Jump to content
Adnodd i gyflogwyr sydd â staff sy’n newydd i weithio yn ofal cymdeithasol yng Nghymru

Cyflwyniad

Rydyn ni’n gwybod fod mwy o bobl yn symud i Gymru i ddarparu gofal a chymorth hanfodol i’r bobl sy’n byw yma.

Rydym wedi cynhyrchu’r canllaw yma, gyda ffocws ar adnoddau Gofal Cymdeithasol Cymru, i'ch helpu i gefnogi eich staff yn eu rôl newydd a'u helpu i deimlo'n gartrefol. Mae gweithwyr sy’n cael eu cefnogi a’u cymell yn fwy tebygol o fod eisiau parhau i weithio i chi.

Gallwch chi ddefnyddio’r arweiniad hwn fel rhan o’ch proses sefydlu arferol. Mi welwch adnoddau a syniadau i helpu eich staff newydd. Dylai’r arweiniad hwn gael ei ddarllen ochr yn ochr â’ch polisïau a’ch gweithdrefnau eich hun.

Recriwtio

Mae gwybodaeth a chanllawiau Llywodraeth Cymru ar gyflogi gweithwyr rhyngwladol mewn gofal cymdeithasol yma.

Bydd angen ‘cod rhannu’ yr ymgeisydd arnoch i fynd ar-lein i wirio eu hawl i weithio. Cewch ragor o fanylion yma.

Sefydlu

Mae’r adrannau canlynol yn cynnwys dolenni at adnodau a fideos i helpu eich staff newydd i setlo mewn. Efallai hoffech chi ystyried defnyddio’r rhain mewn cyfarfodydd tîm, ar gyfer dysgu annibynnol a chyfarfodydd un i un. I helpu’r broses ddysgu, mae’n arfer da i neilltuo amser ar ôl edrych ar yr adnoddau a’r fideos hyn i siarad am yr hyn rydych wedi’i weld gyda’ch gilydd.

Dylech chi ddefnyddio’r wybodaeth yn yr adrannau hyn ochr yn ochr â’ch prosesau sefydlu eich hun.


Gofal cymdeithasol yng Nghymru

Mae gofal cymdeithasol yn golygu llawer o bethau gwahanol ac mae’n cael ei ddarparu mewn ffyrdd gwahanol ledled y byd.

Mae’r fideos byr hyn yn gyflwyniad i ofal cymdeithasol yng Nghymru’n benodol:

Beth yw gofal cymdeithasol?

Sut mae gofal cymdeithasol yn gweithio yng Nghymru?

Mae gofal cymdeithasol yng Nghymru’n cael ei ategu gan Ddeddf Gofal Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae trosolwg a rhagor o wybodaeth am y Ddeddf ar ein gwefan. Mae’n cynnwys gwybodaeth i’ch gweithwyr newydd am y cyd-destun mae nhw’n gweithio ynddo.

Mae gan wefan Gofalwn Cymru lawer o adnoddau ar gyfer gweithwyr newydd. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am wahanol rolau mewn gofal cymdeithasol, straeon gan weithwyr ledled Cymru sy’n rhannu eu profiadau am weithio mewn gofal cymdeithasol, ac adnoddau ar ofal cymdeithasol yng Nghymru.

Mae Gofalwn Cymru hefyd yn cynnig hyfforddiant cyflwyniad i ofal cymdeithasol. Mae hwn yn rhoi trosolwg ar weithio mewn gofal cymdeithasol gan gynnwys pynciau fel ansawdd a gwerthoedd, cod ymarfer proffesiynol, a dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Fframwaith sefydlu Cymru gyfan

Mae’r fframwaith wedi’i rannu’n saith adran ar yr wybodaeth, dealltwriaeth a’r sgiliau sydd angen i weithwyr newydd eu dysgu yn ystod eu cyfnod sefydlu.

Hefyd, mae modiwlau dysgu digidol yn ymdrin ag elfennau fel y cod ymarfer proffesiynol, pwysigrwydd y Gymraeg a’r diwylliant Cymreig a’r ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â dull sy’n seiliedig ar hawliau.

