Jump to content
Asesiad gan gyflogwr: gwybodaeth i gyflogwyr

Gwybodaeth am sut gall cyflogwyr asesu dealltwriaeth gweithiwr o'r egwyddorion gofal cymdeithasol yng Nghymru a chymeradwyo eu cais i gofrestru.

Beth yw asesiad gan gyflogwr?

Gall gweithwyr gofal cymdeithasol heb y cymhwyster gofynnol i gofrestru gyda ni ofyn i'w rheolwr cofrestredig, neu Unigolyn Cyfrifol os nad oes rheolwr cofrestredig, asesu eu dealltwriaeth o egwyddorion gofal cymdeithasol yng Nghymru, tra bod nhw’n gweithio tuag at gael cymhwyster.

Mae hyn yn golygu gallwch chi gadarnhau cais eich gweithwyr i gofrestru os ydych chi'n fodlon bod ganddynt y ddealltwriaeth briodol. Os ydych chi'n rheolwr cofrestredig, cysylltwch â llofnodwyr@gofalcymdeithasol.cymru fel y gallwn ni roi'r mynediad perthnasol i chi wneud hyn. 

Dylech chi ddefnyddio'r wybodaeth ar y dudalen hon i'ch helpu chi i benderfynu a yw gweithiwr gofal cymdeithasol yn addas i ymarfer ac a oes ganddyn nhw'r ddealltwriaeth briodol i wneud cais i gofrestru gyda ni.

Tystiolaeth

Mae'n ofynnol yn gyfreithiol i weithwyr gofal cymdeithasol ddangos eu bod nhw’n deall egwyddorion gofal cymdeithasol yng Nghymru, os gofynnwn ni iddyn nhw wneud hynny fel rhan o'u cais i gofrestru gyda ni.

Efallai byddwn ni’n gofyn i chi rannu'r wybodaeth a ddefnyddiwyd gennych chi i gefnogi eich penderfyniad i gymeradwyo cais eich gweithiwr. Gall Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) hefyd ofyn i chi am hyn.

Dylech chi ddefnyddio'r cofnod tystiolaeth hwn i gofnodi eich tystiolaeth yn erbyn y meini prawf a nodir yn y ffurflen. Gallwch chi a'ch gweithiwr ddefnyddio'r ffurflen  i ddangos bod ganddyn nhw’r ddealltwriaeth briodol a'u bod nhw’n addas i ymarfer.

Beth sy'n cyfrif fel tystiolaeth?

Gallwch chi gynnwys enghreifftiau o:

  • adolygiad o gyfnod prawf a gweithgareddau sefydlu
  • cofnodion hyfforddi neu fynychu cyrsiau
  • tystysgrifau a gafwyd trwy hyfforddiant asesedig, fel symud a thrafod, cymorth cyntaf a hylendid bwyd
  • nodiadau arsylwi, trafodaethau, goruchwyliaeth a/neu arfarnu
  • cyfarfodydd tîm
  • cwblhau fframwaith sefydlu Cymru Gyfan
  • adborth gan gydweithwyr a phobl sy'n defnyddio gofal a chefnogaeth.

Cymwysterau

Rydyn ni’n argymell bod gweithwyr gofal cymdeithasol yn cwblhau fframwaith sefydlu Cymru Gyfan (AWIF) yn ystod y chwe mis cyntaf. 

Rhaid i weithwyr gofal cymdeithasol sy'n cofrestru trwy asesiad gan gyflogwr gwblhau un o'r opsiynau cymhwyster presennol a restrir yn y fframwaith cymwysterau.

Rydyn ni’n disgwyl i'r rhan fwyaf o weithwyr gofal cymdeithasol wneud hyn mewn tair blynedd, ond mae ganddynt hyd at chwe blynedd i'w gwblhau.

Pwy all gwblhau asesiad gan gyflogwr?

I gwblhau asesiad gan gyflogwr, rhaid i chi fod yn asesydd cymhwysedd cymeradwy ar gyfer eich sefydliad. Yn gyffredinol, mae'r rôl hon yn cael ei gwneud gan reolwr cofrestredig y sefydliad ac mae'n rôl ar wahân i brif lofnodwr neu lofnodwr ychwanegol.

Os nad oes rheolwr cofrestredig yn bresennol, gall Unigolyn Cyfrifol y sefydliad enwebu dewis arall addas i ni.

Sut i gwblhau asesiad gan gyflogwr

  • Pan fydd ymgeisydd yn eich dewis chi fel asesydd cyflogwr, byddwch chi’n cael e-bost yn rhoi gwybod i chi
  • Mae gennych chi saith diwrnod i adolygu a chwblhau'r asesiad gan gyflogwr
  • Cwblhewch y ffurflen asesiad gan gyflogwr drwy nodi sut mae'r gweithiwr gofal cymdeithasol wedi dangos y ddealltwriaeth briodol
  • Ni allwn ni brosesu'r cais nes ein bod ni wedi derbyn asesiad gan gyflogwr. Os na fyddwch chi’n cyflwyno eich asesiad gan gyflogwr, byddwn ni’n cau’r cais heb ei gofrestru. 

Gallwch lawrlwytho'r ffurflen asesiad gan gyflogwr a'r cofnod tystiolaeth isod. 

Nid oes angen i chi anfon eich cofnod tystiolaeth atom gan nad ydym yn gofyn amdano fel rhan o gais. Mae'n bosib y byddwn yn cynnal archwiliadau sampl a gofyn am gopïau o'r dystiolaeth a ddefnyddiwyd i wneud eich penderfyniad.