Jump to content
Canlyniad: Llesiant gwell ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol a'r blynyddoedd cynnar

Trosolwg o’n cynnydd yn erbyn y canlyniad hwn yn ystod 2021 i 2022.

Pam ei fod yn bwysig

Mae llesiant y gweithlu yn ffocws allweddol yn strategaeth y gweithlu ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae corff cynyddol a chymhellol o dystiolaeth sy’n cysylltu llesiant, gallu a chymhelliant y gweithlu gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar â chanlyniadau gwell i’r plant, y bobl ifanc a’r oedolion y maent yn darparu gofal a chymorth ar eu cyfer.

Mae gweithlu gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar hapus, iach ac wedi’i gefnogi yn ei dro yn cefnogi llesiant y bobl yn eu gofal.

Ein heffaith

Rydyn ni’n canolbwyntio ar arweinyddiaeth dosturiol a chymorth ymarferol am lesiant.

Y gweithlu gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar yw ein hased mwyaf a mwyaf gwerthfawr o ran darparu gofal a chymorth o ansawdd uchel.

Fodd bynnag, mewn gormod o achosion, mae adborth gan y gweithlu yn awgrymu nad ydyn nhw bob amser yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u cefnogi.

Gall hyn arwain at ddiffyg ymgysylltu a chymhelliant a gall effeithio ar bresenoldeb a throsiant. Mae hyn yn y pen draw yn effeithio ar ansawdd y gofal i blant, pobl ifanc ac oedolion sydd wrth wraidd gwasanaethau.

Ychydig o ddata sydd ar gael i fesur llesiant y gweithlu ar raddfa fawr.

Yn ystod ein hymgynghoriad am y strategaeth gweithlu clywsom gan dros 1,000 o bobl a ddywedodd wrthym fod iechyd a llesiant y gweithlu o’r pwys mwyaf.

Byddwn yn treialu arolwg o’r gweithlu yn 2022 i 2023 i ganfod data mewn perthynas â llesiant y gweithlu. Bydd hyn yn ein galluogi i weld effaith ein mentrau a thargedu adnoddau yn y meysydd cywir.

Yn ystod 2021 i 2022 fe wnaethom ni ddatblygu adnoddau arweinyddiaeth tosturiol a chyflwyno nifer o sesiynau grŵp cymheiriaid penodol ar gyfer y gweithlu i wella llesiant.

Yn gyffredinol, mae'r gwerthusiadau rhaglen a thystiolaeth ategol arall yn dangos ein bod wedi darparu rhaglenni sy'n bodloni anghenion cydnabyddedig yn y sector.

Mae rhaglenni wedi cael effaith gadarnhaol yn gyson ar yr unigolion a'r sefydliadau sy'n cymryd rhan ac, yn ychwanegol, y rhai sy'n derbyn gofal.

Mae'r rhaglenni'n arloesol, yn ymatebol ac wedi'u datblygu gyda'r nod canolog o ddiwallu anghenion y sector.

Gwnaethom hefyd ddatblygu ymhellach ein Rhaglen Cymorth i Weithwyr ar gyfer y sector gofal cymdeithasol cyfan, a sefydlwyd yn 2020, yn ystod y pandemig.

Rhoesom dystiolaeth i Lywodraeth Cymru i’w galluogi i ddatblygu cynnig cymorth llesiant newydd ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol, a lansiwyd ym mis Ebrill 2022, fel Canopi.

Tudalen nesaf

Gweithlu gofal cymdeithasol a'r blynyddoedd cynnar sy'n cael ei gydnabod a'i werthfawrogi'n fawr

Cyhoeddwyd gyntaf: 27 Mehefin 2023
Diweddariad olaf: 28 Mehefin 2023
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (30.3 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch