Jump to content
Y cymwysterau rydyn ni'n eu derbyn a sut i gofrestru heb gymhwyster

Gwybodaeth am y cymwysterau sydd eu hangen arnoch chi i gofrestru a beth i wneud os nad oes gennych chi'r cymhwyster sydd ei angen.

Gweithwyr gofal cymdeithasol

Mae dwy ffordd i gofrestru gyda ni. Gallwch chi gofrestru gyda chymhwyster presennol, neu os nad oes gennych gymhwyster, gallwch chi gofrestru trwy broses o'r enw asesiad gan gyflogwr.   

Cofrestru gyda chymhwyster 

Gallwch chi gofrestru gan ddefnyddio cymhwyster City & Guilds Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd. Yna bydd angen i chi gwblhau'r cymhwyster City & Guilds Lefel 2 neu 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer, os nad yw gennych chi’n barod. 

Mae gennych chi chwe blynedd i gael y cymhwyster, ond rydyn ni’n disgwyl i'r rhan fwyaf o weithwyr gofal cymdeithasol wneud hynny o fewn tair blynedd ar ôl iddynt gofrestru gyda ni am y tro cyntaf. 

Gallwch hefyd gofrestru os oes gennych Lefel 2 neu 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Diploma, QCF neu NVQ) neu gymhwyster cyfwerth.  

Beth sydd angen i chi ei wneud: 

Os oes gennych chi eisoes gymhwyster gofal cymdeithasol nad yw wedi'i restru ar ein fframwaith cymwysterau, dylech wirio'r rhestr cymwysterau swyddogol cyfwerth i weld os ydi eich cymhwyster yn cael ei dderbyn yng Nghymru.  
   

Os nad yw'r cymhwyster ar y rhestr, ond eich bod chi'n meddwl ei fod yn berthnasol i weithio ym maes gofal cymdeithasol, gallwch ei asesu drwy'r broses Asesu Cywerthedd Cymwysterau (QEA).

Rhagor o wybodaeth am asesu cywerthedd cymwysterau

Cofrestru trwy asesiad gan gyflogwr 

Os nad oes gennych un o'r cymwysterau gofynnol, gall eich cyflogwr eich asesu a rhoi gwybod i ni fod gennych y sgiliau a'r wybodaeth gywir i weithio ym maes gofal cymdeithasol. Bydd yn dal angen i chi gael cymhwyster, ond gallwch wneud hyn ar ôl i chi gofrestru.   

Rhagor o wybodaeth am asesiad gan gyflogwr.

Rheolwyr gofal cymdeithasol

Edrychwch ar y fframwaith cymwysterau i weld pa gymwysterau sydd eu hangen arnoch i gofrestru fel rheolwr gofal cymdeithasol. 

Os ydych chi'n weithiwr gofal cymdeithasol gyda chymhwyster Lefel 3 neu dystysgrif Camu i Fyny i Reoli PDC Lefel 4, gallwch gofrestru fel rheolwr gofal cymdeithasol cyn belled â'ch bod wedi cofrestru ar gymwysterau Lefel 4 Paratoi ar gyfer Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol neu gymwysterau Lefel 5 Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Ymarfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol. 

Ar ôl i chi gofrestru, bydd gennych dair blynedd i gael y cymhwyster Lefel 5 a rhaid i chi ei gael cyn i chi adnewyddu eich cofrestriad. 

Cymwysterau eraill 

Os oes gennych gymhwyster gofal cymdeithasol eisoes nad yw wedi'i restru ar ein fframwaith cymwysterau, dylech wirio'r rhestr i weld os yw eich cymhwyster yn cael ei dderbyn yng Nghymru.  
   

Os nad yw'r cymhwyster ar y rhestr, ond eich bod yn meddwl ei fod yn berthnasol i weithio ym maes gofal cymdeithasol, gallwch ei asesu drwy'r broses Asesu Cywerthedd Cymwysterau (QEA).  
 
Gall gweithwyr cymdeithasol, nyrsys a therapyddion galwedigaethol hefyd gofrestru fel rheolwyr gofal cymdeithasol, ond rhaid iddynt gwblhau cymhwyster rheoli o fewn y tair blynedd gyntaf o gofrestru. Rhaid i'r cymhwyster rheoli fod:  

  • o leiaf 37 credyd  
  • wedi’i asesu yn y gweithle 
  • ar lefel 3 neu uwch. 

Os ydych chi wedi cofrestru fel gweithiwr ond yn gweithio fel rheolwr, mae angen i chi anfon e-bost atom yn cofrestru@gofalcymdeithasol.cymru i roi gwybod i ni. Byddwn yn gofyn am fanylion eich rôl a byddwn yn dweud wrthych beth yw’r camau nesaf ar gyfer newid y rôl rydych chi wedi'i chofrestru ynddi. 

Os nad ydych eisoes wedi cofrestru gyda ni, gallwch wneud cais ar GCCarlein. 

Gweithwyr cymdeithasol

Gwybod pa gymwysterau sydd eu hangen arnoch chi i gofrestru fel gweithiwr cymdeithasol 

Os ydych chi'n fyfyriwr gwaith cymdeithasol ar eich blwyddyn olaf ac nad ydych wedi derbyn cadarnhad o'ch cymhwyster, mae dal yn bosibl i chi wneud cais i gofrestru gyda ni gan y byddwn yn derbyn y wybodaeth hon yn uniongyrchol gan eich prifysgol neu goleg. 

Gwasanaeth gwirio cymwysterau gwaith cymdeithasol 

Rydyn ni’n cynnig gwasanaeth gwirio cymwysterau sy'n gwirio unrhyw gymhwyster cymeradwy mewn gwaith cymdeithasol a ddyfernir yng Nghymru (mae hyn yn cynnwys cymwysterau cyn y radd mewn gwaith cymdeithasol). 

Gallwch ofyn i ni am lythyr sy'n dangos: 

  • y cymhwyster a gafwyd 
  • dyddiad cymhwyso 
  • y sefydliad hyfforddi a fynychwyd 
  • enw'r person a dderbyniodd y dyfarniad. 

Byddwch yn ymwybodol: 

  • y gall y gwasanaeth hwn gymryd hyd at 20 diwrnod gwaith 
  • dim ond i ddeiliad y dyfarniad y gallwn anfon llythyrau gwirio 
  • mae angen caniatâd ysgrifenedig arnom i'w anfon at gyflogwr neu asiantaeth gyflogaeth 
  • nid yw'r llythyr gwirio yn gyfystyr â manylion adnabod 
  • nid yw'r llythyr yn dystiolaeth fod person yn weithiwr cymdeithasol cymwysedig cofrestredig 
  • mae gan gyflogwyr gyfrifoldeb i wirio'r manylion hyn. 

Os ydych chi eisiau llythyr gwirio ar gyfer cymhwyster a ddyfarnwyd yng Nghymru, llenwch y ffurflen isod a'i hanfon at cofrestru@gofalcymdeithasol.cymru: