Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan
Ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol newydd, bydd eich cyflogwr yn sicrhau eich bod chi'n cael cyflwyniad llawn i’ch rôl, sy’n cynnwys cwblhau Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan.
Dylai gweithwyr gofal cymdeithasol sy’n newydd i’r sector, y sefydliad neu’r swydd hefyd gwblhau Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan.
Mae’r fframwaith
wedi’i rannu’n saith adran sy’n ymwneud â’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau y bydd eu hangen arnoch yn ystod eich cyfnod sefydlu.
Mae hefyd yn cynnwys modiwlau dysgu digidol sy’n ymdrin â’r cod ymarfer proffesiynol, pwysigrwydd yr iaith Gymraeg a’i diwylliant, a deddfwriaeth sy’n cefnogi dull sy’n seiliedig ar hawliau.
Gweithwyr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso
I weithwyr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso mae canllawiau y tair blynedd gyntaf o ymarfer. Bydd angen i unrhyw un sy’n cymhwyso ar ôl mis Ebrill 2016 gwblhau rhaglen gadarnhau yn y tair blynedd gyntaf. Rydym ni hefyd yn annog gweithwyr cymdeithasol sydd â chymwysterau rhyngwladol i gwblhau’r rhaglen hon os gwnaethoch chi gymhwyso cyn mis Ebrill 2016, ond dewisol yw hyn.
I gofrestru fel gweithiwr cymdeithasol, mae angen i chi gael cymhwyster sydd wedi’i asesu fel un sy’n cyfateb i addysg gwaith cymdeithasol yng Nghymru. Mae gwybodaeth am gofrestru os ydych chi wedi cymhwyso y tu allan i'r DU ar gael ar ein gwefan.
Mae'r teitl gweithiwr cymdeithasol wedi’i ddiogelu. Dim ond pobl sydd â chymhwyster gwaith cymdeithasol ac sydd wedi cofrestru sy’n gallu ymarfer fel gweithwyr cymdeithasol. Mae mwy o wybodaeth am gymwysterau gwaith cymdeithasol yma.
Cymwysterau
Mae angen i unrhyw un a fyddai’n hoffi gweithio ym maes gofal cymdeithasol, gofal plant a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru feddu ar gymhwyster sydd wedi’i restru yn y fframwaith cymwysterau. Os oes gennych chi gymhwyster rhyngwladol nad yw ar y rhestr, gallwch chi ofyn i ni asesu eich cymhwyster.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am gymwysterau, mae gennym ni swyddogaeth ‘sgwrsio’ ar ein gwefan i’ch helpu. Gallwch chi hefyd siarad â’ch cyflogwr.
Diogelu
Mae arferion diogelu yn wahanol mewn gwledydd eraill. Mae’n bwysig eich bod yn ymwybodol o’r gweithdrefnau diogelu yng Nghymru. Mae gwybodaeth am Weithdrefnau Diogelu Cymru ar gael ar ein gwefan neu drwy’r ap, sydd ar gael yn y siop apiau ar gyfer eich dyfais.
Bydd modiwl e-ddysgu diogelu Grŵp A yn rhoi cyflwyniad a dealltwriaeth ymarferol i chi o ddiogelu. Gallwch chi nodi pa hyfforddiant grŵp sydd ei angen ar gyfer eich swydd chi yma.
Hefyd ar ein gwefan, mae gennym ni adnoddau ac astudiaethau achos i’ch helpu chi.
Dylech chi ddefnyddio’r adnoddau hyn ochr yn ochr â pholisi a gweithdrefnau diogelu eich cyflogwr.
Ar 21 Mawrth 2022, ymunodd Cymru â mwy na 60 o wledydd ledled y byd i wahardd cosbi plant yn gorfforol yn unol â'r Ddeddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020.
Mae hyn yn golygu bod yr un amddiffyniad rhag ymosodiadau i blant yng Nghymru ag sydd i oedolion, ac mae’n golygu bod cosbi plant yn gorfforol wedi’i wahardd ym mhob lleoliad yng Nghymru.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Gweithdrefnau Diogelu Cymru.
Ymarfer sy’n seiliedig ar gryfderau
Ystyr ymarfer sy’n seiliedig ar gryfderau yw pan rydym ni’n gweithio gydag unigolyn i ddeall beth sy’n bwysig iddyn nhw. Rydym ni’n datblygu dealltwriaeth o’r hyn sydd angen digwydd i helpu’r unigolyn i fyw’r bywyd gorau posibl, gan ganolbwyntio ar ei lesiant cyffredinol.
Mae rhagor o wybodaeth am ymarfer sy’n seiliedig ar gryfderau ar gael ar ein gwefan.
Rydym ni wedi llunio modiwl e-ddysgu sy’n cynnwys gwybodaeth am ymarfer sy’n seiliedig ar gryfderau, a deddfwriaeth sy’n cefnogi dull sy’n seiliedig ar hawliau.
Yr Iaith Gymraeg a’i diwylliant
Mae diwylliant Cymru yn unigryw gyda’i iaith, arferion, gwyliau, cerddoriaeth, celf, bwyd, chwedloniaeth, hanes a gwleidyddiaeth ei hun. Rydym ni eisiau eich helpu i deimlo’n gartrefol ac yn rhan o’r gymuned yng Nghymru.