Diogelu

Mae arferion diogelu’n amrywio o wlad i wlad. Mae’n bwysig i chi sicrhau bod eich staff yn ymwybodol o’r fframweithiau diogelu sydd gennym yng Nghymru. Mi gewch ragor o wybodaeth am Weithdrefnau Diogelu Cymru ar eu gwefan neu drwy’r ap, y gallwch ddod o hyd iddo yn y siop app ar gyfer eich dyfais.

Bydd y modiwl e-ddysgu Grŵp A: Diogelu yn rhoi cyflwyniad a dealltwriaeth ymarferol i ddiogelu i’ch staff newydd. Gallwch weld pa hyfforddiant grŵp sydd ei angen ar gyfer pob rôl yma.

Hefyd, mae yna deunyddiau hyfforddi defnyddiol i hybu dysgu staff.

Ymarfer sy’n seiliedig ar gryfderau

Bydd rhywfaint o’r derminoleg yn ddieithr i’ch gweithwyr newydd pan fyddant yn dechrau gweithio yn y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru. Rydym wedi cynhyrchu modiwl e-ddysgu sy’n cynnwys gwybodaeth am ymarfer sy’n seiliedig ar gryfderau a’r ddeddfwriaeth sy’n ategu dull sy’n seiliedig ar hawliau.

Y Gymraeg a’r diwylliant Cymreig

Mae diwylliant Cymru’n unigryw gyda’i iaith, ei arferion, gwyliau, cerddoriaeth, celf, mytholeg, hanes a gwleidyddiaeth ei hun. Efallai bydd y diwylliant hwn yn ddieithr i’ch gweithlu newydd felly mae’n bwysig eich bod yn eu helpu i ddeall y diwylliant byddan nhw’n byw ac yn gweithio ynddo.

Mae Cymru yn wlad ddwyieithog, lle’r ydym yn siarad Cymraeg a Saesneg. Mae disgwyl i berson sy’n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth dderbyn hwn yn ei ddewis iaith. Mae derbyn gofal a chymorth yn eu dewis iaith yn golygu bod pobl yn teimlo’n fwy cyfforddus ac yn gallu deall yn llawn. Mae rhagor o wybodaeth am y cynnig gweithredol a’r hyn mae hynny’n ei olygu mewn gofal cymdeithasol yn Mwy na geiriau.

Mae'r modiwl dysgu ymwybyddiaeth iaith Gymraeg hwn yn rhoi ymwybyddiaeth i ddefnyddwyr o pam mae sgiliau iaith Gymraeg a gweithio'n ddwyieithog yn bwysig.

Mae'r adnodd Croeso i'r Gymraeg yn darparu uned hunan-astudio ar-lein drwy nifer o ieithoedd gwahanol.

Gallwch gyfeirio eich staff at y cyrsiau Camau ar-lein am ddim yma. Mae’r dysgu hyblyg, cryno hwn yn canolbwyntio ar y geiriau a’r ymadroddion Cymraeg y mae gweithwyr yn fwyaf tebygol o fod eu hangen pan maen nhw'n cyfathrebu â’r bobl maen nhw'n cefnogi.

Gwelwch chi adnoddau eraill sydd ar gael am Gymru a’r gymdeithas Gymreig. Er enghraifft, mae mynediad am ddim i fodiwlau OpenLearn ac maen nhw'n ymdrin ag ystod o bynciau gan gynnwys:

Cymru Gyfoes

Deall datganoli yng Nghymru

Hawliau cyflogeion

Mae’n bwysig bod eich gweithwyr newydd yn deall eu hawliau cyflogaeth. Mae ACAS yn cynnig cyngor ac arweiniad i gyflogwyr a chyflogeion.

Gallwch chi gyfeirio eich cyflogeion newydd at eu gwefan am ragor o wybodaeth am eu hawliau.

