Bydd yr adnoddau yma yn eich helpu chi i roi’r Safonau hyfforddiant, dysgu a datblygu diogelu ar waith.
Grŵp A: hyfforddiant diogelu ar-lein
Mae’r pecyn e-ddysgu dwyieithog yn cyfleu dealltwriaeth ymarferol i ddysgwyr o ddiogelu ac fe'i datblygwyd gan Ofal Cymdeithasol Cymru yn unol â Gweithdrefnau Diogelu Cymru.
Mae'r modiwl wedi'i anelu'n bennaf at y rhai sy'n gweithio yn y sectorau cyhoeddus a gwirfoddol.
Bydd cwblhau’r modiwl hyfforddiant newydd yn galluogi pawb i wneud y canlynol:
- esbonio'r term 'diogelu'
- cydnabod camdriniaeth neu'r risg o gamdriniaeth, niwed neu esgeulustod
- gwybod pa gamau i'w cymryd os ydyn nhw'n dyst neu'n amau camdriniaeth, niwed neu esgeulustod, neu os bydd rhywun yn dweud wrthyn nhw eu bod nhw'n cael eu cam-drin
- dangos dealltwriaeth sylfaenol o'r deddfau sy'n ymwneud â diogelu
- cydnabod bod dyletswydd arnyn nhw i riportio camdriniaeth, niwed neu esgeulustod.
Grŵp B: pecyn hyfforddiant diogelu
Mae’r pecyn yma i bobl sy’n cynnal hyfforddiant diogelu i bobl yng Ngrŵp B yng Nghymru.
Fe’i ddyluniwyd i sicrhau bod hyfforddiant diogelu Grŵp B yn gyson gyda chyfrifoldebau pobl yng Ngrŵp B.
Mae’r hyfforddiant yn cynnwys y wybodaeth sylfaenol sydd eu hangen ar bobl yng Ngrŵp B, ond gall hyfforddwyr ychwanegu cynnwys neu bersonoli sleidiau yn ôl anghenion y grŵp o bobl maen nhw’n hyfforddi.
Hoffwn ddiolch yn fawr i Fyrddau Diogelu Gorllewin Morgannwg a Gwent am rannu eu hadnoddau gyda ni i siapio'r pecyn hwn.
Mae’r cynnwys wedi esblygu i adlewyrchu natur gyfnewidiol diogelu yn gyffredinol ond hefyd i adlewyrchu cyfeiriad clir y gwaith o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Am wybodaeth bellach, cyfeiriwch at Weithdrefnau Diogelu Cymru a rhan 7 o’r canllawiau statudol yn yr hyfforddiant.
Dylid defnyddio’r llyfr gwaith ‘Diogelu Unigolion’- llyfr gwaith 6 o’r Fframwaith sefydlu Cymru gyfan fel tystiolaeth o’r dysgu a gyflawnwyd.
-
Gweithlyfr 6 - Diogelu unigolionDOCX 415KB
Darparu’r hyfforddiant
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynglŷn â darparu’r hyfforddiant yma, cysylltwch â’ch Bwrdd Diogelu Rhanbarthol.
Taflenni ac adnoddau hyfforddi
-
Taflen esgeulustodPDF 990KB
-
Taflen cam-drin corfforolPDF 905KB
-
Taflen cam-drin rhywiolPDF 961KB
-
Taflen cam-drin emosiynol a seicolegolPDF 893KB
-
Taflen cam-drin ariannolPDF 974KB
-
Senarios diogeluPDF 3MB
-
Taflen crynodeb datgelu honiadauPDF 953KB
-
Gwybodaeth i’w chynnwys mewn hysbysiadDOCX 54KB
-
Mathau eraill o gam-drinDOCX 30KB
-
Crynodeb deddfwriaeth diogeluDOCX 28KB