Gwybodaeth am wneud cais i ddileu eich enw oddi ar y Gofrestr, pan mae cofrestru'n dod i ben ac arweiniad i fyfyrwyr sy'n dymuno tynnu'n ôl o'u cwrs.
Cais i ddileu enw
Gall person cofrestredig wneud cais i ddileu ei enw oddi ar y Gofrestr ar unrhyw adeg.
Os nad ydych yn bwriadu ymarfer yng Nghymru, dylech ofyn i ni dynnu’ch enw oddi ar y Gofrestr.
I wneud cais i ddileu’ch enw, dylech fewngofnodi i'ch cyfrif GCCarlein a chlicio ar ‘Fy Nghofrestriad neu Adnewyddiad’ a dewis ‘dileu’.
Os ydych yn bwriadu ymarfer mewn rhan arall o’r DU, bydd angen i chi gofrestru gyda’r cyngor perthnasol.
Cofrestriad yn darfod
Mae’n rhaid cwblhau eich cais i adnewyddu o leiaf 21 diwrnod cyn y dyddiad adnewyddu. Os nad ydych yn gwneud hynny, byddwn yn anfon hysbysiad o fwriad i ddileu eich enw oddi ar y Gofrestr. Bydd yn cael ei anfon at eich cyflogwr hysbys diwethaf hefyd.
Ni allwn sicrhau y byddwn yn prosesu ceisiadau adnewyddu mewn llai na 21 diwrnod. Oni bai bod eich cofrestriad yn cael ei adnewyddu, bydd yn darfod un diwrnod ar ôl eich dyddiad adnewyddu.
Mae darfod yn golygu y bydd enw person yn cael ei ddileu oddi ar y Gofrestr. Nid yw’n gallu ymarfer yn gyfreithlon yng Nghymru gan nad yw wedi’i gofrestru.
Os yw’ch cofrestriad wedi darfod a bod angen i chi ddychwelyd i’r Gofrestr bydd angen i chi:
- gyflwyno cais newydd i gofrestru
- bodloni’r holl ofynion
- darparu eich cofnod datblygiad proffesiynol parhaus DPP (a elwid gynt yn PRTL).
Dileu trwy gytundeb
I gael gwybodaeth am ddileu trwy gytundeb gweler Sut rydym yn delio â phryderon.
Myfyrwyr cofrestredig sy’n gadael eu cwrs
Os ydych yn fyfyriwr, bydd eich prifysgol yn rhoi gwybod i ni os ydych yn gadael eich cwrs. Wedyn byddwn yn dechrau’r broses o ddileu’ch enw oddi ar y Gofrestr. Byddwn yn eich hysbysu pan fydd y broses wedi’i chwblhau.
Cysylltu â ni
Os oes gennych gwestiwn neu os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn edrych amdano, cysylltwch â ni.