Awgrymiadau defnyddiol gan y sector

Wrth ddatblygu trefniadau sefydlu ar gyfer staff newydd, efallai hoffech chi ystyried cynhyrchu canllaw ‘sut i’ ar gyfer cyfarpar cyffredin yn eich lleoliad. Hefyd lyfrau ryseitiau sy’n cynnwys prydau bwyd sy’n boblogaidd ymhlith y bobl byddan nhw’n gweithio gyda.

Gallech chi roi geirfa at ei gilydd o rai o'r geiriau a'r ymadroddion sy'n cael eu defnyddio’n gyffredin yn eich lleoliad.

Llesiant

I hybu llesiant pobl sy’n newydd i waith gofal cymdeithasol yng Nghymru mae’n bwysig cael cynllun sefydlu da, i gynnig cefnogaeth broffesiynol a phersonol.

Mae gwybodaeth a chymorth llesiant ar gael ar ein gwefan a fydd yn berthnasol i bawb yn eich sefydliad.

Mae’r tudalennau hyn ar ein gwefan yn fan cychwyn da. Mae nhw’n cynnwys gwybodaeth ar iechyd a llesiant, cyngor ac adnoddau ar gyfer gweithwyr a rheolwyr gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar.

Pan fyddwch yn trafod yr wybodaeth hon, mae’n bwysig meddwl sut y gall amrywiaeth ddiwylliannol effeithio ar sut y bydd rhai pobl yn siarad am lesiant ac efallai bydd ganddyn nhw ffyrdd gwahanol o ymdopi. Mae iechyd meddwl yn enghraifft lle mae stigma ar gynnydd mewn rhai diwylliannau, ac mi all hyn atal pobl rhag siarad am symptomau a gofyn am help.

Yn achos pobl sy’n dod i weithio yng Nghymru o’r tu allan i’r DU mae pethau eraill i’w hystyried a fydd yn bwysig i hybu llesiant.

Cyfathrebu rheolaidd

Mae’n bwysig ac yn fuddiol cael sgyrsiau â’ch gweithwyr newydd yn gynnar ac yn aml. Mae hyn yn cynnwys y cyfnod rhwng pan gawsant gynnig y swydd hyd at yr adeg pan fyddan nhw’n cyrraedd y DU. Gallai hyn gynnwys cyfarfodydd rhithiol a’u cyflwyno i’w rheolwr llinell a chydweithwyr allweddol eraill.

Setlo i gartref a chymuned

Gall pobl elwa ar help i agor cyfrifon banc, cael Rhif Yswiriant Gwladol, dod o hyd i rywle i fyw, mynediad at siopa, trafnidiaeth gyhoeddus a chyfleusterau eraill fel cofrestru â meddyg teulu.

Gallwch ddatblygu pecyn croeso sy’n cynnwys gwybodaeth am yr ardal newydd, gan gynnwys meddygon, deintyddion a siopau lleol.

Bydd eu helpu â’r trefniadau hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr iddyn nhw tra byddan nhw yn cynefino â bywyd yng Nghymru.

Ymgysylltu â staff presennol

Bydd integreiddio rhwng staff presennol a gweithwyr tramor yn fwy effeithiol pan fyddwch yn cynnwys eich staff presennol gymaint â phosibl o ddechrau’r broses. Pan fydd eich gweithwyr newydd yn cyrraedd, mae digwyddiad cymdeithasol yn ffordd braf o helpu eich staff presennol a’r staff newydd i ddod i adnabod ei gilydd.

Ymwybyddiaeth ddiwylliannol

Mae diwylliant yn weladwy, er enghraifft, ein hiaith, dillad, arferion a’n bwyd a diod; ond gall fod yn anweladwy hefyd. Mae diwylliant yn rhywbeth pwerus ac mae’n dylanwadu ar ymddygiad, rhyngweithiadau, cyfathrebu a chredoau. Mae’n bwysig cadw diwylliant staff newydd mewn cof wrth eu sefydlu a’u hyfforddi ar gyfer eu rôl newydd.

Mae’n bwysig hefyd bod eich staff presennol yn deall hyn a phan yn bosibl eu bod yn dysgu am ddiwylliannau eu cydweithwyr. Gall hyn helpu staff presennol i ddeall mwy am ddiwylliant aelodau newydd eu tîm a bydd hynny yn ei dro’n helpu’r aelodau newydd i deimlo’n fwy cartrefol yn y gweithle.

Gwahaniaethu

Ni ddylai gwahaniaethu o unrhyw fath gael ei oddef yn eich sefydliad. Fel rhan o’ch rôl fel cyflogwr mewn gofal cymdeithasol dylech sicrhau bod gennych chi bolisïau a gweithdrefnau ar waith i alluogi unigolion i roi gwybod am achosion o wahaniaethu ac i roi sylw iddynt.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun gweithredu gwrth-hiliaeth sy’n cynnwys ymrwymiad i ddileu hiliaeth yng Nghymru. Mae gwrth-hiliaeth yn golygu gwrthwynebu hiliaeth o bob math.

Rheoleiddio

I lawer o weithwyr newydd mewn gofal cymdeithasol yng Nghymru bydd rheoleiddio’n gysyniad newydd. Fel cyflogwr gweithwyr cofrestredig, mae’n bwysig sicrhau bod eich holl staff newydd yn deall beth mae gweithio mewn rôl gofrestredig yn ei olygu.

Rydyn ni wedi cynhyrchu nifer o fideos gallwch chi rhannu â’ch staff i’ch helpu i egluro beth yw rheoleiddio a pham mae’n bwysig.

Mae’r dudalen hon ar ein gwefan yn cynnwys gwybodaeth sy’n egluro pam mae angen i staff gofrestru a beth yw buddiannau cofrestru.

Mae’r dudalen hon ar ein gwefan yn cynnwys rhagor o wybodaeth am gofrestru a sut i ymgeisio.

Mae sawl ffordd o gofrestru. Fel cyflogwr, bydd angen i chi helpu eich gweithiwr newydd i ddewis y ffordd fwyaf priodol o gofrestru. Cewch ragor o wybodaeth ar ein gwefan.

Côd Ymarfer Proffesiynol

Pan fydd gweithiwr wedi cofrestru â ni bydd disgwyl iddynt gydymffurfio â’r Codau Ymarfer Proffesiynol.

Rydyn ni’n cyhoeddi Côd Ymarfer Proffesiynol sy’n set o reolau, neu safonau, y mae’n rhaid i weithwyr gofal proffesiynol eu dilyn, i helpu i gadw unigolion a’u hunain yn ddiogel ac yn iach. Rhaid i bob gweithiwr gofal cymdeithasol yng Nghymru ddilyn y cod hwn.

Fel cyflogwr, dylech sicrhau bod gan eich staff gopi o’r cod ymarfer proffesiynol a’u bod yn ei ddeall.

Mae canllawiau ymarfer hefyd ar gyfer y rhan fwyaf o rolau mewn gofal cymdeithasol. Dylai’r canllaw ymarfer gael ei ddefnyddio i helpu i gyflawni’r safonau sydd yn y Cod Ymarfer Proffesiynol. Mae canllaw esboniadol hefyd sy’n ymwneud â defnyddio cyfryngau cymdeithasol a bod yn agored a gonest pan fydd pethau’n mynd o chwith.

Gallwch weld yr adnoddau hyn ar ein gwefan.

Gofal Cymdeithasol Cymru

Efallai na fydd staff sy’n newydd i’r sector gofal cymdeithasol yn gwybod am ein gwaith yn Gofal Cymdeithasol Cymru. Fel rhan o’ch proses sefydlu, byddai’n fuddiol i egluro ein rôl, fel y bydd gweithwyr yn deall pam maen nhw'n cofrestru gyda ni. Mae rhagor o wybodaeth am Gofal Cymdeithasol Cymru yma.

Cyhoeddwyd gyntaf: 26 Mawrth 2025
Diweddariad olaf: 26 Mawrth 2025
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (48.5 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch