Jump to content
Cwrs newydd ar gyfer arweinwyr a rheolwyr y dyfodol

Rydyn ni’n datblygu cwrs newydd cyffrous ar gyfer ymarferwyr blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru sy'n ystyried rôl arwain a rheoli. Mae'r cwrs hefyd yn agored i reolwyr presennol sydd eisiau datblygu a chryfhau eu sgiliau a'u hyder.

Bydd y cwrs yn para 10 mis ac yn cael ei gynnal ar-lein yn bennaf, gyda dwy sesiwn wyneb yn wyneb. Bydd yn darparu:

  • dysgu ac addysgu strwythuredig
  • siaradwyr gwadd
  • cymorth i ddysgwyr a chanllawiau asesu
  • cyfleoedd dysgu hyblyg
  • adnoddau arweinyddiaeth a rheoli.

Bydd y cwrs yn cefnogi ymarferwyr i weithio tuag at y Lefel 4 Paratoi ar gyfer Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant. Mae cwblhau'r cwrs yn cyflawni Rhan A o'r Fframwaith dysgu a sefydlu ar gyfer rheolwyr blynyddoedd cynnar a gofal plant, fel sy'n ofynnol ar gyfer rolau swyddi penodol. 

Bydd dau opsiwn cychwynnol i ddechrau’r cwrs:

  • Medi 2026
  • Ionawr 2027.

I gofrestru’ch diddordeb, cwblhewch y ffurflen hon: Rhaglen arweinwyr a rheolwyr y dyfodol

Beth yw'r cwrs Arweinwyr a rheolwyr y dyfodol?

Mae'r cwrs yn fenter newydd i gefnogi arweinwyr uchelgeisiol a phresennol yn y sector blynyddoedd cynnar a gofal plant. Mae'n darparu cyfleoedd dysgu, cymorth ac asesu strwythuredig yn seiliedig ar gynnwys cymhwyster Lefel 4 Paratoi ar gyfer Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant.

Pwy all wneud cais?

Mae'r cwrs wedi'i anelu at ymarferwyr sy'n gweithio mewn lleoliadau gofal plant rheoledig sydd:

  • yn meddu ar Ymarfer Uwch QCF lefel 5 i ymgymryd â dysgu a hefyd cyflawni'r Rhan A ofynnol o'r Sefydlu i Reolwyr 
  • yn meddu ar gymhwyster Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant Lefel 2 neu Lefel 3 (neu gyfwerth a gydnabyddwyd)
  • eisiau symud ymlaen i rolau arwain a rheoli
  • yn paratoi i ymgymryd â chyfrifoldebau rheoli
  • yn reolwyr presennol ac yn dymuno datblygu eu gwybodaeth a'u sgiliau arweinyddiaeth.

Cynnwys ac asesiad y cwrs

Gall dysgwyr ddisgwyl ymdrin â phynciau fel:

  • paratoi ar gyfer arweinyddiaeth
  • arweinyddiaeth sy'n seiliedig ar werthoedd 
  • datblygu timau effeithiol
  • cyfathrebu a sgyrsiau anodd
  • llesiant y gweithlu
  • arwain newid.

Bydd gweithgareddau fel rhan o'r sesiynau yn cynnwys: 

  • trafodaethau mewn grŵpiau bach
  • dadansoddi astudiaeth achos
  • ymarferion cymhwyso yn y gweithle.

Bydd dulliau asesu yn hyblyg, gan gynnwys naill a'i:

  • cyfrif preffesiynol myfyriol
  • cyflwyniad
  • aseiniadau ysgrifenedig.

Ar ôl cwblhau'r cwrs

Rhagwelir y bydd dysgwyr sy'n dymuno symud ymlaen i'r Lefel 4 llawn Paratoi ar gyfer Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant yn gallu defnyddio Cydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol (RPL), yn amodol ar ofynion y sefydliad dyfarnu neu'r darparwr dysgu.

Ni fydd pob dysgwr eisiau, neu'n barod, i ymgymryd â'r cymhwyster Lefel 4 llawn ar ôl cwblhau'r cwrs, ond mae cwblhau Rhan A o'r Fframwaith dysgu a sefydlu ar gyfer rheolwyr y blynyddoedd cynnar a gofal plant yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer dilyniant yn y dyfodol i rolau a chymhwyster arweinyddiaeth.