun hwn, ac mewn partneriaeth ag Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), fe wnaethom ddatblygu’r strategaeth gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol gyntaf. Wedi’i lansio ym mis Hydref 2020, mae’n dangos ein rhaglen waith uchelgeisiol ar gyfer y 10 mlynedd nesaf.
Mae gofal yn bwysig i ni gyd. Mae'n effeithio ar bob un ohonom ar ryw adeg. Rydym eisiau gwneud gwahaniaeth positif i ofal a chymorth yng Nghymru ar gyfer plant, oedolion, a’u teuluoedd a’u gofalwyr. Dylai plant ac oedolion ym mhob rhan o Gymru allu dibynnu ar ofal cymdeithasol a gofal plant gwych, i’w cefnogi i fyw’r bywydau sy’n bwysig iddyn nhw.
Mae angen i ni gefnogi’r bobl sy’n darparu’r gofal hwnnw. Mae angen i ni:
- wneud yn siŵr bod digon o bobl â’r sgiliau a'r profiad iawn i roi’r gofal gorau posib
- i ofalu am eu hiechyd a’u lles.
Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i ni hefyd gofio am anghenion gwirfoddolwyr a gofalwyr di-dâl, sy’n chwarae rhan enfawr wrth ofalu a chefnogi pobl.
Rydym wedi ymrwymo i barhau â’n gwaith yn y maes hwn, yn enwedig:
- parhau i gefnogi Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Ofalwyr
- darparu dysg a datblygu’r gweithlu sy'n codi ymwybyddiaeth o rôl gofalwyr
- hyrwyddo hawliau gofalwyr di-dâl i’r lefelau perthnasol o gymorth, gan gynnwys asesiadau gofalwyr, i wneud yn siŵr bod ganddyn nhw y lefelau cywir o gymorth i wneud eu cyfraniad pwysig.
Mae’r gweithlu gofal cymdeithasol ar gynnydd i fodloni’r heriau parhaus a achoswyd gan y pandemig Covid-19 ac yn wynebu mwy o alw am wasanaethau a chymorth.
Rydym yn deall yr effaith y mae hyn yn ei chael ar y gweithlu gofal uniongyrchol. Mae hefyd yn effeithio ar bobl sy’n rheoli ac yn gorfod addasu gwasanaethau, wrth iddyn nhw ymateb i heriau sy’n newydd i ni gyd.
Mae angen i gynllun y gweithlu roi ystyriaeth i themâu ehangach, trawsbynciol, fel:
- cynhwysiant ac amrywiaeth
- dewis iaith
- llesiant y gweithlu
- yr agenda amgylcheddol, gan gynnwys newid hinsawdd.
Mae’r rhain yn ganolog i’n ffyrdd o weithio. Mae gennym naill ai asesiadau effaith ar waith fel rhan o gamau gweithredu cyfredol, neu byddwn yn ystyried y rhain pan fyddwn yn cynllunio atebion newydd.
Pan oeddem yn datblygu’r cynllun ymgysylltu hwn yn 2021, gwnaethom wrando ar bryderon a sylwadau am yr heriau a’r goblygiadau ar gyfer y gweithlu o ran:
- parch cydradd
- cyflenwad a chynaliadwyedd y gweithlu
- y pwysau ychwanegol a achoswyd gan y pandemig.
Rydym wedi cydnabod ers tro bod angen dull cenedlaethol o fynd i’r afael â sicrwydd swyddi ac incwm. Byddwn yn parhau i weithio gyda’n partneriaid, gan gynnwys y Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol, i wneud hynny.
Mae adroddiad Llywodraeth Cymru Gwella iechyd a gofal cymdeithasol (Covid-19 edrych ymlaen), a dderbyniodd gyngor a chefnogaeth y Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol, eisiau i barch ymhlith gweithiwr yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol fod yr un peth. Gwnaeth y gwaith hwn gynnydd cychwynnol pan ddechreuodd rhai o'r gweithlu dderbyn y cyflog byw gwirioneddol ym mis Ebrill 2022.
Mae rhaglen grant datblygu gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru yn gronfa fawr i helpu gweithlu’r sector gofal cymdeithasol ddatblygu yn Nghymru. Mae'r grant yn helpu i ariannu amrywiaeth o raglenni gwaith, gan gynnwys dysgu, datblygu a chymwysterau. Ond rydym yn gwybod bod gennym fwy i'w wneud i gyflawni uchelgais strategaeth y gweithlu a’r cynllun gweithlu hwn.
Rydym wedi datblygu camau gweithredu’r cynllun hwn drwy ddefnyddio
cyd-gynhyrchu, ac wedi defnyddio ffordd gref, gyfredol y sector o weithio mewn partneriaeth.
Mae llwyddiant y cynllun hwn yn dibynnu ar ofalu am a datblygu’r partneriaethau hyn, ac mae angen cynnwys y camau gweithredu wrth gynllunio’r gweithlu’n lleol. Bydd y rhain yn ein helpu i nodi heriau’r gweithlu y gallwn eu datrys yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.
Rydym wedi ymrwymo i fynd i’r afael â’r materion uchod a chanolbwyntio ar welliannau ar draws saith thema yn y cynllun gweithlu hwn. Rydym eisiau helpu i ddatrys materion sy'n deillio o ganfod y bobl iawn a'u cadw, a helpu i dyfu'r gweithlu.
Byddwn yn gweithio gyda’n partneriaid i barhau i fynd i’r afael â’n heriau cyfredol, a'r heriau rydym yn rhagweld sydd o'n blaenau, a chynnal ansawdd y gofal a’r cymorth i bobl ym mhob cymuned.
Mae angen i’r cynllun hwn fwrw golwg ar ein gweithredoedd yn y tymor canolig i’r hirdymor, ac rydym eisoes wedi dechrau ar rai ohonyn nhw. Bydd y rhain yn arwain at weithlu gofal uniongyrchol gwell, cynaliadwy.
Fe wnaethom gynllunio’r cynllun drwy roi ystyriaeth i bwysau ar y system gyfan. Ond rydym yn cydnabod bod angen rhoi sylw ar unwaith i anghenion y gweithlu gofal cartref.
Eir i’r afael â heriau mwyaf dybryd y gweithlu gofal cartref gan Lywodraeth Cymru a phartneriaethau. Fel partner allweddol, rydym wedi ymrwymo i helpu i ddatrys heriau sydd angen sylw ar unwaith.
Mae angen i’r cynllun hwn adlewyrchu camau gweithredu cynlluniau gweithlu eraill sydd wedi’u datblygu ar gyfer y gweithlu iechyd meddwl a’r proffesiwn gwaith cymdeithasol. Mae’n hanfodol bod y cynllun hwn, a diwygiadau’r dyfodol, yn ystyried y camau gweithredu clir yn Nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol a Mwy na geiriau Llywodraeth Cymru.
Proffil: y gweithlu gofal uniongyrchol
- 91,000 o bobl yn gweithio yn y sector gofal cymdeithasol
- 72,155 o bobl yn gweithio mewn gwasanaethau gofal uniongyrchol
- 81 y cant yn fenywod
- 19 y cant yn ddynion
- 61 y cant yn gweithio mewn gwasanaethau a gomisiynir
- 39 y cant yn gweithio mewn awdurdodau lleol
- 78 y cant o weithwyr â chontractau parhaol
- 40 y cant o weithwyr yn gweithio 36 awr neu’n fwy bob wythnos
- 90 y cant o weithwyr â chefndir ethnig gwyn
- 40 y cant o weithwyr â rhywfaint o allu yn y Gymraeg
- £12 miliwn yn cael ei roi i gefnogi anghenion dysgu, datblygu a chymwysterau'r gweithlu drwy grant blynyddol
Strwythur y cynllun gweithlu
Mae’r cynllun gweithlu wedi’i rannu’n saith thema.
Mae gan bob thema ddatganiad o’n nodau, sef uchelgeisiau, o dan y thema honno.
Daw’r themâu ac uchelgeisiau o ‘Cymru iachach: Ein strategaeth gweithlu ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol’.
Mae gan bob datganiad uchelgais set o ddatganiadau “Rydw i”. Mae ein gwaith gyda’r sector yn cadarnhau bod y datganiadau hyn yn disgrifio’r effaith bositif rydym eisiau ei chael ar rywun sy’n gweithio ym maes gwasanaethau gofal uniongyrchol neu’n eu rheoli dros y tair blynedd nesaf.
Byddwn yn mesur ein cynnydd drwy weithio gyda’r gweithlu ac yn siarad â nhw yn ystod y tair blynedd nesaf. Byddwn yn dechrau hyn gydag arolwg llawn o’r gweithlu yn 2023.
