Jump to content
Sut i gofrestru

Canllawiau ynglŷn â chofrestru.

Os ydych chi'n weithiwr cymdeithasol neu'n rheolwr gofal cymdeithasol, rhaid i chi gofrestru ar ôl i chi gwblhau eich cymhwyster neu lwybr perthnasol i gofrestru, a dechrau yn y swydd. 

Os ydych chi'n weithiwr gofal cymdeithasol mewn rôl sy'n gofyn am gofrestru, mae gennych chwe mis i gofrestru o'r dyddiad y byddwch chi'n dechrau gweithio yn eich rôl.

Gweithwyr a rheolwyr gofal cymdeithasol

Dyma ganllaw cam wrth gam i'r hyn y mae angen i chi ei wneud i gofrestru gyda ni: 

1. Gwiriwch a oes angen i chi gofrestru 

Mae angen i'r rhan fwyaf o bobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru gofrestru gyda ni. Gallwch ddod o hyd i restr o bwy sydd angen cofrestru yma.  

2. Crëwch gyfrif GCCarlein 

Os oes angen i chi gofrestru a'ch bod yn gwneud cais i gofrestru am y tro cyntaf, bydd angen i chi drefnu bod cyfrif ar ein system gofrestru, GCCarlein. 

Mae hyn yn caniatáu i chi: 

3. Casglwch y wybodaeth y bydd ei hangen arnoch i wneud cais 

Pan fyddwch chi'n llenwi'ch cais i gofrestru, gofynnir i chi am: 

  • gyfeiriad e-bost personol 
  • eich rhif yswiriant gwladol 
  • manylion cyflogaeth (gan gynnwys cyfeiriad, teitl swydd a dyddiad dechrau neu ddyddiad dechrau yn y dyfodol os yw'n swydd newydd) 
  • eich manylion banc i drefnu Debyd Uniongyrchol neu fanylion cerdyn credyd i dalu'ch ffioedd 
  • dyddiad eich gwiriad cofnodion troseddol diweddaraf (DBS) 
  • cadarnhad eich bod yn bwriadu gweithio yng Nghymru 
  • copïau wedi'u gwirio o'ch dogfennau adnabod, oni bai eich bod wedi cael gwiriad DBS yn ystod y tair blynedd diwethaf neu eich bod ar y gwasanaeth diweddaru DBS.

Cofnod disgyblu a throseddau  

Rhaid i chi ddweud wrthym os ydych chi: 

  • wedi cael cofnod disgyblu 
  • yn destun ymchwiliad ar hyn o bryd 
  • bod gennych gofnod troseddol. 
  • Mae canllawiau manwl ar yr hyn sydd ei angen arnoch ac nad oes angen ei ddatgelu ar gael yn y ffurflen gais. 

4. Dewiswch eich llwybr i gofrestru  

Cofrestru gyda chymhwyster 

Cymerwch olwg ar ein fframwaith cymwysterau i weld pa gymwysterau rydyn ni’n eu derbyn ar gyfer gwahanol rolau o fewn gofal cymdeithasol. Mae gennym hefyd restr o gymwysterau eraill sy'n cael eu derbyn.  

Os yw'ch cymhwyster chi ar y rhestr, bydd angen i chi anfon copi o'ch tystysgrif cymhwyster atom pan fyddwch chi'n llenwi eich ffurflen gais.  

Cofrestru heb gymhwyster  

Gall gweithwyr gofal cymdeithasol gofrestru heb gymhwyster trwy broses o'r enw asesiad gan gyflogwr.  

Mae hyn yn golygu bod eich cyflogwr yn asesu eich dealltwriaeth yn erbyn rhestr o feysydd. Os ydyn nhw'n fodlon y gallwch chi wneud y gwaith, gallan nhw gadarnhau eich cais i gofrestru. 

Ar ôl i chi gofrestru, bydd angen i chi gwblhau un o'r cymwysterau a restrir yn y fframwaith cymwysterau o fewn chwe blynedd.  

5. Cymeradwyo eich cais  

Rhaid cymeradwyo eich cais i gadarnhau: 

  • eich cymeriad da 
  • nad oes rheswm na ddylech chi fod ar y Gofrestr. 

Gofynnir i chi ddewis rhywun – a elwir yn llofnodwr – o restr o bobl gymeradwy o'ch sefydliad. Bydd y llofnodwr yn gallu gweld yr holl wybodaeth yn eich cais, ac eithrio eich atebion cydraddoldeb ac amrywiaeth.  

Ni ddylai'r llofnodwr fod yn perthyn i chi ac ni ddylai fod mewn perthynas bersonol â chi.  

Os ydych chi'n cymhwyso ym maes gwaith cymdeithasol yng Nghymru, dewiswch lofnodwr o'ch darparwr cwrs gradd (Sefydliad Addysg Uwch) neu'ch cyflogwr gofal cymdeithasol presennol. Os byddwch chi'n cael swydd erbyn i ni dderbyn cadarnhad o'ch cymhwyster, byddwn yn cysylltu â'ch cyflogwr newydd. Mae hyn yn digwydd cyn i ni gwblhau eich cofrestriad. 

Rhagor o wybodaeth am y broses gymeradwyo.

6. Anfonwch eich dogfennau atom ni

Bydd angen i chi anfon copïau o'ch dogfennau gwreiddiol atom.  

Rhagor o wybodaeth am yr hyn sydd angen i chi ei anfon atom. 

7. Talwch y ffi gofrestru 

Mae ffioedd yn amrywio yn dibynnu ar eich rôl. 

Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd.  

8. Cyflwyno eich cais 

Ar ôl ei gyflwyno, mae ceisiadau fel arfer yn cymryd hyd at chwe wythnos i'w prosesu.  

Myfyrwyr ar gwrs gradd gwaith cymdeithasol

Os ydych chi wedi cael cynnig lle ar gwrs gradd gwaith cymdeithasol yng Nghymru, byddwn yn anfon e-bost atoch yn gofyn i chi greu cyfrif GCCarlein fel y gallwch chi wneud cais i gofrestru. 

Rhaid i chi fod wedi cofrestru gyda ni cyn dechrau eich cwrs. 

Mae bwrsariaeth gwaith cymdeithasol ar  gael i fyfyrwyr gwaith cymdeithasol yng Nghymru i helpu gyda chostau astudio.

Gweithwyr cymdeithasol yn dychwelyd i ymarfer

Gweithwyr cymdeithasol sydd wedi cymhwyso y tu allan i'r DU

Dychwelyd i'r gofrestr

Os ydych wedi cael eich tynnu oddi ar y gofrestr am fethu â thalu eich ffi flynyddol neu am beidio ag adnewyddu’r ffi yn llawn, a'ch bod yn gweithio ym maes gofal cymdeithasol ar hyn o bryd, bydd angen i chi ail-wneud cais i gofrestru. Dylech ddefnyddio eich cyfrif GCCarlein presennol a chwblhau ffurflen gais newydd.