Mae'r Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol wedi cyhoeddi fframwaith cyflog a dilyniant newydd.
Amdan y fframwaith
Fel rhan o'n gwaith i gefnogi cyfleoedd ar gyfer dilyniant, rydyn ni’n aelod o'r Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol, grŵp partneriaeth gymdeithasol sydd wedi ymrwymo i ymgorffori gwaith teg a gwella telerau ac amodau i bobl sy'n gweithio yn y sector gofal cymdeithasol.
Mae'r fforwm wedi lansio draft cychwynnol o fframwaith cyflog a dilyniant ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae’r fframwaith yn nodi cyfres o fandiau ar gyfer rolau gwahanol swyddi ac mae’n cynnwys y sgiliau, gwerthoedd, gwybodaeth, dealltwriaeth a thasgau nodweddiadol ar gyfer pob un.
Nid yw’r draft hwn yn cynnwys graddfeydd cyflog disgwyliedig eto, ond mae man cychwyn yn cael ei gynnig a bydd graddfeydd llawn yn dilyn.
Rydyn ni wedi dylunio’r fframwaith hwn i gyflawni uchelgeisiau ymrwymiad gwaith teg Cymru a strategaeth y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'n anelu at:
- darparu fframwaith wedi’i symleiddio ar gyfer cyflogwyr a gweithwyr
- gwella recriwtio a chadw mewn gofal cymdeithasol
- darparu llwybr dilyniant clir i’r rheini sy’n ystyried ymuno â’r sector, neu sy’n gweithio ynddo eisoes
- cefnogi datblygiad y gweithlu drwy wella sgiliau a gwybodaeth yn barhaus
- disgrifio a safoni ymddygiad cadarnhaol gweithwyr gofal cymdeithasol
- darparu proses deg a thryloyw ar gyfer gwneud penderfyniadau ynghylch cyflog ar y cyd ac yn unigol (ar y cam hwn mewn sefydliadau unigol).
Undebau llafur
Fel gweithiwr gofal cymdeithasol, mae gennych chi’r hawl i fod yn rhan o undeb llafur. Mae undebau llafur yn helpu gweithwyr i amddiffyn eu hawliau a gwella eu hamgylchiadau gwaith. Gallwch ddarganfod mwy am ymuno ag undeb ar wefan y Gyngres Undebau Llafur (TUC).
Os ydych chi'n gweithio mewn rôl nyrsio ym maes gofal cymdeithasol, y Coleg Nyrsio Brenhinol (RCN) yw llais nyrsio ledled y DU, sy'n cynrychioli tua 35,000 o aelodau yng Nghymru. Mae'n hyrwyddo buddiannau staff nyrsio a chleifion, yn dylanwadu ar bolisi iechyd a gofal cymdeithasol, ac yn cefnogi rhagoriaeth mewn gofal.
Ar draws lleoliadau gofal cymdeithasol yng Nghymru, mae'r RCN yn cefnogi nyrsys cofrestredig, gweithwyr cymorth gofal iechyd, myfyrwyr a'r rhai sy'n gweithio mewn rolau iechyd a gofal cymdeithasol integredig.
Ewch i wefan y Coleg Nyrsio Brenhinol i ddarganfod mwy am ymuno.