Jump to content
Bod yn llofnodwr

Gwybodaeth am rolau prif lofnodwyr a llofnodwyr ychwanegol, sut i fod yn llofnodwr, a'r hyn sydd angen i chi ei wneud ym mhob cam o'r broses gofrestru.

Rhaid i gyflogwyr a sefydliadau addysg uwch enwebu pobl briodol i fod yn llofnodwyr. Mae llofnodwyr yn cymeradwyo ceisiadau fel bod pobl yn gallu cofrestru gyda ni ac adnewyddu eu cofrestriad.

Mae tri math o lofnodwyr:

  • prif lofnodwyr: rhywun mewn rôl uwch sydd â mynediad at gofnodion AD. Bydd gan y rôl hon gyfrifoldeb cyffredinol am y broses gofrestru ar ran y sefydliad, gan gynnwys cymeradwyo unrhyw gais. 
  • llofnodwyr ychwanegol: maen nhw'n cael eu henwebu gan brif lofnodwr, ac maen nhw'n gallu cymeradwyo ceisiadau.
  • aseswyr cymhwysedd: rheolwyr cofrestredig, neu os nad oes rheolwr cofrestredig mewn sefydliad gall yr Unigolyn Cyfrifol enwebu rhywun. Gallai prif lofnodwr neu lofnodwr ychwanegol wneud y rôl hon hefyd.

Beth mae llofnodwr yn ei wneud?

Mae llofnodwyr yn gyfrifol am: 

  • gymeradwyo ceisiadau
  • gwirio dogfennau adnabod
  • cyfnewid gwybodaeth gyda ni
  • rhoi gwybod i ni am unrhyw faterion addasrwydd i ymarfer
  • rhoi gwybod i ni a yw person cofrestredig wedi gadael eich cyflogaeth
  • cefnogi unigolion i aros ar y Gofrestr
  • rhoi gwybod i ni os yw myfyriwr yn gohirio mynediad neu'n tynnu'n ôl o'r cwrs
  • diweddaru gwybodaeth cofrestru myfyrwyr a DBS trwy GCCarlein
  • cadarnhau bod ymgeiswyr neu bobl gofrestredig yn addas i fod yn rhan o weithlu proffesiynol a bod ganddyn nhw’r sgiliau, y wybodaeth a'r hyfforddiant perthnasol i ddarparu gofal a chefnogaeth dda i bobl Cymru.

Sut ydw i'n dod yn llofnodwr?

I ddod yn brif lofnodwr, cysylltwch â llofnodwyr@gofalcymdeithasol.cymru. Byddwn ni’n gofyn cwestiynau i wirio eich bod chi'n addas ar gyfer y rôl. 

I ddod yn llofnodwr ychwanegol, ewch i'r adran 'Gwnewch gais i fod yn Llofnodwr' ar GCCarlein. Ar ôl i chi gyflwyno'ch cais, bydd angen i brif lofnodwr eich sefydliad ei gymeradwyo. 

Rhaid i sefydliad gael prif lofnodwr cymeradwy cyn gallwn ni ychwanegu unrhyw lofnodwyr ychwanegol.

Cofiwch...

Os oes gennych chi gyfrif GCCarlein, nid oes angen i chi greu un newydd i fod yn llofnodwr. 

Dim ond un cyfrif GCCarlein sydd ei angen arnoch chi ar gyfer pob rôl ac unrhyw ryngweithio â ni.

Ar ôl dod yn llofnodwr

Byddwn ni’n anfon e-bost i roi gwybod i chi pan fyddwch chi wedi cael eich derbyn fel llofnodwr. Byddwn ni’n esbonio'r camau nesaf ac yn dweud wrthych chi sut i greu cyfrif GCCarlein, os nad oes gennych chi un eisoes. 

Ar ôl i chi gael eich sefydlu fel llofnodwr yn GCCarlein, gallwch chi:

  • gweld pwy sydd wedi cofrestru a phwy sydd wedi gwneud cais i gofrestru yn eich sefydliad
  • gweld ffioedd blynyddol a dyddiadau adnewyddu pobl gofrestredig
  • gofyn am a chymeradwyo llofnodwyr newydd (prif lofnodwyr yn unig)
  • cadw eich rhestr o lofnodwyr (prif lofnodwyr yn unig)
  • bod y prif gyswllt ar faterion cofrestru
  • rhoi gwybod i ni os bydd unrhyw un yn gadael eu swydd
  • cael mynediad at wybodaeth gofrestru uwch fel sancsiynau addasrwydd i ymarfer.

Rôl y llofnodwr yn y broses gofrestru

Mae'r canllaw hwn yn esbonio'r hyn sydd angen i brif lofnodwyr a llofnodwyr ychwanegol ei wneud ym mhob cam o'r broses gofrestru, o ddechrau arni i reoli cyfrifoldebau parhaus.

1. Dechrau arni fel llofnodwr

2. Cam ymgeisio

3. Cefnogi staff i gynnal eu cofrestriad

4. Delio â phryderon ac addasrwydd i ymarfer

5. Dileu a gadael y sefydliad