Mae Cymru’n wlad ddwyieithog, lle rydym ni'n siarad Cymraeg a Saesneg. Mae disgwyl y bydd rhywun sy’n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth yn derbyn hyn yn eu dewis iaith. Mae derbyn gofal a chymorth yn eu dewis iaith yn golygu bod pobl yn teimlo’n fwy cyfforddus ac yn gallu deall yn iawn. Mae rhagor o wybodaeth am y ‘cynnig gweithredol’, a beth mae hyn yn ei olygu ym maes gofal cymdeithasol, ar gael yn Mwy na geiriau.
Efallai y byddwch chi am ystyried dysgu siarad Cymraeg. Gall dysgu Cymraeg eich helpu i ddarparu gofal i bawb yng Nghymru. Gall hefyd eich helpu chi yn eich bywyd newydd yma yng Nghymru. Gallwch chi ddefnyddio adnodd am ddim ar-lein i asesu eich sgiliau Cymraeg.
Rydym ni wedi datblygu adnodd e-ddysgu ar ymwybyddiaeth o’r Gymraeg ar gyfer gweithwyr newydd sydd eisiau dysgu mwy am yr iaith Gymraeg, ei diwylliant a gweithio’n ddwyieithog. Mae’n cynnwys gwybodaeth am y Gymraeg a dwyieithrwydd, beth mae’r gyfraith yn ei ddweud, a beth mae’n rhaid i ni ei wneud a pham.
Gallech chi ddechrau drwy ddysgu ambell ymadrodd allweddol a fyddai’n golygu llawer i’r bobl rydych chi’n eu cefnogi. Rydym ni wedi creu cyrsiau Camau mewn partneriaeth â’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, yn arbennig ar gyfer pobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol.
Mae’r adnodd dysgu hyblyg hwn yn canolbwyntio ar y geiriau a’r ymadroddion Cymraeg y mae gweithwyr yn fwyaf tebygol o fod eu hangen wrth gyfathrebu â’r bobl rydych chi'n eu cefnogi.
Atal a rheoli heintiau
Dylech chi ddarllen polisïau a gweithdrefnau eich cyflogwr yn ofalus ar gyfer atal a rheoli heintiau.
Mae dulliau da i atal a rheoli heintiau yn hanfodol er mwyn cynnal amgylchedd diogel i bawb a lleihau’r risg o ledaenu heintiau a chlefydau heintus.
Rydym ni wedi datblygu cyfres o adnoddau dysgu digidol i helpu unrhyw un sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol neu’r blynyddoedd cynnar a gofal plant i ddeall sut i leihau lledaeniad heintiau.
Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth drwy wylio’r fideo byr hwn
gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru.
Hawliau cyflogaeth
Rydym ni'n deall bod dechrau swydd newydd mewn gwlad newydd yn gallu bod yn frawychus, cyffrous ac anodd.
Mae’n bwysig gwybod bod gennych chi hawliau cyflogaeth yma yng Nghymru, a bydd gan eich cyflogwr bolisïau a gweithdrefnau i’ch cefnogi. Dylech chi ddarllen y rhain yn ofalus a gofyn cwestiynau os nad ydych yn siŵr o unrhyw beth.
Mae gennym ni God Ymarfer ar gyfer Cyflogwyr Gofal Cymdeithasol (Cod y Cyflogwyr). Mae hwn yn nodi’r safonau a ddisgwylir gan gyflogwyr gofal cymdeithasol. Mae’r cod i gyflogwyr yn canolbwyntio ar y safonau sy’n ofynnol gan gyflogwyr i sicrhau gweithlu gofal cymdeithasol diogel, medrus sy’n cael ei gefnogi’n briodol.
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, mae ACAS (Y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu) yn darparu arweiniad a chyngor ar hawliau cyflogaeth yma yn y Deyrnas Unedig.
Undebau Llafur
If you’re a worker in Wales, you have the right to belong to a Trade Union. You can find out more about joining a union on The Trade Union Congress (TUC) website.
Os ydych chi’n gweithio yng Nghymru, mae gennych chi hawl i fod yn perthyn i Undeb Llafur. Gallwch chi dod o hyn i fwy o wybodaeth ar wefan Gyngres yr Undebau Llafur (TUC).
Caethwasiaeth fodern
Rydym ni’n gwybod bod caethwasiaeth fodern (er ei fod yn beth prin) yn gallu digwydd yn y sector gofal cymdeithasol yma yng Nghymru. Mae caethwasiaeth fodern yn drosedd difrifol.
Os ydych chi’n teimlo eich bod yn ddioddefwr caethwasiaeth, dylech chi ofyn am help cyn gynted ag y gallwch chi.
Mae gan Lywodraeth Cymru wybodaeth am eich hawliau a ble gallwch chi gael cymorth i dorri’n rhydd o gaethwasiaeth.
Mae llinell gymorth Byw Heb Ofn yn cynnig cymorth a chyngor i:
- unrhyw un sy’n profi caethwasiaeth fodern, cam-drin domestig neu drais rhywiol
- pobl sy’n adnabod rhywun sydd angen help
- ymarferwyr sy’n ceisio cyngor proffesiynol.