Jump to content
Adroddiad effaith: 2021 i 2022

Trosolwg o’r hyn rydyn ni wedi ei gyflawni yn ystod y flwyddyn, yn erbyn ein wyth canlyniad cenedlaethol.

Rhagair gan ein Cadeirydd a Phrif Weithredwr

Mae 2021 i 2022 wedi bod yn flwyddyn hynod heriol arall i’r sectorau gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar.

Rydyn ni eisiau diolch i bawb sy’n gweithio o fewn y sectorau gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofal plant am eu hymrwymiad a’u proffesiynoldeb mewn amgylchiadau anodd.

Bu heriau penodol o ran denu, recriwtio a chadw pobl â’r rhinweddau a’r sgiliau cywir ac mae’r rheini’n dal i fod yn amlwg iawn heddiw.

Rydyn ni’n parhau i gyflawni ein cyfrifoldebau rheoleiddio yn deg ac yn gymesur. Rydyn ni hefyd yn parhau i addasu a gwella ein gwaith yn y maes hwn.

Parhau i ddarllen y rhagair

Effaith yn ôl canlyniad cenedlaethol

Gwaith corfforaethol wedi’i gwblhau yn ystod y flwyddyn

Cynllun Strategol

Yn dilyn ymgynghoriad ar ein blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol cymeradwyodd ein Bwrdd Ein cynllun strategol ar gyfer 2022 i 2027.

Mae’r cynllun yn nodi ein blaenoriaethau a’n cynigion ar gyfer yr hyn yr ydym am ei gyflawni a ble rydym yn awgrymu ein bod yn canolbwyntio ein hegni.

Mae hefyd yn egluro sut rydyn ni am weithio gyda phobl dros y pum mlynedd nesaf i wireddu ein gweledigaeth.

Mae cryn dipyn o waith wedi’i wneud i sicrhau bod ein hadnoddau ariannol yn adlewyrchu ein huchelgeisiau i gefnogi diwygiadau i wella darpariaeth. Bydd hyn yn cynyddu cynaliadwyedd gwasanaethau ar draws y sector.

Rydyn ni’n parhau i esblygu fel sefydliad ac mae 2021 i 2022 wedi bod yn flwyddyn o atgyfnerthu a datblygu.

Rydyn ni wedi gweithio i wneud yn siŵr bod gennym wasanaethau effeithiol ac effeithlon ar gyfer ein cwsmeriaid.

Rydyn ni wedi recriwtio 40 o weithwyr newydd i ddatblygu ffrydiau gwaith presennol a bwrw ymlaen â meysydd gwaith newydd.

Rydyn ni wedi diwygio a buddsoddi mewn rhai o’n prosesau a’n seilwaith i wella effeithlonrwydd gwasanaethau.

Ymgysylltu

  • Mwy nag 1.8m o ymweliadau â thudalennau gwefan
  • Y nifer uchaf erioed o ymweliadau â thudalennau a gofnodwyd ym mis Chwefror 2022: 175,300
  • Mwy na 6,500 o ddilynwyr ar Twitter. Mae gennym ni hefyd 4,500 o ddilynwyr ar ein tudalen Facebook, sy'n cael ei graddio'n 5 allan o 5 gan bobl sy'n ymweld â hi.

Digidol o Ddewis

Fe wnaethom ni ddatblygu ein strategaeth ddigidol a’n hymagwedd at hyfforddiant a dysgu digidol ar gyfer y sector gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar.

Rydyn ni eisiau sicrhau bod ein gwasanaethau ar-lein yn cydfynd â'n cynulleidfaoedd cynyddol. Mae angen i’r gwasanaethau fodloni pob un o'u hanghenion o ran cynnwys, hygyrchedd a phrofiad.

Wrth i ni symud ymlaen, ein nod ydy bod ein defnyddwyr yn dewiss ‘digidol o ddewis’. Byddwn ni’n parhau i gefnogi’r rhai sydd angen defnyddio ein gwasanaeth trwy ddulliau amgen.

Edrych i'r Dyfodol

Rydyn ni'n myfyrio ar ein cynnydd bob blwyddyn. Mae hyn yn sicrhau ein bod ni’n dysgu’n barhaus a bod ein hadnoddau’n cael eu defnyddio i’r effaith orau.

Gwyddom o’n rhaglen Gwobrau, fod arfer rhagorol yng Nghymru.

Byddwn ni'n parhau i gefnogi’r gwaith o fabwysiadu a lledaenu’r arfer hwnnw drwy ein harweiniad a’n cymorth ar gyfer y sector gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar.

Cyhoeddwyd gyntaf: 27 Mehefin 2023
Diweddariad olaf: 29 Mehefin 2023
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (53.1 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch