Jump to content
Gwybodaeth ar gyfer asiantaethau recriwtio

Cyngor am gefnogi eich staff sydd wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.

eicon person yn rhoi braich o gwmpas ysgwydd person

Fel asiantaeth recriwtio, eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod staff gofal cymdeithasol sy’n gweithio i’ch asiantaeth wedi'u cofrestru gyda ni.

Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth ynghylch pam rydyn ni’n cofrestru gweithwyr, pwy sy'n gallu cofrestru a manteision cael gweithlu gofal cymdeithasol cofrestredig yma.

Dyma rai rolau sydd angen cofrestru gyda ni:

  • gweithwyr gofal cymdeithasol: rhaid cofrestru gyda ni o fewn chwe mis o weithio ym maes gofal.
  • gweithwyr cymdeithasol: rhaid cofrestru gyda ni cyn iddyn nhw ddechrau gweithio fel gweithiwr cymdeithasol.
  • rheolwyr gofal cymdeithasol: rhaid cofrestru gyda ni fel rheolwr pan fyddan nhw’n dechrau eu swydd.

Chwiliwch ein Cofrestr i weld pwy sydd wedi cofrestru gyda ni.

Gwneud cais i gofrestru

Rhaid i staff gofal cymdeithasol sydd angen cofrestru gyda ni fod â chymhwyster perthnasol ar gyfer eu rôl. 

Rhagor o wybodaeth am y cymwysterau gofynnol ac a argymhellir ar gyfer gwahanol rolau swyddi.

Mae yna hefyd ganllawiau ar sut i wneud cais i gofrestru.

Pan fydd gweithiwr yn gwneud cais i gofrestru gyda ni, gofynnir iddyn nhw ddewis eu cyflogwr. Os ydyn nhw'n gweithio gyda chi, dylen nhw ddewis eich asiantaeth fel eu cyflogwr. 

Os yw eich gweithiwr wedi eich rhestru fel eu cyflogwr, bydd gennych rai cyfrifoldebau sy'n gysylltiedig â'u cofrestru.

Eich cyfrifoldebau

Rhaid i bob gweithiwr gofal cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru fod â thystysgrif gyfredol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), sydd â gwiriad 'Manylach gyda Rhestr Wahardd' ar gyfer y maes y maen nhw’n gweithio ynddo (plant neu oedolion).

Bydd angen i chi ddarparu dyddiad ar gyfer y DBS – a ddylai fod o fewn y tair blynedd diwethaf – fel rhan o gais eich gweithiwr i ymuno â'r Gofrestr neu adnewyddu ei gofrestriad. Os nad yw'r wybodaeth DBS ar gael, gofynnir i chi gadarnhau bod y gwiriad DBS ar y gweill ac i roi gwybod i ni pan fyddwch chi wedi ei dderbyn. Os yw'ch gweithiwr wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth diweddaru, gallwch ddefnyddio hyn i wirio eu DBS.

Llofnodwyr a chymeradwyaeth

Rhaid i gyflogwyr, gan gynnwys asiantaethau, enwebu pobl briodol i weithredu fel llofnodwyr. Mae llofnodwyr yn cymeradwyo ceisiadau fel y gall pobl gofrestru gyda ni ac adnewyddu eu cofrestriad.

Mwy o wybodaeth am fod yn llofnodwr

Unwaith y byddwch chi’n llofnodwr ar gyfer eich asiantaeth recriwtio, gallwch fewngofnodi i'ch cyfrif GCCarlein, lle byddwch chi'n dod o hyd i lawer o wybodaeth i'ch helpu chi. Mae hyn yn cynnwys rhestr o weithwyr sydd wedi dewis eich sefydliad fel eu prif gyflogwr ac unrhyw dasgau y mae angen i chi eu gwneud, fel cymeradwyo cais. 

Rhaid i bob gweithiwr sydd wedi cofrestru gyda ni dalu ffi – fe welwch wybodaeth am ba ffioedd sy'n ddyledus a dyddiadau talu yn eich cyfrif GCCarlein. 

Mwy o wybodaeth am ein ffioedd.

Asesiad gan gyflogwr

Os nad oes gan eich gweithiwr y cymhwyster sydd ei angen arnyn nhw i gofrestru gyda ni, gallan nhw ofyn i chi asesu eu dealltwriaeth o egwyddorion gofal cymdeithasol yng Nghymru yn lle hynny, wrth iddyn nhw weithio tuag at gael eu cymhwyster. Gelwir hyn yn asesiad gan gyflogwr.

Gan ei bod yn annhebygol y byddwch chi'n gweld gwaith eich gweithiwr drosoch eich hun, dylech weithio gyda'u gweithle i gwblhau'r asesiad gan gyflogwr.

Mwy o wybodaeth am asesiad gan gyflogwyr

Cynnal cofrestriad

Eich gweithwyr sy'n gyfrifol am gynnal eu cofrestriad eu hunain. Mae hyn yn cynnwys diweddaru eu manylion, talu eu ffi flynyddol a gwneud cais i adnewyddu eu cofrestriad bob tair blynedd.

Os oes angen, cefnogwch eich staff i gwblhau'r cymhwyster perthnasol i gynnal eu cofrestriad. 

Os nad yw'ch gweithwyr yn talu eu ffi neu'n adnewyddu eu cofrestriad, byddan nhw’n cael eu tynnu oddi ar y Gofrestr ac ni fyddan nhw’n gallu gweithio mewn rôl gofal cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru. 

Byddwn ni’n rhoi gwybod iddyn nhw fod y broses ddileu wedi dechrau, a byddwn ni’n dweud wrth eu cyflogwr diwethaf ar ôl iddynt gael eu tynnu oddi ar y gofrestr – efallai mai chi fydd hwn. 

Mwy o wybodaeth am gyfrifoldebau gweithwyr cofrestredig.

Addasrwydd i ymarfer

Os ydych chi'n ymwybodol o bryderon am weithiwr cofrestredig rydych chi wedi'i gontractio fel gweithiwr asiantaeth, dylech chi weithio gyda'r lleoliad i ymchwilio i'r pryderon hyn. Bydd gan y lleoliad y manylion a'r dystiolaeth i gefnogi honiadau yn y gweithle fel y gall ymchwiliad ddigwydd, ond rydych chi'n parhau i fod yn gyflogwr y gweithiwr. 

Lle bo'n briodol, dylech chi neu'r lleoliad gwaith wneud atgyfeiriad i'r tîm addasrwydd i ymarfer. Gall methu â dilyn y broses hon olygu bod defnyddwyr gofal a chymorth bregus mewn perygl o niwed, yn enwedig pan ganiateir i weithiwr symud i leoliad arall heb unrhyw graffu. 

Mae rhagor o wybodaeth am y broses addasrwydd i ymarfer a sut i wneud atgyfeiriad ar ein gwefan.