Dyma rhaglen y digwyddiadau ar gyfer Wythnos Llesiant 2027, sy'n rhedeg o 18 i 22 Ionawr.
Mae Wythnos Llesiant 2027 yn wythnos o ddigwyddiadau ar-lein lle gall pobl yn y sector ddod at ei gilydd i ddysgu am lesiant a rhannu arferion gorau.
Gallwch ymuno â chymaint o ddigwyddiadau ag y dymunwch.
Y safbwyntiau a fynegir yn y gweithdai hyn yw barn y siaradwyr a dydyn nhw ddim o reidrwydd yn adlewyrchu barn y sefydliadau y maen nhw'n eu cynrychioli, na barn Gofal Cymdeithasol Cymru.
Byddwn yn ychwanegu rhagor o ddigwyddiadau dros yr wythnosau nesaf. Dewch nôl yn fuan i weld beth sydd ar y gweill ac i'ch archebu'ch lle!
Gweminar: presenoldeb arweinwyr a dilysrwydd
Gofal Cymdeithasol Cymru ac Altriss Training Ltd.
Gall arweinyddiaeth ym maes gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant fod yn gymhleth ac yn heriol yn emosiynol. Bydd y sesiwn hon yn eich helpu i ddatblygu mwy o hunanymwybyddiaeth a dilysrwydd yn eich rôl arweinyddiaeth.
Dysgu mwy ac archebu eich lle
Creu ffiniau digidol yn ein byd gwaith
Dewch 'nôl yn fuan am fanylion am y sesiwn yma.
Cefnogi iechyd meddwl staff – canllaw i reolwyr
Gofal Cymdeithasol Cymru ac Wellbeing RCS.
Rydyn ni wedi rhannu'r hyfforddiant hwn yn bedair sesiwn. Mae’r sesiwn gyntaf yn rhan o Wythnos Llesiant.
Gallwch chi ddewis ymuno â ni ar gyfer sesiwn 1 yn unig, neu ar gyfer pob un o'r pedair sesiwn.
Rydyn ni’n cynnal y sesiynau hyn fel bod rheolwyr yn gallu cael gwybodaeth berthnasol a chyfoes, a bod yn rhan o ofod cymorth ymhlith cyfoedion i rannu sut beth yw cefnogi staff sy’n profi salwch meddwl.
Dysgu mwy ac archebu eich lle
Diogelu llesiant mewn rolau sy'n heriol yn emosiynol: dulliau ymarferol i reolwyr
Gofal Cymdeithasol Cymru ac Altriss Training Ltd.
Dewch 'nôl yn fuan am fanylion am y sesiwn yma.
Cysgu'n well: gwyddoniaeth a strategaethau
Gofal Cymdeithasol Cymru a Dr Helen Jones.
Dewch 'nôl yn fuan am fanylion am y sesiwn yma.
Llesiant ariannol: sesiwn cymorth a chyngor
Gofal Cymdeithasol Cymru a'r Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS)
Dyma sesiwn ar-lein ymarferol am ddim i'ch helpu chi:
- gwneud y gorau o'ch incwm, gan gynnwys ffyrdd y gallech chi wneud incwm eich cartref yn fwy
- gwirio beth mae gennych hawl iddo – sut i wirio eich cymhwysedd i gael budd-daliadau a chymorth ariannol arall
- delio â dyled – fel y gallwch chi ddeall pa gymorth y gallech ei gael os ydych chi'n cael trafferth gyda benthyca neu ad-daliadau
- darganfod ble i gael gymorth ychwanegol, fel grantiau neu gymorth caledi
- clywed ble i gael cymorth diduedd am ddim gan sefydliadau sy'n gallu darparu arweiniad a chyngor cyfrinachol pan fydd ei angen arnoch.
Byddwn hefyd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am gyflog a dilyniant a gwaith y Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol.
Cefnogi pobl i weithio a rheoli salwch hirdymor
Gofal Cymdeithasol Cymru a Healthy Working Wales, Able Futures, RCS Wellbeing, Case UK.
Dewch 'nôl yn fuan am fanylion am y sesiwn yma.
Cynnwys cysylltiedig
- Cefnogi eich iechyd a llesiant
- Ynglŷn â llesiant yn y gwaith
- Mae eich llesiant yn bwysig: fframwaith iechyd a llesiant y gweithlu