Gelwir y camau gweithredu yn y cynllun yn ddatganiadau “Byddwn Ni”. Mae ganddyn nhw linell amser sy’n dangos pryd byddwn ni'n cwblhau pob cam gweithredu.
Mae rhai camau gweithredu yn mynd rhagddynt. Nid oes gan y rhain ddyddiad gorffen oherwydd ei fod yn rhan o waith bob dydd. Byddwn yn dal i adrodd ar y rhain i weld faint o gynnydd rydym wedi’i wneud ac a oes angen i ni newid yr hyn a wnawn. Byddwn yn adrodd drwy ddefnyddio ein prosesau llywodraethu a chraffu arferol.
Mae'r camau gweithredu yn cyd-fynd â'n cynllun strategol, yn enwedig canlyniadau 1,2,3,5,6 a 7.
Mae angen i gynllun y gweithlu fod yn hyblyg fel y gallwn adolygu ein cynnydd ym mhob un o'r tair blynedd nesaf. Byddwn yn rhannu crynodeb o gynnydd y datganiadau “Byddwn Ni” gyda’r gweithlu gofal uniongyrchol. Mae’r rhain yn dangos yr hyn a wnawn i’n helpu i gyflawni ein nodau o dan bob un o’r saith thema.
Dyma enghraifft o sut mae cynllun y gweithlu gofal uniongyrchol yn edrych o dan bob un o’r saith thema:
- Uchelgais: “Erbyn 2030, bydd y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u cefnogi lle bynnag y byddan nhw’n gweithio.” – Strategaeth Gweithlu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Datganiad “Byddwn Ni”: “Byddwn ni’n lansio ein fframwaith llesiant i weithwyr ar gyfer eich sefydliad er mwyn helpu i reoli a monitro pob agwedd ar lesiant gweithwyr yn y gwaith yn gyson.” – ein cynllun gweithlu
- Datganiad “Rydw i”: “Rwy’n teimlo’n hapus, yn iach ac yn ddiogel yn y gwaith”.
Egwyddorion y cynllun gweithlu gofal uniongyrchol
Mae gan y cynllun gweithlu gofal uniongyrchol bum egwyddor. Rydym eisiau gweithlu gofal uniongyrchol sy’n:
- teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi ac yn cael ei werthfawrogi
- yn meddu ar y gwerthoedd, yr ymddygiad, y wybodaeth, y sgiliau a’r hyder iawn i ddarparu gofal wedi’i bersonoli mor agos i gartref â phosib
- yn ddigon mawr a chynaliadwy i ddarparu iechyd a gofal cymdeithasol ymatebol sy’n diwallu anghenion pobl Cymru
- gweithio mewn amgylchedd lle mae cefnogi llesiant gweithwyr yn hanfodol, fel y gall pobl a sefydliadau ffynnu
- adlewyrchu amrywiaeth y boblogaeth, y Gymraeg a hunaniaeth ddiwylliannol.
Thema 1: Gweithlu sydd wedi ymgysylltu, yn llawn cymhelliant ac yn iach
Uchelgais: erbyn 2030, bydd y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u cefnogi lle bynnag y byddan nhw’n gweithio.
Datganiadau “Rydw i”
- “Rydw i’n teimlo’n hapus, yn iach ac yn ddiogel yn y gwaith.”
- “Rydw i’n cael fy nhrin yn deg ac yn cael fy ystyried fel unigolyn.”
- “Fel rheolwr, rydw i’n gallu cael mynediad at gymorth i ddatblygu gwytnwch a llesiant fy hun a gwytnwch a llesiant fy nhîm.”
- “Rydw i'n teimlo bod y tîm o'r maint iawn i ddiwallu anghenion pobl sy’n defnyddio gofal a chymorth a chaiff swyddi gwag eu llenwi’n gyflym.”
- “Rydw i’n cael fy ngwerthfawrogi a chaiff fy nghyfraniad ei werthfawrogi wrth wneud gwahaniaeth positif i fywydau pobl.”
- “Rydw i’n cael fy ysgogi, fy nghefnogi a’m hannog i berfformio ar fy ngorau i ddarparu gofal a chymorth i bobl.”
Datganiadau “Byddwn Ni”
- “Byddwn ni’n lansio ein fframwaith iechyd a lles i helpu sefydliadau i reoli a monitro pob agwedd ar lesiant gweithwyr yn y gwaith yn gyson.”
