Jump to content
Cyrsiau Cymraeg Camau

Gall gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru nawr ddysgu Cymraeg am ddim, diolch i gwrs ar-lein Camau.

Rydyn ni wedi creu’r cwrs Camau mewn partneriaeth â’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, yn arbennig ar gyfer bobl sy’n gweithio o fewn gofal cymdeithasol.

Mae’n cynnig dysgu hyblyg drwy gyrsiau byr sy’n canolbwyntio ar y geiriau a thermau y mae gweithwyr eu hangen fwyaf wrth gyfathrebu gyda’r bobl maen nhw’n eu cefnogi.

Mae’n cyfrif tuag at ddatblygiad proffesiynol parhaus gweithwyr gofal cymdeithasol a bydd pawb sy’n cwblhau’r cwrs yn cael tystysgrif.

Mae yna dri cwrs ar gael:

  • Mae'r modiwl Mynediad yn addas i ddechreuwyr ac mae wedi rannu yn dair rhan o rhyw 20 awr o hunan astudio i bob rhan.
  • Mae’r modiwl Sylfaen yn adeiladu ar y modiwl lefel Mynediad ac mae wedi rannu yn dair rhan o rhyw 20 awr o hunan astudio i bob rhan.
  • Mae'r modiwl Canolradd yn adeiladu ar y modiwl lefel Syflaen. Mae rhan 1 a 2 ar gael nawr a bydd rhan 3 yn dilyn yn fuan.

Gallwch gofrestru ar gyfer y cyrsiau ar wefan Dysgu Cymraeg, yma.

Cofrestru ar gyfer y cwrs Mynediad

Mae dau gwrs ar gael, yn defnyddio tafodiaith y gogledd neu’r de.

Unwaith y byddwch wedi creu cyfrif gallwch gychwyn y cwrs yn syth trwy fynd i ‘Fy Nysgu’ o fewn eich cyfrif ar dysgucymraeg.cymru.

Cofrestrwch ar gyfer:

Mynediad rhan 1

Camau Mynediad 1 (gogledd)

Camau Mynediad 1 (de)

Mynediad rhan 2

Camau Mynediad 2 (gogledd)

Camau Mynediad 2 (de)

Mynediad rhan 3

Camau Mynediad 3 (gogledd)

Camau Mynediad 3 (de)

Cofrestru ar gyfer y cwrs Sylfaen

Mae dau gwrs ar gael, yn defnyddio tafodiaith y gogledd neu’r de.

Unwaith y byddwch wedi creu cyfrif gallwch gychwyn y cwrs yn syth trwy fynd i ‘Fy Nysgu’ o fewn eich cyfrif ar dysgucymraeg.cymru.

Cofrestrwch ar gyfer:

Sylfaen rhan 1

Camau Sylfaen 1 (gogledd)

Camau Sylfaen 1 (de)

Sylfaen rhan 2

Camau Sylfaen 2 (gogledd)

Camau Sylfaen 2 (de)

Sylfaen rhan 3

Camau Sylfaen 3 (gogledd)

Camau Sylfaen 3 (de)

Cofrestru ar gyfer y cwrs Canolradd

Mae dau gwrs ar gael, yn defnyddio tafodiaith y gogledd neu’r de.

Unwaith y byddwch wedi creu cyfrif gallwch gychwyn y cwrs yn syth trwy fynd i ‘Fy Nysgu’ o fewn eich cyfrif ar dysgucymraeg.cymru.

Cofrestrwch ar gyfer:

Canolradd rhan 1

Camau Canolradd 1 (gogledd)

Camau Canolradd 1 (de)

Canolradd rhan 2

Camau Canolradd 2 (gogledd)

Camau Canolradd 2 (de)

Bydd rhan 3 yn dilyn yn fuan.

Mae isdeitlau Cymraeg ar gael drwy wasgu’r botwm ‘CC’ Cliciwch y botwm ‘CC’ a dewiswch eich iaith.

Ymuno â chymuned Camau

Rydyn ni hefyd wedi creu cymuned arlein sy’n ofod i ddysgwyr ymgysylltu â’i gilydd a rhannu eu profiadau am yr iaith Gymraeg.

Gallwch drafod sut yr ydych yn mwynhau’r cwrs a chefnogi eich gilydd tra’n rhannu yr hyn yr ydych wedi ei ddysgu i fagu hyder.

Ymunwch â’r gymuned yma.

Cyhoeddwyd gyntaf: 9 Hydref 2024
Diweddariad olaf: 14 Hydref 2026
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (44.2 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch