Jump to content
Beth i'w ddisgwyl gan eich gweithiwr gofal cymdeithasol

Mae gweithwyr gofal cymdeithasol yn eich helpu i fyw eich bywyd yn y ffordd rydych chi ei eisiau. Dylen nhwl bob amser ystyried eich llesiant personol a'r hyn sy'n bwysig i chi. Byddant yn cael eu hyfforddi a'u goruchwylio fel y gallant ddarparu gofal a chefnogaeth o ansawdd uchel i chi i'ch helpu i fyw'r bywyd sy'n bwysig i chi.

Darllenwch ein taflen 'Chi a'ch gweithiwr gofal cymdeithasol' i wybod mwy.

Beth allwch chi ei wneud os nad yw eich gweithiwr gofal cymdeithasol yn dilyn y Cod?

Bydd y Cod Ymarfer Proffesiynol yn helpu unigolion sy'n derbyn gofal ac aelodau o'r cyhoedd i ddeall sut y dylai gweithiwr gofal cymdeithasol ymddwyn a sut y dylai cyflogwyr eu helpu i wneud eu gwaith yn dda.

Os oes gennych bryder ynghylch gweithiwr gofal:

  1. Darllenwch y Cod i ymgyfarwyddo â’r safonau
  2. Rhannwch eich pryderon â chyflogwr eich gweithiwr gofal a gofyn beth fydd yn ei wneud
  3. Os nad yw’r cyflogwr yn mynd i’r afael â’ch pryderon, gofynnwch am gopi o’u gweithdrefn gwyno i helpu i chi wybod beth i’w wneud nesaf
  4. Os yw’r gweithiwr wedi’i gofrestru gyda ni ac nid yw siarad â’r cyflogwr wedi helpu, Codwch eich pryder gyda ni a byddwn yn ateb ichi dros y ffôn neu drwy e-bost yn dibynnu ar eich dewis.

Os ydych chi’n pryderu am safon y gofal a ddarperir gan gwmni neu sefydliad, gallwch gysylltu ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ar 0300 7900 126 neu trwy e-bost agc@llyw.cymru.

Diogelu

Beth i wneud os ydych yn credu bod rhywun yn cael eu cam-drin neu mae rhywun yn eich cam-drin chi

Os ydych yn credu bod rhywun yn cael eu cam-drin neu mae rhywun yn eich cam-drin chi, peidiwch â meddwl bod rhywun arall yn gwneud rhywbeth amdano. Nid oes rhaid i’r gamdriniaeth fod gan weithiwr gofal cymdeithasol yn benodol, fe all fod yn rhywun. Rhannwch eich pryderon gyda pherson mewn awdurdod rydych yn gyffyrddus yn siarad â hwy, er enghraifft:

  • Os oes rhywun mewn perygl dybryd deialwch 999
  • Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ar 0300 7900 126
  • Os ydych yn credu bod trosedd wedi cyflawni, cysylltwch â’r heddlu ar 101
  • Gwefannau Byrddau Diogelu Ranbarthol
  • Am fwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael ewch ar wefan Dewis.Cymru
  • Eich Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdod Lleol (neu rif tu allan i oriau).

Cysylltu â ni

Os oes gennych gwestiwn neu os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn edrych amdano, cysylltwch â ni.