Byddwn yn cwblhau hyn erbyn gaeaf 2022
- “Byddwn ni’n datblygu adnoddau i reolwyr i ddechrau asesu pa mor dda maen nhw’n bodloni’r ymrwymiadau llesiant yn y gwaith, sy’n ganolog i’r fframwaith iechyd a lles.”
Byddwn yn cwblhau hyn erbyn gaeaf 2022
- “Byddwn ni’n cefnogi Llywodraeth Cymru i weithredu’r cyflog byw gwirioneddol. Byddwn hefyd yn hyrwyddo cyflog gwell a mentrau i gefnogi gwaith y Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol a chynnwys cyflog cyfartal gydag iechyd a gwell cydnabyddiaeth a gwobrwyo i’r sector gofal cymdeithasol.”
Mae'r gwaith hwn yn mynd rhagddo
- “Byddwn ni’n parhau i gynnig adnoddau a chymorth llesiant, gan gynnwys cymorth dysgu a datblygu gan gymheiriaid, gwybodaeth ac adnoddau a’r cerdyn gweithiwr gofal.”
Mae'r gwaith hwn yn mynd rhagddo - “Byddwn ni’n cefnogi’r broses o weithredu gwasanaeth cymorth iechyd meddwl sy’n cynnig cymorth llesiant i staff iechyd a gofal cymdeithasol.”
Byddwn yn cwblhau hyn erbyn gwanwyn 2022 - “Byddwn ni’n cynnal yr arolwg cyntaf ar draws y sector gyfan i’n helpu i ddod o hyd i ffyrdd priodol a chymesur o barhau i gefnogi’r gweithlu gofal uniongyrchol, ei lesiant a’i ymdeimlad o werth.”
Byddwn yn cwblhau hyn erbyn gwanwyn 2023
Thema 2: denu a recriwtio
Uchelgais: erbyn 2030, bydd iechyd a gofal cymdeithasol wedi ennill ei blwyf fel brand cryf, adnabyddus ac yn sector o ddewis ar gyfer ein gweithlu yn y dyfodol.
Datganiadau “Rydw i”
- “Rydw i’n cael cefnogaeth i'm helpu i ddeall pa swyddi y gallwn i eu gwneud o fewn gofal uniongyrchol.”
- “Mae gen i agwedd bositif a rydw i wedi ymrwymo i ofalu am eraill, a rydw i eisiau cynyddu fy nealltwriaeth ynglŷn â chael gyrfa mewn gofal cymdeithasol.”
- “Rydw i’n teimlo bod prosesau recriwtio yn dryloyw, yn amserol ac yn deg.”
- “Mae gen i fynediad at sesiynau cynefino sydd wedi’u cynllunio’n dda, sy'n gwneud i fi deimlo bod gen i'r cymorth sydd ei angen arnaf i ddod yn gwbl weithredol yn gyflym ac yn ddiogel yn fy swydd.”
Datganiadau “Byddwn Ni”
- “Byddwn ni’n parhau i ddatblygu a gwella gwefan Gofalwn Cymru, hyrwyddo gwaith y gweithlu gofal uniongyrchol, y rolau sydd ar gael, a gwella’r ffordd y mae’r sector yn cael ei weld.”
Byddwn yn cwblhau hyn erbyn gwanwyn 2023 (byddwn yn adolygu hyn bob blwyddyn)
- “Byddwn ni’n parhau i gefnogi rhaglen ‘cyflwyniad i ofal cymdeithasol’ fel ffordd i mewn i’r sector.”
Byddwn yn cwblhau hyn erbyn gaeaf 2022
- “Byddwn ni’n rhoi cymorth ac arweiniad ychwanegol (gan gynnwys porth swyddi cenedlaethol) i holl ddarparwyr gofal i ganfod a chael pobl o wahanol oedrannau i rôl mewn gofal cymdeithasol.”
Mae'r gwaith hwn yn mynd rhagddo
- “Byddwn ni’n parhau i ariannu a hyrwyddo’r swyddi cysylltydd gyrfaoedd gofal yn y saith rhanbarth o Gymru, i gysylltu ceiswyr gwaith, lansio adnoddau mewn ysgolion a hyrwyddo gyrfaoedd mewn gofal cymdeithasol.”
Byddwn yn adrodd ar hyn bob blwyddyn fel rhan o’n proses adrodd ar grant Rhaglen Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru
- “Byddwn ni’n datblygu adnoddau recriwtio sy’n seiliedig ar werthoedd er mwyn gwella’r ffordd rydym yn dod o hyd i bobl ac yn recriwtio ar gyfer rolau gofal cymdeithasol.”
Byddwn yn cwblhau hyn erbyn gwanwyn 2022
- “Byddwn ni’n hyrwyddo prentisiaethau fel llwybr i mewn i’r sector.”
Byddwn yn cwblhau hyn erbyn gaeaf 2022
- “Byddwn ni’n parhau i gefnogi rôl llysgennad Gofalwn Cymru oddi mewn i’r sector i helpu i addysgu pobl (gan gynnwys ysgolion a cholegau) ynglŷn â’r opsiynau gyrfa gwahanol a chyfleoedd i symud ymlaen.”
Byddwn yn cwblhau hyn erbyn gwanwyn 2023
Thema 3: Modelau gweithlu di-dor
Uchelgais: erbyn 2030, modelau gweithlu aml-broffesiynol ac aml-asiantaeth fydd y norm.
Datganiadau “Rydw i”
- “Rydw i’n deall lefel y cyfrifoldeb a’r math o broses gwneud penderfyniadau sy’n ofynnol ohonof fi wrth weithio gyda gweithwyr proffesiynol eraill.”
- “Rydw i’n deall lefel yr atebolrwydd a’r annibyniaeth sy’n ofynnol ohonof fi yn fy rôl fel rhan o dîm aml-asiantaeth neu wrth weithio mewn partneriaeth â gweithwyr proffesiynol eraill.”
- “Rydw i’n gallu dibynnu ar weithwyr gofal iechyd proffesiynol a phartneriaid proffesiynol eraill i ddeall fy rôl a sut mae sefydliadau gofal cymdeithasol yn gweithio.”
- “Rydw i’n cael fy nghefnogi i feithrin perthnasoedd gwaith da rhwng timau cymwysedig a thimau nad ydynt yn gymwysedig.”
- “Rydw i’n deall y rôl y gallaf ei chwarae i wneud yn siŵr bod plant ac oedolion sy’n agored i niwed yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw pan fyddaf yn gweithio mewn partneriaeth â gweithwyr proffesiynol eraill.”
- “Mae gen i’r un lefelau o barch ag aelodau eraill o staff mewn asiantaethau eraill a allai fod yn gweithio ochr yn ochr â fi.”
Datganiadau “Byddwn Ni”
- “Byddwn ni’n cwblhau adnoddau sy'n helpu i hyfforddi a datblygu timau rhyddhau o’r ysbyty (iechyd a gofal cymdeithasol) i gyflawni sgyrsiau 'beth sy'n bwysig' sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau gydag unigolion a theuluoedd.”
Byddwn yn cwblhau hyn erbyn hydref 2022
- “Byddwn ni’n datblygu adnoddau sy’n dangos yn glir y llwybrau gyrfaoedd sydd ar gael i bob aelod o staff yn y gweithlu gofal uniongyrchol.”
Byddwn yn cwblhau hyn erbyn gwanwyn 2023
- “Gyda’n partneriaid byddwn ni’n datblygu set o safonau hyfforddi diogelu cenedlaethol. Bydd y rhain yn helpu i sicrhau bod gan staff yr hyfforddiant a’r adnoddau sydd eu hangen pan fyddan nhw’n gweithio gydag eraill i roi gofal a chymorth ac i gynnal dyletswyddau diogelu.”
Byddwn yn cwblhau hyn erbyn hydref 2022 - “Byddwn ni’n gweithio gydag Addysg Iechyd yng Nghymru i ddatblygu a chefnogi rhaglen Hwylusydd Addysg Cartrefi Gofal i wneud y mwyaf o gyfleoedd nyrsio mewn lleoliadau gofal cymdeithasol (gan gynnwys cefnogi eu hanghenion dysgu a datblygu).”
Mae'r gwaith hwn yn mynd rhagddo
Thema 4: meithrin gweithlu sy’n barod yn ddigidol
Uchelgais: erbyn 2030, bydd galluoedd digidol a thechnolegol y gweithlu wedi’u datblygu’n dda ac yn cael eu defnyddio’n eang i wneud y gorau o’r ffordd rydym yn gweithio, i’n helpu i ddarparu’r gofal gorau posib i bobl.
Datganiadau “Rydw i”
- “Rydw i’n deall sut gallaf ddefnyddio technoleg i helpu’r bobl rwy’n eu cefnogi.”
- “Rydw i’n deall pwysigrwydd diogelu data a pham ei fod yn berthnasol i sut rydw i’n defnyddio ac yn cofnodi’r wybodaeth electronig ac ysgrifenedig sydd gennyf am y bobl rwy’n eu cefnogi.”
- “Mae gen i fynediad at dechnoleg ddibynadwy, effeithiol a diogel.”
- “Rydw i’n teimlo bod fy mywyd gwaith o ddydd i ddydd yn well diolch i dechnoleg sy’n hawdd ei defnyddio, sy’n arbed amser, ac yn cael effaith bositif ar y bobl rwy’n eu cefnogi.”
- “Rydw i’n hyderus, yn gymwys ac yn gallu gwneud y gorau o dechnoleg ddigidol yn fy rôl ac yn defnyddio ei photensial i wella ansawdd ac effeithlonrwydd gofal wedi’i bersonoli.”
- “Rydw i’n gallu rheoli a monitro fy natblygiad proffesiynol drwy ddefnyddio adnoddau digidol a thechnoleg.”
Datganiadau “Byddwn Ni”
- “Byddwn ni’n cynnal ymchwil i ddeall y ddarpariaeth dysgu digidol, yr effaith y mae hyn yn ei chael ar y cyflenwad dysgu a dysgwyr, ac yn cyhoeddi argymhellion i weithredu arnyn nhw."
Byddwn yn cwblhau hyn erbyn hydref 2022
- “Byddwn ni’n cefnogi datblygiad cyrsiau e-ddysgu Cymraeg gyda phartneriaid, i helpu i godi ymwybyddiaeth a sgiliau iaith o fewn y gweithlu gofal cymdeithasol.”
Byddwn yn cwblhau hyn erbyn gaeaf 2022
- “Byddwn ni’n cefnogi’r gweithlu i ddatblygu eu sgiliau digidol ac i wella mynediad at yr adnoddau sydd eu hangen arnyn nhw i wireddu hynny. Mae’n flaenoriaeth genedlaethol yng ngrant rhaglen Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru."
Byddwn yn ystyried hyn bob blwyddyn fel rhan o’n proses adrodd ar grant Rhaglen Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru - “Byddwn ni’n datblygu ein platfform dysgu digidol ac yn profi cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant ‘Unwaith i Gymru’, gan gynnwys cymorth llesiant, atal a rheoli heintiau, a lleihau arferion cyfyngol.”
Byddwn yn cwblhau hyn erbyn gwanwyn 2023 (byddwn yn adolygu hyn bob blwyddyn) - “Byddwn ni’n gweithio gyda phartneriaid i ganfod mwy o ffyrdd i wella sgiliau digidol y gweithlu.”
Byddwn yn cwblhau hyn erbyn haf 2022 (fel rhan o’r broses o adrodd ar grant Rhaglen Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru, ac yna byddwn yn adolygu hyn bob blwyddyn)
Thema 5: addysg a dysgu gwych
Uchelgais: erbyn 2030, bydd y buddsoddiad mewn addysg a dysgu i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn darparu sgiliau a’r galluoedd sydd eu hangen i ddiwallu anghenion pobl yng Nghymru.
Datganiadau “Rydw i”
- “Rydw i’n gweithio i sefydliad sy’n rhoi’r hyfforddiant a’r gefnogaeth angenrheidiol i fi.”
- “Rydw i’n gallu ennill cyflog tra’n derbyn hyfforddiant, cael cymwysterau a dysgu sgiliau sy’n benodol i’r swydd.”
- “Rydw i’n gweithio i sefydliad sy’n fy annog ac yn fy helpu i feithrin fy hyder, fy nghymhelliant a’m sgiliau.”
- “Mae gen i'r cymysgedd iawn o ddysgu yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith sy'n gweithio orau i fi a fy nghyflogwr.”
- “Rydw i’n cael fy nghefnogi i setlo yn fy rôl a chael mynediad at gyngor a gwybodaeth i ddeall yr hyn sy’n ddisgwyliedig ohonof i er mwyn dod yn effeithlon ac effeithiol yn gyflym”.
- “Mae gen i fynediad at ddysgu hyblyg sy'n ategu'r ffordd rwy'n dysgu orau ac yn helpu i wella fy sgiliau, fy ngwybodaeth a’m hyder.”
Datganiadau “Byddwn Ni”
- “Byddwn ni’n adolygu cyllid grant datblygu gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru, gan gynnwys y grant hwyluso rhanbarthol, yn unol â chanfyddiadau ac argymhellion strategaeth y gweithlu, heriau’r sector a’r gwersi a ddysgwyd, fel bod cynllun a darpariaeth y dyfodol yn ddefnyddiol i'r sector.”
Byddwn yn adolygu ac yn gwirio hyn bob blwyddyn
- “Byddwn ni’n datblygu ac yn cyflwyno rhaglenni dysgu a datblygu i roi’r Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid ar waith.”
Byddwn yn cwblhau hyn erbyn gwanwyn 2023
- “Byddwn ni’n buddsoddi mewn dysgu i helpu i oresgyn a phontio bylchau a achoswyd gan heriau ar draws y sector. Bydd hyn yn cynnwys mwy o gyfleoedd dysgu i ddechreuwyr newydd.”
Byddwn yn adolygu ac yn adrodd ar hyn bob blwyddyn
- "Byddwn ni’n parhau i wneud fframweithiau sefydlu ar gael i reolwyr a staff, a datblygu adnoddau a chynnal gweithdai.”
Byddwn yn cwblhau hyn erbyn gwanwyn 2023
- “Byddwn ni’n datblygu adnoddau sy’n benodol i ofal cymdeithasol, fel bod mwy o bobl yn gallu datblygu sgiliau hanfodol mewn cyfathrebu a chymhwyso rhif.”
Byddwn yn cwblhau hyn erbyn gwanwyn 2023
- “Byddwn ni’n parhau i gefnogi’r rhai sydd yn y gweithlu gofal cymdeithasol ac yn cyflawni pob cymhwyster galwedigaethol o lefelau 2 i 5, ac yn rhoi cymorth pwrpasol i gyflogwyr a darparwyr dysgu.”
Mae'r gwaith hwn yn mynd rhagddo
- “Byddwn ni’n adolygu sut rydym yn cefnogi pobl gofrestredig i gofnodi eu datblygiad proffesiynol parhaus yn hawdd, ac mewn ffordd hygyrch.”
Byddwn yn cwblhau hyn erbyn gwanwyn 2023
- “Byddwn ni’n parhau i hyrwyddo arferion da ar draws y sector, gan gynnwys drwy Y Gwobrau.”
Byddwn yn cwblhau hyn erbyn gwanwyn 2023
Thema 6: Arweinyddiaeth ac olyniaeth
Uchelgais: erbyn 2030, bydd arweinwyr yn y system iechyd a gofal cymdeithasol yn dangos arweinyddiaeth gyfunol a thosturiol.
Datganiadau “Rydw i”
- “Mae gen i berthynas waith ymddiriedus, barchus a gwerthfawr gyda fy rheolwr sy’n gyson, yn deg ac mae’n hawdd siarad â nhw.”
- “Rydw i’n gallu cael mynediad at gyfleoedd datblygu arweinyddiaeth ystyrlon sy’n gwneud gwahaniaeth sylweddol i’r ffordd y gallaf gefnogi cydweithwyr a thimau i addasu i ffyrdd newydd o weithio.”
- “Rydw i’n gweithio i sefydliad lle mae arweinwyr yn deall ac yn parchu diwylliannau eraill, ac yn gallu arwain grŵp amrywiol o bobl.”
- “Mae gen i fynediad at gyfleoedd i gefnogi fy natblygiad fel darpar reolwr.”
- “Fel arweinydd, mae gen i fynediad at ystod o raglenni arweinyddiaeth a rheoli sy’n fy nghefnogi i greu ac i gynnal yr amodau i rymuso eraill i wella ansawdd y gwasanaeth a ddarparwn.”
- “Rydw i’n gweithio i sefydliad sy’n datblygu arweinwyr cynhwysol ar bob lefel yn y sector gofal cymdeithasol.”
Datganiadau “Byddwn Ni”
- “Byddwn ni’n parhau i gefnogi cymwysterau rheoli Lefel 4 a 5, sy’n cefnogi’r sector gofal uniongyrchol i ganfod a datblygu’r genhedlaeth nesaf o oruchwylwyr a rheolwyr”.
Byddwn yn cwblhau hyn erbyn gwanwyn 2023
- “Byddwn ni’n parhau i ddatblygu a chefnogi rhaglenni dysgu a datblygu pwrpasol i helpu arweinwyr a rheolwyr y presennol a’r dyfodol.”
Byddwn yn cwblhau hyn erbyn gaeaf 2022
- “Byddwn ni’n parhau i gefnogi datblygiad gwefan Gwella i gadw adnoddau sy’n cefnogi arweinyddiaeth gyfunol a thosturiol sy’n seiliedig ar yr egwyddorion arweinyddiaeth ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.”
Mae'r gwaith hwn yn mynd rhagddo
- “Byddwn ni’n parhau i gefnogi’r broses o sefydlu rhwydweithiau i gymheiriaid ar gyfer rheolwyr cofrestredig ym maes gofal cymdeithasol mewn gwasanaethau preifat, gwirfoddol a chyhoeddus i wella llesiant a’u cefnogi i fod yn wydn.”
Byddwn yn cwblhau hyn erbyn hydref 2022 - “Byddwn ni’n parhau â’n rhaglenni dysgu a datblygu i helpu rheolwyr ac arweinwyr i fod yn wydn.”
Byddwn yn cyflwyno pedwar cwrs yn 2022 i 2023
Thema 7: Siâp a chyflenwad y gweithlu
Uchelgais: erbyn 2030, bydd gennym weithlu cynaliadwy mewn niferoedd digonol i ddiwallu anghenion iechyd a gofal cymdeithasol ein poblogaeth.
Datganiadau “Rydw i”
- “Rydw i’n parchu ac yn gwerthfawrogi safbwyntiau’r unigolion, y teuluoedd a’r cymunedau rydw i’n gweithio gyda nhw.”
- “Fel rheolwr, rydw i’n hyderus y gallaf recriwtio staff sydd â’r sgiliau a’r gwerthoedd sydd eu hangen arna i heb gyfyngu ar fy ngwasanaeth.”
- “Rydw i’n gweithio gyda chydweithwyr sydd â’r sgiliau, y wybodaeth, y gwerthoedd a’r ymddygiadau gofynnol fel ein bod yn y lle gorau i arloesi a darparu gofal a chymorth sy’n fwyfwy cymhleth.”
- “Mae eraill yn gwrando arna i wrth drafod cymhlethdod a gwerth gofal uniongyrchol a’r sgiliau sydd eu hangen i ddarparu cymorth sy’n ddiwylliannol berthnasol i bobl yn fy nghymuned leol.”
- “Rydw i’n gweithio mewn lleoliad sy’n croesawu siaradwyr Cymraeg, yn parchu ieithoedd eraill ac yn ymdrechu i gynrychioli amrywiaeth y gymuned y mae'n ei gwasanaethu fel rhan o ddarparu gofal sydd wirioneddol yn canolbwyntio ar y person.”
- “Rydw i’n parchu ac yn gwerthfawrogi rôl hanfodol gofalwyr di-dâl, mudiadau gwirfoddol a chymunedol fel partneriaid hirdymor wrth gefnogi iechyd a lles plant, teuluoedd ac oedolion yn fy nghymuned leol.”
Datganiadau “Byddwn Ni”
- “Byddwn ni’n adolygu sut rydym yn bwrw ati i gynllunio’r gweithlu, a chreu adnoddau i helpu i ddatblygu cynllunio effeithiol ac amserol o ran y gweithlu.”
Byddwn yn cwblhau hyn erbyn gwanwyn 2023
- “Byddwn ni’n gwella ein dealltwriaeth o sgiliau Cymraeg yn y gweithlu gofal cymdeithasol i helpu i lywio ein cynlluniau Mwy na geiriau a rhai ein partneriaid.”
Byddwn yn cwblhau hyn erbyn gaeaf 2022
- “Byddwn ni’n parhau i ddatblygu a gwella ein porth data.”
Byddwn yn cwblhau hyn erbyn hydref 2022 (byddwn yn ail-ymweld â hyn bob blwyddyn, gan ddefnyddio’r hyn rydym wedi’i ddysgu)
- “Byddwn ni’n parhau i wella sut rydym yn casglu data gofal cymdeithasol a’i ddefnyddio er lles pobl sydd angen gofal a chymorth yng Nghymru.”
Byddwn yn cwblhau hyn erbyn hydref 2022 (byddwn yn ail-ymweld â hyn bob blwyddyn, gan ddefnyddio’r hyn rydym wedi’i ddysgu)
- “Byddwn ni’n parhau i helpu datblygiad y ffordd rydym yn casglu data’r gweithlu i wella’r broses o gynllunio’r gweithlu ar lefel leol, rhanbarthol a chenedlaethol.”
Byddwn yn cwblhau hyn erbyn haf 2023